Rheoliad 5(8)

ATODLEN 4MATERION SYDD I'W CYNNWYS MEWN TREFNIADAU I LETYA PLANT NAD YDYNT MEWN GOFAL

1.  Y math o lety sydd i'w ddarparu a'i gyfeiriad ynghyd ag enw unrhyw berson fydd yn gyfrifol am y plentyn yn y llety hwnnw ar ran yr awdurdod cyfrifol.

2.  Manylion unrhyw wasanaethau sydd i'w darparu ar gyfer y plentyn.

3.  Cyfrifoldebau penodol yr awdurdod cyfrifol ac—

(a)y plentyn;

(b)unrhyw riant sydd ganddo; ac

(c)unrhyw berson nad yw'n riant iddo ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto.

4.  Pa ddirprwyo a fu gan y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(b) ac (c) o'r Atodlen hon i'r awdurdod cyfrifol o gyfrifoldeb rhiant dros ofal y plentyn o ddydd i ddydd.

5.  Y trefniadau ar gyfer rhoi rhan i'r personau hynny a'r plentyn mewn gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'r plentyn o ystyried—

(a)dyletswydd yr awdurdod lleol o dan adrannau 20(6) (rhoi rhan i blant cyn darparu llety) a 22(3) i (5) o'r Ddeddf (dyletswyddau cyffredinol yr awdurdod lleol mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal ganddo);

(b)dyletswydd y corff gwirfoddol o dan adran 61(1) a (2) o'r Ddeddf (dyletswyddau cyrff gwirfoddol); ac

(c)dyletswydd y person sy'n cadw cartref cofrestredig i blant o dan adran 64(1) a (2) o'r Ddeddf (lles plant mewn cartrefi cofrestredig i blant).

6.  Y trefniadau ar gyfer cyswllt rhwng y plentyn ac—

(a)ei rieni;

(b)unrhyw berson nad yw'n riant iddo ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto. ac

(c)unrhyw berthynas, ffrind neu berson arall cysylltiedig ag ef,

ac os yn briodol, y rhesymau pam na fyddai cyswllt gydag unrhyw berson o'r fath yn rhesymol ymarferol neu pam y byddai'n anghydnaws â lles y plentyn.

7.  Y trefniadau ar gyfer rhoi hysbysiad o newid mewn trefniadau ar gyfer cyswllt i unrhyw un o'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6.

8.  Yn achos plentyn 16 mlwydd oed neu fwy a yw adran 20(11) o'r Ddeddf (lletya plentyn 16 mlwydd oed neu fwy er gwaethaf gwrthwynebiad gan riant) yn gymwys.

9.  Y cyfnod y disgwylir i'r trefniadau barhau a'r camau a ddylai fod yn gymwys i ddwyn y trefniadau i ben, gan gynnwys trefniadau i adsefydlu'r plentyn gyda'r person yr oedd yn byw gydag ef cyn gwneud y trefniadau gwirfoddol, neu gyda rhyw berson addas arall, gan ystyried yn benodol, yn achos awdurdod lleol sydd â phlentyn yn derbyn gofal ganddo, adran 23(6) o'r Ddeddf (dyletswydd i leoli plant pan fo'n ymarferol gyda rhieni etc.) a pharagraff 15 o Atodlen 2 o'r Ddeddf (cynnal cyswllt rhwng y plentyn a'i deulu).