ATODLEN 2MATERION IECHYD Y MAE AWDURDODAU CYFRIFOL I'W HYSTYRIED
1.
Cyflwr iechyd y plentyn, gan gynnwys ei iechyd corfforol, geneuol, emosiynol a meddyliol.
2.
Hanes iechyd y plentyn gan gynnwys, i'r graddau y mae hynny'n ymarferol, hanes iechyd ei deulu.
3.
Effaith iechyd a hanes iechyd y plentyn ar ei ddatblygiad.
4.
Unrhyw angen sydd gan y plentyn am wasanaethau iechyd meddwl.
5.
Y trefniadau presennol ar gyfer gofal a thriniaeth feddygol a deintyddol y plentyn a'i goruchwyliaeth iechyd gan gyfeirio'n benodol at wasanaethau iechyd meddwl.
6.
Yr angen posibl am ddull priodol o weithredu y dylid ei ddynodi i gynorthwyo newid angenrheidiol mewn gofal, triniaeth neu oruchwyliaeth o'r fath.
7.
Yr angen posibl am fesurau ataliol, megis brechu ac imiwneiddio, sgrinio ar gyfer y golwg a'r clyw ac am gyngor a chyfarwyddyd ar iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl a iechyd geneuol ac ar faterion gofal personol ac hybu iechyd sy'n briodol i anghenion y plentyn.
8.
O ystyried yr wybodaeth sydd ar gael mewn perthynas รข'r materion a osodir ym mharagraffau 1 i 7 gan gynnwys yr adroddiadau o unrhyw asesiadau, a fydd anghenion iechyd y plentyn yn cael eu diwallu yn y lleoliad arfaethedig.