2007 Rhif 2900 (Cy.251)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig a Chynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2007

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, a hwythau wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt, yn gwneud yn Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig a Chynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2007.

(2)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 20062.

(1)

Diwygier Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 20063 yn unol â'r rheoliad hwn.

(2)

Yn rheoliad 2—

(a)

yn y diffiniad o “buddiolwr” ym mharagraff (1), ar ôl “iddo” mewnosoder “neu berson sydd wedi cymryd drosodd ymrwymiadau'r cyfryw berson”,

(b)

ar ôl paragraff (1), mewnosoder “(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.”.

(3)

Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (2), mewnosoder—

“(3)

Caiff Gweinidogion Cymru wneud trefniadau gyda grwp a ddetholwyd i weithredu strategaeth ddatblygu leol yn unol ag Erthygl 37 o Reoliad y Comisiwn 1974/2006, er mwyn i'r grwp hwnnw wneud taliadau o gymorth ariannol ar ran Gweinidogion Cymru ac er mwyn i'r grwp hwnnw arfer pwerau adennill yn unol â rheoliad 9”.

(4)

Yn rheoliad 7(2), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

“(dd)

darparu adroddiad rheoli yn unol ag Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn 1975/2006; a

(e)

penderfynu a fu diffyg cydymffurfiaeth ai peidio.”

(5)

Yn rheoliad 7(3), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

“(dd)

os yw'n angenrheidiol at ddibenion paragraff (2)—

(i)

arolygu a chyfrif da byw ar y tir, a

(ii)

ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd neu i'r buddiolwr, neu i unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i'r buddiolwr hwnnw, drefnu ar gyfer casglu'r da byw hynny, eu rhoi mewn lloc a'u diogelu.”

(6)

Yn rheoliad 14(3)—

(a)

yn is-baragraff (b) ar ôl y geiriau “y telir cymorth ar eu cyfer) mewnosoder “a rheoliad 16(5) (gwrthod ac adennill cymorth, terfynu a gwahardd)”,

(b)

dileer is-baragraff (c),

(c)

yn is-baragraff (ch), ar ôl “iddynt” dileer “.” a mewnosoder “; a”,

(ch)

ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder—

“(d)

rheoliad 16(6) (Pwerau'r Cynulliad i adennill etc.) o Reoliadau Grant Menter Ffermydd a Grant Gwella Ffermydd (Cymru) 20014.”.

(7)

Mae paragraff (6)(b) yn adnewyddu'r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 14(3)(c) i'r graddau bod parhau i weithredu'r ddarpariaeth honno'n cael ei arbed gan reoliad 14(2).

(8)

Ym mharagraff 2 o'r Atodlen, yn lle “1689” rhodder “1698”.

(9)

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff (7), ychwaneger—

“8.

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1975/2006 dyddiedig 23 Rhagfyr 2006 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 o ran gweithredu gweithdrefnau rheoli yn ogystal â thrawsgydymffurfio o ran mesurau cefnogi datblygu gwledig.

9.

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1974/2006 dyddiedig 23 Rhagfyr 2006 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 ar gefnogaeth i ddatblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).”.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 20063.

(1)

Diwygier Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 20065 yn unol â'r rheoliad hwn.

(2)

Yn rheoliad 2, ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

“(2)

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.”.

(3)

Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff (10), ychwaneger—

“11.

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1975/2006 dyddiedig 23 Rhagfyr 2006 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 o ran gweithredu gweithdrefnau rheoli yn ogystal â thrawsgydymffurfio o ran mesurau cefnogi datblygu gwledig.

12.

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1974/2006 dyddiedig 23 Rhagfyr 2006 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 ar gefnogaeth i ddatblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).”.

Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3343) (Cy.304). Mae'r diwygiadau yn egluro diffiniad “buddiolwr” (yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2006), diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y Gymuned (rheoliad 2(1) o Reoliadau 2006 a'r Atodlen iddynt), darparu bod y cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y Gymuned yn gyfeiriadau at y ddeddfwriaeth honno fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd (rheoliad 2(2) o Reoliadau 2006), darparu bod Gweinidogion Cymru yn cael gwneud taliadau drwy grwpiau lleol (rheoliad 3(3) o Reoliadau 2006), egluro pwerau arolygwyr (rheoliad 7(2) a (3) o Reoliadau 2006) a gwneud mân newidiadau i'r darpariaethau trosiannol (rheoliad 14(3) o Reoliadau 2006).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3342) (Cy.303). Mae'r diwygiadau yn diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y Gymuned (rheoliad 2(2) o Reoliadau 2006 a'r Atodlen iddynt).