Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adran 2A o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 (“Deddf 1983”), a fewnosodwyd gan adran 208(1) o Ddeddf Tai 2004. Mae'n diwygio Atodlen 1 i Ddeddf 1983, a ddiwygiwyd hefyd gan adran 207 o Ddeddf Tai 2004. Mae Atodlen 1 yn cynnwys telerau sydd, yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf 1983, wedi'u gosod ymhlyg mewn cytundebau y mae adran 1 o Ddeddf 1983 yn gymwys iddynt. Mae adran 1 yn gymwys i gytundebau y mae gan berson yr hawl oddi tanynt i osod cartref symudol ar safle gwarchodedig ac i'w feddiannu'n unig breswylfa neu'n brif breswylfa iddo.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â chytundebau ar gyfer gosod cartrefi symudol yng Nghymru.
Dyma'r Gorchymyn cyntaf i'w wneud yng Nghymru o dan adran 2A o Ddeddf 1983. Yn unol ag is-adran (4) o'r adran honno, mae erthygl 1(2) o'r Gorchymyn hwn yn darparu bod y telerau ychwanegol sydd ymhlyg ac y mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar eu cyfer yn cael eu gosod ymhlyg mewn cytundebau a wnaed cyn y diwrnod y daw'r Gorchymyn hwn i rym, yn ogystal ag mewn cytundebau a wneir ar neu ar ôl y diwrnod hwnnw.
Yn ychwanegol at fân ddiwygiadau a rhai drafftio, mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 1 i Ddeddf 1983 fel a ganlyn:
Mae erthygl 2(2) yn diwygio paragraff 5 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'r llys fod yn fodlon, cyn iddo wneud gorchymyn o dan y paragraff hwnnw'n terfynu cytundeb ar y sail nad yw'r meddiannydd yn meddiannu'r cartref symudol yn unig breswylfa neu'n brif breswylfa iddo, ei bod yn rhesymol i'r cytundeb gael ei derfynu.
Mae erthygl 2(3) yn diwygio paragraff 6 er mwyn galluogi perchenogion i wneud cais i'r llys am gael terfynu cytundeb ar unwaith os bydd y cartref symudol yn cael effaith andwyol ar amwynder y safle.
Mae erthygl 2(4) yn diwygio paragraff 8(1), sy'n gymwys pan fydd meddiannydd yn dymuno gwerthu ei gartref symudol. Mae is-baragraff (1C) newydd yn datgan na chaiff y perchennog osod amodau pan fydd yn rhoi ei gymeradwyaeth.
Mae erthygl 2(5) yn diwygio paragraff 9(1) drwy fewnosod is-baragraff (3) newydd, sy'n darparu na chaiff y perchennog fynnu unrhyw dâl wrth roi cartref symudol yn anrheg.
Mae erthygl 2(6) yn rhoi paragraff 10 newydd yn lle'r hen un ac yn mewnosod paragraffau newydd yn dwyn y Rhif au 11 i 29. Mae paragraff 10 newydd yn ymwneud â gosod cartref symudol ar lain newydd ac yn darparu mai dim ond os bydd y llys yn fodlon bod y llain arall yn gymharol debyg i'r gyntaf a'i bod yn rhesymol i'r cartref symudol gael ei osod yno, neu os bydd angen i'r cartref symudol gael ei symud i alluogi'r perchennog i wneud gwaith trwsio neu waith brys hanfodol arno, y gall perchennog fynnu bod cartref symudol yn cael ei osod ar lain arall. Os symudir y cartref symudol er mwyn galluogi'r perchennog i roi sylfaen newydd yn lle'r sylfaen y mae'r cartref symudol wedi ei osod arno, neu ei alluogi i drwsio'r sylfaen, gall y meddiannydd fynnu, a gall y llys orchymyn, bod y cartref symudol yn cael ei osod yn ôl ar y llain wreiddiol pan fydd y gwaith wedi dod i ben. Mae'n ofynnol i'r perchennog dalu'r holl gostau a threuliau a dynnir gan y meddiannydd mewn cysylltiad â symud ei gartref symudol i lain arall ac oddi yno.
Mae paragraff 11 newydd yn darparu bod gan feddiannydd yr hawl i gael mwynhad tawel o'r cartref symudol tra pery'r cytundeb. Mae paragraffau 12 i 15 newydd yn nodi hawliau'r perchennog i fynd ar y llain (ond nid i fynd i mewn i'r cartref symudol). Mae paragraffau 16 i 20 newydd yn disgrifio'r weithdrefn sydd i'w dilyn wrth adolygu'r ffi llain newydd a'i phennu. Mae'r rhain yn darparu bod y ffi llain yn cael ei hadolygu'n flynyddol ar y dyddiad adolygu ac yn darparu ar gyfer gwneud cais i'r llys os methir â chytuno ar y ffi llain newydd. Mae paragraff 21 newydd yn disgrifio rhwymedigaethau'r meddiannydd o ran y perchennog ac mae paragraffau 22 i 25 yn disgrifio rhwymedigaethau'r perchennog o ran y meddiannydd. Er enghraifft, mae paragraff 22 yn cynnwys gofyniad i ymgynghori â'r meddiannydd ac ag unrhyw gymdeithas breswylwyr gymwys ynghylch gwelliannau i'r safle gwarchodedig. Mae paragraffau 24 a 25 newydd yn disgrifio beth a olygir gan “consult”. Mae paragraffau 26 a 27 newydd yn pennu rhwymedigaeth y perchennog o ran rhoi gwybod i'r meddiannydd ac i unrhyw gymdeithas breswylwyr gymwys beth yw ei enw a'i gyfeiriad, yn gyffredinol ac wrth gyflwyno iddynt unrhyw archiad ysgrifenedig neu hysbysiad ysgrifenedig. Mae paragraff 28 newydd yn rhestru'r meini prawf y mae'n rhaid i gymdeithas breswylwyr eu bodloni os yw i fod yn gymdeithas breswylwyr gymwys at ddibenion Atodlen 1 i Ddeddf 1983. Mae paragraff 29 newydd yn cynnwys diffiniadau o dermau allweddol.
Mae erthygl 3 yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 1 drwy hepgor paragraffau 1, 6 a 7.
Mae erthygl 4 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed. Mae erthygl 4(2) yn datgan mai dim ond mewn perthynas ag adegau sy'n dod ar neu ar ôl 30 Tachwedd 2007 y bydd y telerau sydd ymhlyg yn y Gorchymyn hwn yn effeithiol. Mae erthygl 4(3) yn darparu bod y teler anghyson i beidio â bod yn effeithiol ar ac ar ôl 30 Tachwedd 2007 os bydd unrhyw un o delerau datganedig y cytundeb neu unrhyw deler sydd ymhlyg ynddo yn rhinwedd adran 2(2) o Ddeddf 1983 yn anghyson â'r telerau sydd ymhlyg ynddo yn rhinwedd y diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn.
Mae asesiad effaith reoleiddiol llawn o ran costau a manteision wedi ei wneud a gellir cael copi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Y Gyfarwyddiaeth Dai, Uned y Sector Preifat, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1VZ (ffôn 01685 720181) neu o HousingDirectorate@wales.gsi.gov.uk.