2007 Rhif 3004 (Cy.260 )

ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) (Diwygio) 2007

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru sydd wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd2 ac o ran mesurau yn y maes milfeddygol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd3, yn gwneud y rheoliad canlynol.

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) (Diwygio) 2007; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 14 Tachwedd 2007.

Diwygio Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 20072

Diwygir Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 20074 drwy ychwanegu ar ôl rheoliad 3(3) y paragraff canlynol —

4

Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu baragraff (3) yn euog o dramgwydd.

Elin JonesY Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro cyfeiliornad yn Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 i'w gwneud yn dramgwydd i fethu â rhoi hysbysiad o ddaliad o dan reoliad 3.

Ni chafodd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ei baratoi ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.