xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 3162 (Cy.273)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau Taliadau Gweinyddol (Crynodeb o Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2007

Gwnaed

5 Tachwedd 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Tachwedd 2007

Yn dod i rym

30 Tachwedd 2007

Mae Gweinidogion Cymru(1), drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 4(2) o Atodlen 11 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002(2) ac adran 26 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(3) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Gweinyddol (Crynodeb o Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan gyflwynir, ar 30 Tachwedd 2007, neu ar ôl hynny, hawliad am daliad gweinyddol(4) mewn perthynas ag annedd(5) yng Nghymru.

Ffurf a chynnwys crynodeb o hawliau a rhwymedigaethau

2.  Rhaid i'r crynodeb o hawliau a rhwymedigaethau sy'n gorfod mynd gyda hawliad am daliad gweinyddol fod yn ddarllenadwy ar ffurf deipiedig neu argraffiedig o o leiaf 10 pwynt, a rhaid iddo gynnwys—

(a)y pennawd “Taliadau Gweinyddol – Crynodeb o hawliau a rhwymedigaethau tenantiaid / Administration Charges – Summary of tenants' rights and obligations”; a

(b)y datganiad canlynol—

“(1) Rhaid yn ôl y gyfraith i'r crynodeb hwn, sy'n gosod yn gryno eich hawliau a'ch rhwymedigaethau mewn cysylltiad â thaliadau gweinyddol, fynd gyda galwad am daliadau gweinyddol. Oni fydd crynodeb yn cael ei anfon atoch gyda'r alwad i dalu, gellwch ddal y taliad gweinyddol yn ôl. Nid yw'r crynodeb yn rhoi dehongliad llawn o'r gyfraith ac os ydych mewn unrhyw amheuaeth ynglyn a'ch hawliau a'ch rhwymedigaethau dylech geisio cyngor annibynnol.

(2) Taliad gweinyddol yw swm a all fod yn daladwy gennych fel rhan o'ch rhent yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol neu'n ychwanegol ato—

(3) Mae unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir mewn dogfen yn rhoi les o dan yr hawl i brynu dan Ddeddf Tai 1985 sy'n honni gadael i'r landlord godi swm am ganiatâd neu gymeradwyaeth, yn ddi-rym.

(4) Mae gennych hawl i ofyn i dribiwnlys prisio lesddaliadau a yw taliad gweinyddol yn daladwy. Gellwch ofyn naill ai cyn neu ar ôl i chi dalu'r tâl gweinyddol. Os yw'r tribiwnlys prisio'n penderfynu fod y tâl yn daladwy fe all y bydd y tribiwnlys hefyd yn penderfynu—

(5) Mae gennych hawl i wneud cais i dribiwnlys prisio lesddaliadau am orchymyn yn amrywio'r les ar y sail fod unrhyw daliad gweinyddol a bennir yn y les, neu unrhyw fformiwla a bennir yn y les ar gyfer cyfrifo taliad gweinyddol, yn afresymol.

(6) Pan fyddwch yn ceisio penderfyniad neu orchymyn gan dribiwnlys prisio lesddaliadau bydd rhaid i chi dalu ffi ar gyfer gwneud cais, ac os bydd y mater yn mynd ymlaen am wrandawiad, ffi gwrandawiad, oni fyddwch yn gymwys i gael hepgor neu ostwng y ffi. Ni fydd cyfanswm y ffioedd taladwy i'r tribiwnlys yn fwy na £500, ond gall costau ychwanegol, megis ffioedd proffesiynol, ddeillio o wneud cais, a dichon mai chi fydd raid eu talu.

(7) Mae gan dribiwnlys prisio lesddaliadau y pwer i ddyfarnu costau, heb fod yn uwch na £500, yn erbyn parti mewn unrhyw achos—

(8) Efallai bod eich les yn rhoi hawl i'ch landlord ail-feddiannu neu gymryd yn fforffed os ydych wedi methu talu taliadau sy'n briodol ddyledus o dan y les. I arfer yr hawl hwn fodd bynnag rhaid i'r landlord gwrdd â'r holl ofynion cyfreithiol a sicrhau gorchymyn llys. Dim ond os byddwch wedi cyfaddef eich bod yn atebol i dalu'r swm, neu os bydd llys, tribiwnlys, neu broses gymrodeddu wedi dyfarnu'n derfynol fod y swm yn ddyledus y rhoddir gorchymyn llys. Mae gan y llys ddisgresiwn eang wrth roi gorchymyn o'r fath a bydd yn cymryd ystyriaeth o holl amgylchiadau'r achos.

(1) This summary, which briefly sets out your rights and obligations in relation to administration charges, must by law accompany a demand for administration charges. Unless a summary is sent to you with a demand, you may withhold the administration charge. The summary does not give a full interpretation of the law and if you are in any doubt about your rights and obligations you should seek independent advice.

(2) An administration charge is an amount which may be payable by you as part of or in addition to the rent directly or indirectly—

(3) Any provision contained in a grant of a lease under the right to buy under the Housing Act 1985, which claims to allow the landlord to charge a sum for consent or approval, is void.

(4) You have the right to ask a leasehold valuation tribunal whether an administration charge is payable. You may make a request before or after you have paid the administration charge. If the tribunal determines the charge is payable, the tribunal may also determine—

(5) You have the right to apply to a leasehold valuation tribunal for an order varying the lease on the grounds that any administration charge specified in the lease, or any formula specified in the lease for calculating an administration charge, is unreasonable.

(6) Where you seek a determination or order from a leasehold valuation tribunal, you will have to pay an application fee and, where the matter proceeds to a hearing, a hearing fee, unless you qualify for a waiver or reduction. The total fees payable to the tribunal will not exceed £500, but making an application may incur additional costs, such as professional fees, which you may have to pay.

(7) A leasehold valuation tribunal has the power to award costs, not exceeding £500, against a party to any proceedings where—

(8) Your lease may give your landlord a right of re-entry or forfeiture where you have failed to pay charges which are properly due under the lease. However, to exercise this right, the landlord must meet all the legal requirements and obtain a court order. A court order will only be granted if you have admitted you are liable to pay the amount or it is finally determined by a court, a tribunal or by arbitration that the amount is due. The court has a wide discretion in granting such an order and it will take into account all the circumstances of the case..

Jocelyn Davies

O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

5 Tachwedd 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu cynnwys y crynodeb o hawliau a rhwymedigaethau tenantiaid sy'n ymwneud â thaliadau gweinyddol y mae'n rhaid iddo fynd gydag unrhyw hawliad am daliadau o'r fath a wneir gan landlord. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer mân faterion o ran ffurf y crynodeb.

Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, y Gyfarwyddiaeth Dai, Uned y Sector Breifat, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn 01685 729181), neu gan HousingDirectorate@wales.gsi.gov.uk.

(1)

Mae'r pwerau a roddir gan baragraff 4(2) o Atodlen 11 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p.15) yn arferadwy gan yr awdurdod gwladol priodol. Diffinnir “Appropriate national authority” yn adran 179(1) o'r Ddeddf honno a'i ystyr o ran Cymru yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (c. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi mae'r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(4)

I gael ystyr “administration charge” gweler paragraff 1 o Atodlen 11 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.

(5)

I gael ystyr “dwelling” gweler adran 38 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 (p. 70).