xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ARCHWILIO CYHOEDDUS, CYMRU
Gwnaed
15 Hydref 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
16 Hydref 2007
Yn dod i rym
1 Rhagfyr 2007
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan baragraff 21(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1).
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Corff Cyfrifwyr Ewropeaidd Cymeradwy) 2007 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2007.
2.—(1) Mae'r cyrff a grybwyllir ym mharagraff (2) yn gyrff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy at ddibenion paragraff 21(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
(2) Dyma'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(a)Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth; a
(b)Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Rheolaeth.
Andrew Davies
Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru.
15 Hydref 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (“CIPFA”) a Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Rheolaeth (“CIMA”) yn gyrff cyfrifwyr Ewropeaidd cymeradwy at ddibenion paragraff 21(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
O ganlyniad i hyn, mae CIPFA a CIMA yn dod o fewn y diffiniad o “corff cyfrifyddiaeth” yn yr is-baragraff hwnnw yn yr Atodlen honno.
Bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gallu gwneud trefniadau â CIPFA a CIMA, o dan baragraff 21(3) o'r Atodlen honno, i gydweithio â'i gilydd ac i roi cymorth i'w gilydd.