ATODLEN 1MATERION Y MAE AWDURDODAU CYFRIFOL I'W HYSTYRIED

Rheoliad 5(1)

1.

Yn achos plentyn sydd mewn gofal, a ddylid gwneud cais i ddod a'r gorchymyn gofal i ben.

2.

Pan fo'r awdurdod cyfrifol yn awdurdod lleol a ddylai'r awdurdod geisio newid yn statws cyfreithiol y plentyn.

3.

Trefniadau ar gyfer cyswllt, ac a oes unrhyw angen am newidiadau yn y trefniadau er mwyn hybu cysylltiad â theulu'r plentyn ac eraill i'r graddau y mae hynny'n gydnaws â'i les.

4.

Trefniadau'r awdurdod cyfrifol ar unwaith a thros dymor hir ar gyfer y plentyn, trefniadau blaenorol mewn perthynas â'r plentyn, ac a oes angen newid yn y trefniadau hynny ac ystyried dulliau amgen o weithredu.

5.

Pan fo'r awdurdod cyfrifol yn awdurdod lleol, a ddylid penodi ymwelydd annibynnol os na phenodwyd un eisoes.

6.

A oes angen gwneud trefniadau ar gyfer yr adeg pan na fydd y plentyn yn derbyn gofal gan yr awdurdod cyfrifol.

7.

A oes angen gwneud cynlluniau i ganfod teulu amgen parhaol i'r plentyn.

ATODLEN 2MATERION IECHYD Y MAE AWDURDODAU CYFRIFOL I'W HYSTYRIED

Rheoliad 5(1)

1.

Cyflwr iechyd y plentyn, gan gynnwys ei iechyd corfforol, geneuol, emosiynol a meddyliol.

2.

Hanes iechyd y plentyn gan gynnwys, i'r graddau y mae hynny'n ymarferol, hanes iechyd ei deulu.

3.

Effaith iechyd a hanes iechyd y plentyn ar ei ddatblygiad.

4.

Unrhyw angen sydd gan y plentyn am wasanaethau iechyd meddwl.

5.

Y trefniadau presennol ar gyfer gofal a thriniaeth feddygol a deintyddol y plentyn a'i goruchwyliaeth iechyd gan gyfeirio'n benodol at wasanaethau iechyd meddwl.

6.

Yr angen posibl am ddull priodol o weithredu y dylid ei ddynodi i gynorthwyo newid angenrheidiol mewn gofal, triniaeth neu oruchwyliaeth o'r fath.

7.

Yr angen posibl am fesurau ataliol, megis brechu ac imiwneiddio, sgrinio ar gyfer y golwg a'r clyw ac am gyngor a chyfarwyddyd ar iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl a iechyd geneuol ac ar faterion gofal personol ac hybu iechyd sy'n briodol i anghenion y plentyn.

8.

O ystyried yr wybodaeth sydd ar gael mewn perthynas â'r materion a osodir ym mharagraffau 1 i 7 gan gynnwys yr adroddiadau o unrhyw asesiadau, a fydd anghenion iechyd y plentyn yn cael eu diwallu yn y lleoliad arfaethedig.

ATODLEN 3MATERION ADDYSGOL Y MAE AWDURDODAU CYFRIFOL I'W HYSTYRIED.

Rheoliad 5(1)

1.

Hanes addysgol y plentyn.

2.

Yr angen i sicrhau dilyniant yn addysg y plentyn a hybu cyrhaeddiad addysgol y plentyn.

3.

Yr angen i ddynodi unrhyw angen addysgol a eill fod gan y plentyn ac i weithredu i ddiwallu'r angen hwnnw.

4.

Yr angen i wneud unrhyw asesiad mewn perthynas ag unrhyw angen addysgol arbennig o dan Ddeddf Addysg 199611 ac i ddiwallu unrhyw anghenion o'r fath a ddynodir mewn datganiad anghenion addysgol arbennig a wneir o dan adran 324 o'r Ddeddf honno.

5.

O ystyried yr wybodaeth sydd ar gael ym mharagraffau 1 i 4 o'r Atodlen hon, a fydd anghenion addysgol y plentyn yn cael eu diwallu yn y lleoliad arfaethedig.

ATODLEN 4MATERION SYDD I'W CYNNWYS MEWN TREFNIADAU I LETYA PLANT NAD YDYNT MEWN GOFAL

Rheoliad 5(8)

1.

Y math o lety sydd i'w ddarparu a'i gyfeiriad ynghyd ag enw unrhyw berson fydd yn gyfrifol am y plentyn yn y llety hwnnw ar ran yr awdurdod cyfrifol.

2.

Manylion unrhyw wasanaethau sydd i'w darparu ar gyfer y plentyn.

3.

Cyfrifoldebau penodol yr awdurdod cyfrifol ac—

(a)

y plentyn;

(b)

unrhyw riant sydd ganddo; ac

(c)

unrhyw berson nad yw'n riant iddo ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto.

4.

Pa ddirprwyo a fu gan y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(b) ac (c) o'r Atodlen hon i'r awdurdod cyfrifol o gyfrifoldeb rhiant dros ofal y plentyn o ddydd i ddydd.

5.

Y trefniadau ar gyfer rhoi rhan i'r personau hynny a'r plentyn mewn gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'r plentyn o ystyried—

(a)

dyletswydd yr awdurdod lleol o dan adrannau 20(6) (rhoi rhan i blant cyn darparu llety) a 22(3) i (5) o'r Ddeddf (dyletswyddau cyffredinol yr awdurdod lleol mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal ganddo);

(b)

dyletswydd y corff gwirfoddol o dan adran 61(1) a (2) o'r Ddeddf (dyletswyddau cyrff gwirfoddol); ac

(c)

dyletswydd y person sy'n cadw cartref cofrestredig i blant o dan adran 64(1) a (2) o'r Ddeddf (lles plant mewn cartrefi cofrestredig i blant).

6.

Y trefniadau ar gyfer cyswllt rhwng y plentyn ac—

(a)

ei rieni;

(b)

unrhyw berson nad yw'n riant iddo ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto. ac

(c)

unrhyw berthynas, ffrind neu berson arall cysylltiedig ag ef,

ac os yn briodol, y rhesymau pam na fyddai cyswllt gydag unrhyw berson o'r fath yn rhesymol ymarferol neu pam y byddai'n anghydnaws â lles y plentyn.

7.

Y trefniadau ar gyfer rhoi hysbysiad o newid mewn trefniadau ar gyfer cyswllt i unrhyw un o'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6.

8.

Yn achos plentyn 16 mlwydd oed neu fwy a yw adran 20(11) o'r Ddeddf (lletya plentyn 16 mlwydd oed neu fwy er gwaethaf gwrthwynebiad gan riant) yn gymwys.

9.

Y cyfnod y disgwylir i'r trefniadau barhau a'r camau a ddylai fod yn gymwys i ddwyn y trefniadau i ben, gan gynnwys trefniadau i adsefydlu'r plentyn gyda'r person yr oedd yn byw gydag ef cyn gwneud y trefniadau gwirfoddol, neu gyda rhyw berson addas arall, gan ystyried yn benodol, yn achos awdurdod lleol sydd â phlentyn yn derbyn gofal ganddo, adran 23(6) o'r Ddeddf (dyletswydd i leoli plant pan fo'n ymarferol gyda rhieni etc.) a pharagraff 15 o Atodlen 2 o'r Ddeddf (cynnal cyswllt rhwng y plentyn a'i deulu).