xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Wedi'i wneud
6 Chwefror 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 270(4) a (5) o Ddeddf Tai 2004(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. I'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym(2), mae adrannau 212 i 215, ac atodlen 10 (cynlluniau ernes tenantiaeth) o Ddeddf Tai 2004 yn dod i rym ar 6 Ebrill 2007.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Chwefror 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw'r pedwerydd Gorchymyn Cychwyn sy'n cael ei wneud o dan Ddeddf Tai 2004. Mae'n dwyn darpariaethau pellach o'r Ddeddf, (sy'n ymwneud â Chynlluniau Ernes Tenantiaeth) i rym yng Nghymru ar 6 Ebrill 2007.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Tai 2004 wedi'u dwyn i rym yng Nghymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth | Dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 1 a 3 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152) (C.54) |
Adran 4 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242) (C.138) |
Adrannau 5 i 8 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152) (C.54) |
Adrannau 10 i 52 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152) (C.54) |
Adran 54 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152) (C.54) |
Adran 55 (yn rhannol) | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242) (C.138) |
Adran 55 (y gweddill) | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152) (C.54) |
Adrannau 56 a 57 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242) (C.138) |
Adrannau 58 i 78 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152) (C.54) |
Adrannau 79 i 81 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242) (C.138) |
Adrannau 82 i 147 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152) (C.54) |
Adran 179 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242) (C.138) |
Adran 191 | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814 (Cy.144) (C.75) |
Adrannau 192 i 194 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242) (C.138) |
Adrannau 227 a 228 | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814 (Cy.144) (C.75) |
Adrannau 229 i 232 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152) (C.54) |
Adrannau 235 a 236 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152) (C.54) |
Adran 237 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242) (C.138) |
Adrannau 238 i 243 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152) (C.54) |
Adran 265(1) ac Atodlen 15 (yn rhannol) | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814 (Cy.144) (C.75) |
Adran 265(1) ac Atodlen 15 (yn rhannol) | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152) (C.54) |
Adran 266 (yn rhannol) | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152) (C.54) |
Atodlenni 1 i 7 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152) (C.54) |
Atodlen 12 | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814 (Cy.144) (C.75) |
Atodlen 13 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152) (C.54) |
2004 p.34. Mae'r pwerau a roddir gan adrannau 270(4) a (5) yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o'r “appropriate national authority” yn adran 261(1) o Ddeddf 2004.
I'r graddau y mae darpariaeth yn Neddf 2004 yn rhoi pwer arferadwy i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau daeth y pŵer hwnnw i rym pan basiwyd y Ddeddf honno yn rhinwedd adran 270(2)(b) o'r Ddeddf.