38. Caniateir diddyfnu perchyll hyd at saith diwrnod ynghynt na'r cyfnod a bennir ym mharagraff 37 os symudir hwy i lety arbenigol—LL+C
(a)sy'n cael ei wagio, ei lanhau a'i ddiheintio'n drylwyr cyn cymryd grwp newydd i mewn; a
(b)sydd ar wahân i adeiladau lle y cedwir hychod eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 8 para. 38 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1