Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod dyletswyddau ar bob awdurdod addysg lleol yng Nghymru o ran pob ysgol a gynhelir ganddynt gan gynnwys ysgolion meithrin a gynhelir, ond ac eithrio unedau cyfeirio disgyblion. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gosod dyletswyddau ar gyrff llywodraethu'r cyfryw ysgolion.
O dan y Rheoliadau hyn, mae'n ofynnol i awdurdodau addysg lleol wneud cytundebau partneriaeth unigol â chyrff llywodraethu'r cyfryw ysgolion. Pan fo awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu yn methu â dod i gytundeb, mae adran 197(3) o Ddeddf Addysg 2002 yn caniatáu i'r awdurdod addysg lleol lunio datganiad mewn perthynas â'r ysgol honno.
Rhaid i unrhyw gytundeb partneriaeth neu ddatganiad nodi sut y mae'r awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu ysgol i gyflawni eu priod swyddogaethau mewn perthynas â materion penodol a bennir ac a nodir yn y Rheoliadau hyn.
Hefyd, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer adolygu cytundeb partneriaeth neu ddatganiad ar adegau gosodedig neu o dan amgylchiadau rhagnodedig.