(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar honiadau am faethiad ac iechyd a wneir am fwydydd, fel y'i cywirwyd gan Gorigendwm (OJ Rhif L12, 18.1.2007, t3), “Rheoliad y GE”.
2. Mae'r Rheoliadau—
(a)yn dynodi'r awdurdodau cymwys at ddibenion Erthyglau penodol Rheoliad y GE (rheoliad 3);
(b)yn pennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 4);
(c)yn darparu ei bod yn dramgwydd, yn ddarostyngedig i randdirymiadau penodol a mesurau trosiannol a bennir yn Rheoliad y GE lle y bo'n berthnasol—
(i)i wneud honiadau am faethiad neu iechyd nad ydynt yn gyffredinol yn cydymffurfio â gofynion Rheoliad y GE ac yn benodol sydd yn gamarweiniol neu wneud honiad o fathau gwaharddedig penodol;
(ii)i wneud honiadau am ddiodydd alcoholaidd ac eithrio i'r graddau cyfyngedig iawn a ganiateir gan Reoliad y GE;
(iii)i wneud honiad na ellir ei gyfiawnhau'n wyddonol;
(iv)i fethu â darparu'r wybodaeth faethol a ragnodwyd wrth wneud honiad am iechyd;
(v)i wneud honiad maethol nad yw'n un o'r rhai a restrir yn yr Atodiad i Reoliad y GE;
(vi)i wneud honiad maethol cymharol nad yw'n cydymffurfio â gofynion Rheoliad y GE;
(vii)i wneud honiad am iechyd nad awdurdodwyd o dan y gweithdrefnau a ddarperir yn Rheoliad y GE ac nad yw'r wybodaeth benodedig gydag ef yn y labelu neu mewn unrhyw ddull arall o'i gyflwyno;
(viii)i wneud honiad am iechyd o fath a waherddir yn benodol gan Reoliad y GE; neu
(ix)yn achos honiadau am iechyd o ran lleihau risg rhag clefyd, i fethu â rhoi gyda'r honiad y datganiad a ragnodir yn Rheoliad y GE (rheoliad 5).
3. Mae'r Rheoliadau hefyd—
(a)yn cymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn ( rheoliad 6);
(b)yn darparu ei bod, yn ddarostyngedig i derfynau penodol, yn dramgwydd i rwystro, methu â rhoi gwybodaeth neu gamarwain yn fwriadol unrhyw un sy'n gweithredu ac yn gorfodi'r Rheoliadau hyn (rheoliad 7); ac
(c)yn diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 ynghylch y meysydd lle y mae gorgyffwrdd rhwng y Rheoliadau hynny a Rheoliad y GE (rheoliad 8).
4. Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.