Hysbysiad o drefniadau6.
(1)
Rhaid i'r awdurdod cyfrifol, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol ac yn gydnaws â lles y plentyn, hysbysu'r personau a ganlyn yn ysgrifenedig o'r trefniadau i leoli plentyn, cyn gwneud y lleoliad—
(a)
unrhyw berson y ceisiwyd arwydd ganddo o'i ddymuniadau a'i deimladau o dan adran 22(4), adran 61(2) neu adran 64(2) o'r Ddeddf (ymgynghori cyn gwneud penderfyniad mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu sy'n cael llety gan gorff gwirfoddol neu mewn cartref preifat i blant);
(b)
y darparydd gofal iechyd dros yr ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer ac, os yw'r plentyn i gael ei leoli y tu allan i'r ardal honno, dros yr ardal y mae'r plentyn i gael ei leoli ynddi;
(c)
yr awdurdod addysg lleol dros yr ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer ac, os yw'r plentyn i gael ei leoli y tu allan i'r ardal honno, dros yr ardal y mae'r plentyn i gael ei leoli ynddi;
(ch)
ymarferydd cyffredinol y plentyn ac, os yw'n briodol, unrhyw ymarferydd cyffredinol y mae'r plentyn i gael ei gofrestru gydag ef wedi i'r lleoliad gael ei wneud;
(d)
os yw'n briodol, yr awdurdod ardal;
(dd)
unrhyw berson sy'n gofalu am y plentyn yn union cyn bod y trefniadau'n cael eu gwneud;
(e)
ac eithrio mewn achos gofal, unrhyw berson sydd â gorchymyn cyswllt mewn grym o'i blaid mewn perthynas â'r plentyn, ac
(f)
mewn achos gofal, unrhyw berson sy'n cael cyswllt â'r plentyn yn unol ag adran 34 o'r Ddeddf (cyswllt â phlentyn mewn gofal gan rieni etc ) neu o dan orchymyn o dan yr adran honno.
(2)
Pan nad yw'n ymarferol rhoi'r hysbysiad cyn gwneud y lleoliad, rhaid ei roi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi hynny a sut bynnag dim hwyrach na 10 niwrnod gwaith o ddyddiad gwneud y lleoliad.
(3)
Rhaid i'r awdurdod cyfrifol anfon copi o'r trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 neu o'r rhan honno o'r trefniadau na fydd yn ei farn ef yn rhagfarnu lles y plentyn, gyda'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ond yn achos hysbysiad i'r rheini a bennir ym mharagraff (1)(b) i (f) dim ond manylion o'r rhan honno o'r trefniadau sydd yn ei farn ef yn angenrheidiol i'r personau hynny wybod amdanynt y mae'n rhaid iddo'u hanfon.
(4)
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), yn achos hysbysiad i unrhyw un o'r personau neu'r cyrff a bennir ym mharagraff (1)(c) ac (ch), rhaid i'r awdurdod cyfrifol roi i'r person hwnnw neu'r corff hwnnw gopïau o unrhyw adroddiad neu asesiad perthnasol sydd ar gael ar adeg gwneud y lleoliad neu a geir wedi hynny yn ystod y lleoliad.
(5)
Pan fo plentyn yn cael ei leoli mewn ardal wahanol i'r ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer ynddi, pan yn hysbysu'r personau neu'r cyrff hynny a bennir ym mharagraff 1(b) i (ch) o'r trefniadau, rhaid i'r awdurdod cyfrifol ofyn ar yr un pryd i'r personau neu'r cyrff a bennir felly pan fo'n gymwys, geisio trosglwyddiad cofnodion cyn i'r lleoliad gael ei wneud, neu os nad yw hynny'n ymarferol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi hynny.
(6)
Rhaid i'r awdurdod cyfrifol barhau i adolygu unrhyw gais a wneir yn unol â pharagraff (5) hyd nes ei fod wedi'i fodloni bod trosglwyddo'r cofnodion—
(a)
naill ai wedi digwydd; neu
(b)
nad oes angen iddo ddigwydd bellach.