- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Rheoliad 5(1)
1. Yn achos plentyn sydd mewn gofal, a ddylid gwneud cais i ddod a'r gorchymyn gofal i ben.
2. Pan fo'r awdurdod cyfrifol yn awdurdod lleol a ddylai'r awdurdod geisio newid yn statws cyfreithiol y plentyn.
3. Trefniadau ar gyfer cyswllt, ac a oes unrhyw angen am newidiadau yn y trefniadau er mwyn hybu cysylltiad â theulu'r plentyn ac eraill i'r graddau y mae hynny'n gydnaws â'i les.
4. Trefniadau'r awdurdod cyfrifol ar unwaith a thros dymor hir ar gyfer y plentyn, trefniadau blaenorol mewn perthynas â'r plentyn, ac a oes angen newid yn y trefniadau hynny ac ystyried dulliau amgen o weithredu.
5. Pan fo'r awdurdod cyfrifol yn awdurdod lleol, a ddylid penodi ymwelydd annibynnol os na phenodwyd un eisoes.
6. A oes angen gwneud trefniadau ar gyfer yr adeg pan na fydd y plentyn yn derbyn gofal gan yr awdurdod cyfrifol.
7. A oes angen gwneud cynlluniau i ganfod teulu amgen parhaol i'r plentyn.
Rheoliad 5(1)
1. Cyflwr iechyd y plentyn, gan gynnwys ei iechyd corfforol, geneuol, emosiynol a meddyliol.
2. Hanes iechyd y plentyn gan gynnwys, i'r graddau y mae hynny'n ymarferol, hanes iechyd ei deulu.
3. Effaith iechyd a hanes iechyd y plentyn ar ei ddatblygiad.
4. Unrhyw angen sydd gan y plentyn am wasanaethau iechyd meddwl.
5. Y trefniadau presennol ar gyfer gofal a thriniaeth feddygol a deintyddol y plentyn a'i goruchwyliaeth iechyd gan gyfeirio'n benodol at wasanaethau iechyd meddwl.
6. Yr angen posibl am ddull priodol o weithredu y dylid ei ddynodi i gynorthwyo newid angenrheidiol mewn gofal, triniaeth neu oruchwyliaeth o'r fath.
7. Yr angen posibl am fesurau ataliol, megis brechu ac imiwneiddio, sgrinio ar gyfer y golwg a'r clyw ac am gyngor a chyfarwyddyd ar iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl a iechyd geneuol ac ar faterion gofal personol ac hybu iechyd sy'n briodol i anghenion y plentyn.
8. O ystyried yr wybodaeth sydd ar gael mewn perthynas â'r materion a osodir ym mharagraffau 1 i 7 gan gynnwys yr adroddiadau o unrhyw asesiadau, a fydd anghenion iechyd y plentyn yn cael eu diwallu yn y lleoliad arfaethedig.
Rheoliad 5(1)
1. Hanes addysgol y plentyn.
2. Yr angen i sicrhau dilyniant yn addysg y plentyn a hybu cyrhaeddiad addysgol y plentyn.
3. Yr angen i ddynodi unrhyw angen addysgol a eill fod gan y plentyn ac i weithredu i ddiwallu'r angen hwnnw.
4. Yr angen i wneud unrhyw asesiad mewn perthynas ag unrhyw angen addysgol arbennig o dan Ddeddf Addysg 1996(1) ac i ddiwallu unrhyw anghenion o'r fath a ddynodir mewn datganiad anghenion addysgol arbennig a wneir o dan adran 324 o'r Ddeddf honno.
5. O ystyried yr wybodaeth sydd ar gael ym mharagraffau 1 i 4 o'r Atodlen hon, a fydd anghenion addysgol y plentyn yn cael eu diwallu yn y lleoliad arfaethedig.
Rheoliad 5(8)
1. Y math o lety sydd i'w ddarparu a'i gyfeiriad ynghyd ag enw unrhyw berson fydd yn gyfrifol am y plentyn yn y llety hwnnw ar ran yr awdurdod cyfrifol.
2. Manylion unrhyw wasanaethau sydd i'w darparu ar gyfer y plentyn.
3. Cyfrifoldebau penodol yr awdurdod cyfrifol ac—
(a)y plentyn;
(b)unrhyw riant sydd ganddo; ac
(c)unrhyw berson nad yw'n riant iddo ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto.
4. Pa ddirprwyo a fu gan y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(b) ac (c) o'r Atodlen hon i'r awdurdod cyfrifol o gyfrifoldeb rhiant dros ofal y plentyn o ddydd i ddydd.
5. Y trefniadau ar gyfer rhoi rhan i'r personau hynny a'r plentyn mewn gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'r plentyn o ystyried—
(a)dyletswydd yr awdurdod lleol o dan adrannau 20(6) (rhoi rhan i blant cyn darparu llety) a 22(3) i (5) o'r Ddeddf (dyletswyddau cyffredinol yr awdurdod lleol mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal ganddo);
(b)dyletswydd y corff gwirfoddol o dan adran 61(1) a (2) o'r Ddeddf (dyletswyddau cyrff gwirfoddol); ac
(c)dyletswydd y person sy'n cadw cartref cofrestredig i blant o dan adran 64(1) a (2) o'r Ddeddf (lles plant mewn cartrefi cofrestredig i blant).
6. Y trefniadau ar gyfer cyswllt rhwng y plentyn ac—
(a)ei rieni;
(b)unrhyw berson nad yw'n riant iddo ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto. ac
(c)unrhyw berthynas, ffrind neu berson arall cysylltiedig ag ef,
ac os yn briodol, y rhesymau pam na fyddai cyswllt gydag unrhyw berson o'r fath yn rhesymol ymarferol neu pam y byddai'n anghydnaws â lles y plentyn.
7. Y trefniadau ar gyfer rhoi hysbysiad o newid mewn trefniadau ar gyfer cyswllt i unrhyw un o'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6.
8. Yn achos plentyn 16 mlwydd oed neu fwy a yw adran 20(11) o'r Ddeddf (lletya plentyn 16 mlwydd oed neu fwy er gwaethaf gwrthwynebiad gan riant) yn gymwys.
9. Y cyfnod y disgwylir i'r trefniadau barhau a'r camau a ddylai fod yn gymwys i ddwyn y trefniadau i ben, gan gynnwys trefniadau i adsefydlu'r plentyn gyda'r person yr oedd yn byw gydag ef cyn gwneud y trefniadau gwirfoddol, neu gyda rhyw berson addas arall, gan ystyried yn benodol, yn achos awdurdod lleol sydd â phlentyn yn derbyn gofal ganddo, adran 23(6) o'r Ddeddf (dyletswydd i leoli plant pan fo'n ymarferol gyda rhieni etc.) a pharagraff 15 o Atodlen 2 o'r Ddeddf (cynnal cyswllt rhwng y plentyn a'i deulu).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: