Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2007:
Dehongli2.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “achos gofal” (“care case”) yw achos pan fo'r plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol ac yn ddarostyngedig i orchymyn gofal, ac mae'n cynnwys gorchymyn gofal dros dro;
ystyr “yr ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer” (“the area in which the child is ordinarily resident”) yw ardal yr awdurdod lleol lle mae cartref y plentyn;
ystyr “awdurdod ardal” (“area authority”) mewn perthynas â phlentyn sy'n cael ei leoli neu sydd i gael ei leoli gan un awdurdod lleol, yw yr awdurdod lleol y mae'r plentyn i gael ei leoli yn ei ardal;
ystyr “awdurdod cyfrifol” (“responsible authority”) yw—
(a)
mewn perthynas â lleoliad gan awdurdod lleol (gan gynnwys un pan fo'r plentyn yn cael llety a chynhaliaeth mewn cartref gwirfoddol neu gartref preifat i blant), yw yr awdurdod lleol sy'n lleoli'r plentyn,
(b)
mewn perthynas â lleoliad gan gorff gwirfoddol o blentyn nad yw'n derbyn gofal awdurdod lleol, y corff gwirfoddol sy'n lleoli'r plentyn, ac
(c)
mewn perthynas â lleoliad mewn cartref preifat i blant o blentyn nad yw naill ai'n derbyn gofal awdurdod lleol nac wedi'i letya mewn cartref o'r fath gan gorff gwirfoddol, y person sy'n cadw'r cartref;
ystyr “darparydd gofal iechyd” (“health care provider”) yn achos lleoliad yng Nghymru, yw bwrdd iechyd lleol, neu yn achos lleoliad yn Lloegr, ymddiriedolaeth gofal sylfaenol, ac yn y naill achos neu'r llall, pan yn briodol ymddiriedolaeth gwasanaeth iechyd gwladol ac mewn unrhyw achos arall, y corff cyfatebol yn y wlad lle mae'r plentyn i gael ei leoli;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989;
ystyr “gweithiwr dolen gyswllt” (“link worker”) yw aelod o staff cartref i blant o safle uwch priodol gyda chyfrifoldeb penodol dros ddiogelu a hybu iechyd a lles addysgol plentyn unigol a thros gyd-gysylltu â darparwyr addysg a gofal iechyd ar ran y plentyn hwnnw;
ystyr “lleoliad” (“placement”) yn ddarostyngedig i reoliad 14 yw—
(a)
darparu llety a chynhaliaeth gan awdurdod lleol i unrhyw blentyn sy'n derbyn ei ofal drwy unrhyw un o'r dulliau a bennir yn adran 23(2)(a), (aa) neu (f) o'r Ddeddf (llety a chynhaliaeth plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol);
(b)
darparu llety i blentyn gan gorff gwirfoddol drwy unrhyw un o'r dulliau a bennir yn adran 59(1)(a), (aa) neu (f) o'r Ddeddf (darparu llety gan gyrff gwirfoddol), ac
(c)
darparu llety i blentyn mewn cartref preifat i blant,
(d)
a rhaid dehongli'r ymadroddion “lleoli” (“place”) ac “wedi'i leoli” (“placed”) yn unol â hynny;
ystyr “panel” (“panel”) yw panel o gynrychiolwyr o'r fath asiantaethiau ag a ddichon gynorthwyo awdurdod cyfrifol wrth gynllunio lleoliad plentyn ac wrth gyfarfod anghenion y plentyn hwnnw yn ystod cyfnod y lleoliad;
ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymareferydd meddygol cofrestredig—
(a)
(b)
(c)
sy'n darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Rhan II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol 1977, ac eithrio'n unol â'r Ddeddf honno;
(2)
Rhaid i unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn gael ei roi'n ysgrifenedig a chaniateir ei anfon drwy'r post.
(3)
Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —
(a)
mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw;
(b)
mae unrhyw gyfeiriad at Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at yr Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;
Cymhwyso'r Rheoliadau3.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i leoliadau—
(a)
gan awdurdod lleol ar gyfer unrhyw blentyn;
(b)
gan gorff gwirfoddol ar gyfer plentyn nad yw'n derbyn gofal awdurdod lleol;
(c)
mewn cartref preifat i blant ar gyfer plentyn nad yw naill ai'n derbyn gofal awdurdod lleol nac wedi'i letya mewn cartref o'r fath gan gorff gwirfoddol, gan y person sy'n cadw'r cartref.
(2)
(3)
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw leoli plentyn i'w fabwysiadu.
(4)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Gwneud trefniadau4.
(1)
Cyn lleoli plentyn rhaid i'r awdurdod cyfrifol, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol, wneud trefniadau ar unwaith a thros dymor hir ar gyfer y lleoliad hwnnw, ac ar gyfer hybu lles y plentyn sydd i'w leoli.
(2)
Pan na fo'n ymarferol gwneud y trefniadau hynny cyn y lleoli, rhaid i'r awdurdod cyfrifol eu gwneud cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi hynny.
(3)
Yn achos plentyn y mae adran 20(11) o'r Ddeddf yn gymwys iddo rhaid i'r awdurdod cyfrifol, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol, fod wedi cytuno ar y trefniadau gyda'r plentyn cyn gwneud lleoliad ac os nad yw hynny'n ymarferol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi hynny.
(4)
Mewn unrhyw achos arall pan fo plentyn yn derbyn gofal neu lety ond nad yw mewn gofal rhaid i'r awdurdod cyfrifol, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, fod wedi cytuno ar y trefniadau—
(a)
gyda pherson â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn; neu
(b)
os nad oes y fath berson, gyda'r person sy'n gofalu am y plentyn cyn y lleoli ac os nad yw hynny'n ymarferol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi hynny.
(5)
Rhaid i unrhyw drefniadau a wneir gan awdurdod cyfrifol o dan y rheoliad hwn gael eu cofnodi yn ysgrifenedig.
Materion i'w hystyried wrth wneud trefniadau a'u cynnwys5.
(1)
Yr ystyriaethau y mae'r awdurdod cyfrifol i roi sylw iddynt i'r graddau sy'n rhesymol ymarferol wrth wneud y trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 ym mhob achos yw'r ystyriaethau cyffredinol a bennir yn Atodlen 1, yr ystyriaethau ynghylch iechyd y plentyn a bennir yn Atodlen 2, yr ystyriaethau ynghylch addysg plentyn a bennir yn Atodlen 3 a'r ystyriaethau ym mharagraff (2) i (5).
(2)
Pan fo awdurdod cyfrifol yn ystyried lleoli plentyn y tu allan i'r ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer rhaid iddo gyfeirio achos y plentyn at banel—
(a)
cyn gwneud y lleoliad; neu
(b)
pan nad yw'n ymarferol cyfeirio'r achos at banel cyn gwneud y lleoliad, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl hynny a sut bynnag heb fod yn hwyrach na 25 o ddiwrnodau gwaith wedi i'r lleoliad gael ei wneud.
(3)
Pan na chyfeirir achos plentyn y mae paragraff (2) yn gymwys iddo gan yr awdurdod cyfrifol at banel cyn gwneud y lleoliad, rhaid i'r awdurdod cyfrifol ddarparu rhesymau ysgrifenedig, wedi'u hardystio gan uwch swyddog yr awdurdod cyfrifol, dros beidio â gwneud hynny.
(4)
Rhaid i'r awdurdod cyfrifol beidio â lleoli plentyn y tu allan i'r ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer ynddi oni bai ei fod wedi'i fodloni naill ai—
(a)
nad oes lleoliad ar gael yn yr ardal honno sy'n gallu diwallu anghenion y plentyn; neu
(b)
y byddai lleoliad y tu allan i'r ardal honno yn fwy cydnaws â lles y plentyn nag unrhyw leoliad sydd ar gael o fewn yr ardal honno.
(5)
Rhaid i unrhyw benderfyniad i leoli plentyn y tu allan i'r ardal y mae'n preswylio ynddi fel arfer, gyda rhesymau drosto, gael ei gofnodi'n ysgrifenedig a bod wedi ei ardystio gan uwch swyddog o'r awdurdod cyfrifol.
(6)
Rhaid i gofnod ysgrifenedig a wneir yn unol â pharagraff (3) neu (5) fod ar gael ar ffurf addas—
(a)
pan fo'r awdurdod cyfrifol yn awdurdod lleol, i'r aelod arweiniol dros wasanaethau plant o fewn yr awdurdod hwnnw; neu
(b)
mewn unrhyw achos arall, i uwch swyddog o'r awdurdod lleol dros yr ardal lle mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer ac i uwch swyddog o'r awdurdod ardal.
(7)
Pan fo awdurdod cyfrifol yn gwneud trefniadau i leoli plentyn y tu allan i Gymru rhaid iddo sicrhau, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol, fod yna gydymffurfiaeth â'r gofynion a fuasai wedi bod yn gymwys o dan y Rheoliadau hyn petai'r plentyn wedi cael ei leoli yng Nghymru.
(8)
Ac eithrio mewn achos gofal, rhaid i'r trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 gynnwys, pan fo hynny'n ymarferol, drefniadau ynghylch y materion a bennir yn Atodlen 4.
Hysbysiad o drefniadau6.
(1)
Rhaid i'r awdurdod cyfrifol, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol ac yn gydnaws â lles y plentyn, hysbysu'r personau a ganlyn yn ysgrifenedig o'r trefniadau i leoli plentyn, cyn gwneud y lleoliad—
(a)
unrhyw berson y ceisiwyd arwydd ganddo o'i ddymuniadau a'i deimladau o dan adran 22(4), adran 61(2) neu adran 64(2) o'r Ddeddf (ymgynghori cyn gwneud penderfyniad mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu sy'n cael llety gan gorff gwirfoddol neu mewn cartref preifat i blant);
(b)
y darparydd gofal iechyd dros yr ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer ac, os yw'r plentyn i gael ei leoli y tu allan i'r ardal honno, dros yr ardal y mae'r plentyn i gael ei leoli ynddi;
(c)
yr awdurdod addysg lleol dros yr ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer ac, os yw'r plentyn i gael ei leoli y tu allan i'r ardal honno, dros yr ardal y mae'r plentyn i gael ei leoli ynddi;
(ch)
ymarferydd cyffredinol y plentyn ac, os yw'n briodol, unrhyw ymarferydd cyffredinol y mae'r plentyn i gael ei gofrestru gydag ef wedi i'r lleoliad gael ei wneud;
(d)
os yw'n briodol, yr awdurdod ardal;
(dd)
unrhyw berson sy'n gofalu am y plentyn yn union cyn bod y trefniadau'n cael eu gwneud;
(e)
ac eithrio mewn achos gofal, unrhyw berson sydd â gorchymyn cyswllt mewn grym o'i blaid mewn perthynas â'r plentyn, ac
(f)
mewn achos gofal, unrhyw berson sy'n cael cyswllt â'r plentyn yn unol ag adran 34 o'r Ddeddf (cyswllt â phlentyn mewn gofal gan rieni etc ) neu o dan orchymyn o dan yr adran honno.
(2)
Pan nad yw'n ymarferol rhoi'r hysbysiad cyn gwneud y lleoliad, rhaid ei roi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi hynny a sut bynnag dim hwyrach na 10 niwrnod gwaith o ddyddiad gwneud y lleoliad.
(3)
Rhaid i'r awdurdod cyfrifol anfon copi o'r trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 neu o'r rhan honno o'r trefniadau na fydd yn ei farn ef yn rhagfarnu lles y plentyn, gyda'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ond yn achos hysbysiad i'r rheini a bennir ym mharagraff (1)(b) i (f) dim ond manylion o'r rhan honno o'r trefniadau sydd yn ei farn ef yn angenrheidiol i'r personau hynny wybod amdanynt y mae'n rhaid iddo'u hanfon.
(4)
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), yn achos hysbysiad i unrhyw un o'r personau neu'r cyrff a bennir ym mharagraff (1)(c) ac (ch), rhaid i'r awdurdod cyfrifol roi i'r person hwnnw neu'r corff hwnnw gopïau o unrhyw adroddiad neu asesiad perthnasol sydd ar gael ar adeg gwneud y lleoliad neu a geir wedi hynny yn ystod y lleoliad.
(5)
Pan fo plentyn yn cael ei leoli mewn ardal wahanol i'r ardal y mae'r plentyn yn preswylio ynddi fel arfer ynddi, pan yn hysbysu'r personau neu'r cyrff hynny a bennir ym mharagraff 1(b) i (ch) o'r trefniadau, rhaid i'r awdurdod cyfrifol ofyn ar yr un pryd i'r personau neu'r cyrff a bennir felly pan fo'n gymwys, geisio trosglwyddiad cofnodion cyn i'r lleoliad gael ei wneud, neu os nad yw hynny'n ymarferol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi hynny.
(6)
Rhaid i'r awdurdod cyfrifol barhau i adolygu unrhyw gais a wneir yn unol â pharagraff (5) hyd nes ei fod wedi'i fodloni bod trosglwyddo'r cofnodion—
(a)
naill ai wedi digwydd; neu
(b)
nad oes angen iddo ddigwydd bellach.
Trefniadau ar gyfer cyswllt7.
Wrth weithredu'r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6 o Atodlen 4, rhaid i gorff gwirfoddol neu berson sy'n cadw cartref preifat i blant ymdrechu i hybu cyswllt rhwng y plentyn a'r personau a grybwyllir yn y paragraff hwnnw, oni bai bod gwneud hynny yn anymarferol yn rhesymol neu'n anghydnaws â lles y plentyn.
Gofal ac asesiadau iechyd8.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), rhaid i awdurdod cyfrifol —
(a)
cyn gwneud lleoliad neu os nad yw hynny'n rhesymol ymarferol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol a sut bynnag heb fod yn hwyrach na 14 o ddiwrnodau gwaith wedi i'r lleoliad gael ei wneud, drefnu i ymarferydd meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig gynnal asesiad, a gaiff gynnwys archwiliad corfforol, o gyflwr iechyd y plentyn;
(b)
ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (a) sy'n cynnal asesiad i baratoi adroddiad ysgrifenedig o'r asesiad sy'n trafod y materion a restrir yn Atodlen 2, gan gyfeirio'n benodol at gyflwr iechyd meddwl y plentyn;
(c)
sicrhau bod copi o unrhyw adroddiad sy'n cael ei baratoi yn unol ag is-baragraff (b) ac unrhyw adroddiad o asesiad sy'n cael ei baratoi o dan y rheoliad hwn yn ystod y lleoliad, yn cael ei anfon ymlaen i'r personau a bennir ym mharagraff (1)(ch) o reoliad (6), pan fônt yn wahanol i'r personau a bennir yn is-baragraff (a); ac
(ch)
o ystyried y materion a restrir yn Atodlen 2 ac, oni bai bod paragraff (6) yn gymwys, unrhyw adroddiadau o asesiadau, paratoi cynllun ar gyfer gofal iechyd y plentyn yn y dyfodol os nad oes un eisoes yn bod.
(2)
Rhaid i awdurdod cyfrifol sicrhau fod pob plentyn yn ystod y lleoliad yn cael—
(a)
gwasanaethau gofal iechyd, gan gynnwys gofal a thriniaeth feddygol a deintyddol ac iechyd meddwl; a
(b)
cyngor a chyfarwyddyd ar iechyd, gofal personol a materion hybu iechyd yn unol ag anghenion y plentyn.
(3)
Rhaid i awdurdod cyfrifol sicrhau fod y plentyn—
(a)
wedi ei gofrestru gydag ymarferydd cyffredinol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol a pha un bynnag heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith wedi i'r lleoliad gael ei wneud; a
(b)
wedi ei osod dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig cyn gynted ag y bo'n ymarferol a pha un bynnag heb fod yn hwyrach na 20 o ddiwrnodau gwaith wedi i'r lleoliad gael ei wneud.
(4)
Rhaid i awdurdod cyfrifol sicrhau i'r graddau y bo hynny'n ymarferol, fod plentyn yn parhau i fod wedi'i gofrestru gydag ymarferydd cyffredinol ac o dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig drwy gydol y lleoliad.
(5)
Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw iechyd y plentyn wedi cael ei asesu o fewn y cyfnod o dri mis yn union cyn y lleoliad a bod adroddiad o'r asesiad wedi cael ei baratoi yn unol â'r paragraff hwnnw.
(6)
Nid yw is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (1) yn gymwys os yw'r plentyn, ac yntau a'i ddealltwriaeth yn ddigonol iddo wneud hynny, yn gwrthod cydsynio â'r asesiad.
(7)
Os cafodd plentyn ei leoli cyn 1 Gorffennaf 2007, ac y byddai'r rheoliad hwn fel arall yn gymwys iddo, ac na wnaed asesiad o iechyd y plentyn, neu os na chafodd y plentyn ei gofrestru gydag ymarferydd cyffredinol neu ei osod dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig, mae'r rheoliad hwn yn gymwys megis petai'r lleoliad wedi ei wneud ar 1 Gorffennaf 2007.
Sefydlu cofnodion9.
(1)
Rhaid i awdurdod cyfrifol sefydlu, a chynnal cofnod achos ysgrifenedig mewn perthynas â phob plentyn y mae yn ei leoli.
(2)
Rhaid i'r cofnod gynnwys—
(a)
copi o'r trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 4;
(b)
copi o unrhyw adroddiad ysgrifenedig sy'n eu meddiant ynghylch lles y plentyn;
(c)
copi o unrhyw ddogfen a ystyriwyd neu o unrhyw gofnod a sefydlwyd yn ystod neu o ganlyniad i adolygiad o achos y plentyn;
(ch)
manylion o drefniadau ar gyfer cyswllt, o orchmynion cyswllt ac o orchmynion llys eraill yn ymwneud â'r plentyn;
(d)
manylion o unrhyw drefniadau lle gweithredir person arall ar ran yr awdurdod lleol neu'r sefydliad a leolodd y plentyn; ac
(dd)
rhesymau ysgrifenedig a ddarperir yn unol â pharagraff (3) neu baragraff (5) o reoliad 5.
Cadwraeth cofnodion a'u cyfrinachedd10.
(1)
Rhaid i gofnod achos sy'n ymwneud â phlentyn a leolir gael ei gadw gan yr awdurdod cyfrifol hyd bymthegfed blwyddiant a thrigain dyddiad geni'r plentyn y mae'n ymwneud ag ef neu, os bydd farw'r plentyn cyn cyrraedd 18 mlwydd oed, am gyfnod o 15 mlynedd sy'n dechrau gyda dyddiad ei farwolaeth.
(2)
Cydymffurfir â gofynion paragraff (1) naill ai drwy ddal gafael ar y cofnod ysgrifenedig gwreiddiol, neu ar gopi ohono, neu drwy gadw'r holl wybodaeth o gofnod o'r fath mewn rhyw ffurf arall y gellir cael ato (megis drwy gyfrifiadur).
(3)
Rhaid i awdurdod cyfrifol sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw'n ddiogel a rhaid iddo gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod yr wybodaeth a geir ynddynt yn cael ei drin yn gyfrinachol, yn ddarostyngedig yn unig i—
(a)
unrhyw ddarpariaeth a wneir o fewn statud neu oddi tani neu yn ei rhinwedd y gellir o'i herwydd gael neu roi hawl i gael at gofnodion neu wybodaeth o'r fath;
(b)
unrhyw orchymyn llys y gellir o'i herwydd gael neu roi hawl i gael at gofnodion neu wybodaeth o'r fath;
Y Gofrestr11.
(1)
Rhaid i awdurdod lleol, mewn perthynas â phob plentyn a leolir yn ardal yr awdurdod hwnnw (ganddo ef ei hun a chan unrhyw awdurdod cyfrifol arall) ac mewn perthynas â phob plentyn a leolir ganddo ef ei hun y tu allan i'w ardal, gofnodi mewn cofrestr sydd i'w chadw at y diben hwnnw—
(a)
y manylion a bennir ym mharagraff (3), a
(b)
y rheini o'r manylion a bennir ym mharagraff (4) a ddichon fod yn briodol.
(2)
Rhaid i gorff gwirfoddol a pherson sy'n cadw cartref preifat i blant, mewn perthynas â phob plentyn a leolir ganddynt, gofnodi mewn cofrestr sydd i'w chadw at y diben hwnnw—
(a)
y manylion a bennir ym mharagraff (3), a
(b)
y rheini o'r manylion a bennir ym mharagraff (4) a ddichon fod yn briodol.
(3)
Dyma'r manylion sydd i'w cofnodi yn y gofrestr yn unol â pharagraffau (1) neu (2)—
(a)
enw, rhyw, dyddiad geni, Rhif gwasanaeth iechyd gwladol ac, os yw'n briodol, Rhif adnabod y gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer y plentyn;
(b)
enw a chyfeiriad y person neu'r cartref i blant y lleolir y plentyn gydag ef ynddo ac, os yw'n wahanol, enw a chyfeiriad y rheini o rieni'r plentyn neu berson arall nad yw'n rhiant iddo sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto;
(c)
pan fo plentyn yn cael ei leoli mewn cartref i blant, enw gweithiwr dolen gyswllt y plentyn;
(ch)
yn achos plentyn a leolir ar ran awdurdod lleol gan gorff gwirfoddol neu mewn cartref preifat i blant, enw'r awdurdod;
(d)
a yw enw'r plentyn wedi ei gofnodi yn unrhyw gofrestr awdurdod lleol fel arwydd fod y plentyn mewn perygl o gael ei gamdrin;
(dd)
a yw enw'r plentyn wedi ei gofnodi yn y gofrestr a gynhelir o dan baragraff 2 o Atodlen 2 i'r Ddeddf (cofrestr plant anabl);
(e)
y dyddiad pan ddechreuodd a'r dyddiad pan orffennodd lleoliad y plentyn a'r rheswm dros orffen pob un;
(f)
mewn achos gofal enw'r awdurdod lleol y mae'r plentyn dan ei ofal;
(ff)
dan ba ddarpariaethau cyfreithiol y mae'r plentyn yn derbyn gofal neu y gofelir amdano.
(4)
Dyma'r manylion ychwanegol sydd i'w cofnodi yn y gofrestr, os yn briodol yn unol â pharagraffau (1) neu (2)—
(a)
yn achos plentyn sydd wedi ei leoli gan awdurdod lleol y gwnaed trefniadau mewn perthynas ag ef i'r awdurdod ardal gyflawni swyddogaethau yn unol â rheoliad 13, nodyn fod y trefniadau wedi'u gwneud ac enw'r awdurdod lleol arall y gwnaethpwyd hwy gydag ef; a
(b)
yn achos plentyn sydd wedi ei leoli, y gwnaed trefniadau mewn perthynas ag ef i oruchwyliaeth o'r lleoliad gael ei wneud ar ran awdurdod cyfrifol (ac eithrio yn unol â rheoliad 13), nodyn fod y trefniadau wedi'u gwneud ac enw'r person y gwnaethpwyd hwy gydag ef.
(5)
Rhaid dal gafael ar gofnodion mewn cofrestri a gedwir yn unol â'r rheoliad hon nes bydd y plentyn y mae'r cofnod yn ymwneud ag ef yn cyrraedd 25 mlwydd oed neu, os bydd farw'r plentyn cyn cyrraedd 25 mlwydd oed, am gyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau gyda dyddiad ei farwolaeth.
(6)
Cydymffurfir â gofynion paragraff (1) naill ai drwy ddal gafael ar y cofnod ysgrifenedig gwreiddiol, neu ar gopi ohono, neu drwy gadw'r holl wybodaeth o gofnod o'r fath mewn rhyw ffurf arall y gellir cael ato (megis drwy gyfrifiadur).
(7)
Rhaid i awdurdod cyfrifol sicrhau bod cofnodion a gedwir yn unol â'r rheoliad hwn yn cael eu cadw'n ddiogel a rhaid iddo gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod yr wybodaeth a geir ynddynt yn cael ei drin fel petai'n gyfrinachol, yn ddarostyngedig yn unig i—
(a)
unrhyw ddarpariaeth a wneir o fewn statud neu oddi tani neu yn ei rhinwedd y gellir o'i herwydd gael neu roi hawl i gael at gofnodion neu wybodaeth o'r fath.
(b)
unrhyw orchymyn llys y gellir o'i herwydd gael neu roi hawl i gael at gofnodion neu wybodaeth o'r fath;
Cael at gofnodion a'r gofrestr gan swyddogion achosion teuluol ar gyfer Cymru a swyddogion y gwasanaeth12.
Rhaid i bob corff gwirfoddol, pan nad yw'n gweithredu fel person awdurdodedig, a phob person sy'n cadw cartref preifat i blant ddarparu i swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu i swyddog o'r gwasanaeth —
(a)
ffordd o gael at yr hyn sy'n ofynnol ganddo—
(i)
mewn cofnodion achos a chofrestri a gynhelir yn unol â'r Rheoliadau hyn; a
(ii)
o'r wybodaeth o gofnodion neu gofrestri o'r fath ym mha ddull bynnag y'i cedwir (megis drwy gyfrifiadur);
(b)
y fath gopïau ag sy'n ofynnol ganddo o'r cofnodion neu o'r hyn a gofnodwyd yn y cofrestri.
Trefniadau rhwng awdurdodau lleol ac awdurdodau ardal13.
Pan fo awdurdod lleol y mae plentyn yn derbyn gofal ganddo yn gwneud trefniadau gydag awdurdod ardal i'r awdurdod ardal gyflawni swyddogaethau mewn perthynas â'r lleoliad ar ran yr awdurdod lleol—
(a)
rhaid i'r awdurdod lleol roi i'r awdurdod ardal bob gwybodaeth sydd ei angen arno i alluogi'r awdurdod ardal i gyflawni'r swyddogaethau hynny ar ran yr awdurdod lleol;
(b)
rhaid i'r awdurdod ardal barhau i hysbysu'r awdurdod lleol o gynnydd y plentyn ac, yn benodol, rhaid iddo roi adroddiadau i'r awdurdod lleol ar ôl pob ymweliad â'r cartref y mae'r plentyn wedi ei leoli ynddo ac ar ôl pob adolygiad o achos y plentyn a wneir gan yr awdurdod ardal ar ran yr awdurdod lleol;
(c)
rhaid i'r awdurdod lleol a'r awdurdod ardal ymgynghori â'i gilydd o dro i dro yn ôl y gofyn, a chyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl pob adolygiad o'r fath o achos y plentyn, gyda golwg ar beth sy'n ofynnol i'w wneud mewn perthynas ag ef.
Cymhwyso'r Rheoliadau i leoliadau tymor byr14.
(1)
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod cyfrifol wedi trefnu i leoli plentyn mewn cyfres o leoliadau tymor byr yn yr un lle ac mae'r trefniant yn gyfryw ag nad oes unrhyw leoliad unigol i barhau am fwy na 4 wythnos ac nad yw cyfanswm y lleoliadau i fod i barhau am fwy na 120 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
(2)
Gellir trin unrhyw gyfres o leoliadau tymor byr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt fel lleoliad unigol at ddibenion y Rheoliadau hyn.