2007 Rhif 2496 (Cy.215)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod I rym
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 19731 ac a freiniwyd bellach ynddynt gan adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a chyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2007.

(2)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3)

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Medi 2007.

Dehongli2.

Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Rheoliad Ewropeaidd” (“the European Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reoli salmonela ac asiantau milheintiol penodedig eraill sy'n ymledu drwy fwyd 2;
ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 20063;
ystyr “samplau rheoli swyddogol” (“official control samples”) yw samplau sydd wedi'u cymryd o dan bwynt 2.1.2.2 o'r Atodlen i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau bridio o Gallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2160/20034.

Ffioedd3.

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru godi unrhyw ffioedd a fydd yn eu barn hwy yn eu galluogi i dalu unrhyw dreuliau rhesymol yr ânt iddynt wrth iddynt gyflawni'r gweithgareddau a ganlyn—

(a)

cymryd neu oruchwylio cymryd samplau rheoli swyddogol;

(b)

archwilio samplau rheoli swyddogol;

(c)

prosesu cais am gymeradwyo labordy o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;

(ch)

prosesu dogfennaeth y gymeradwyaeth yn dilyn cais y cyfeirir ato yn is-baragraff (c);

(d)

prosesu cais adnewyddu blynyddol o labordy a gymeradwyir o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o Reoliad Senedd Ewrop;

(dd)

archwilio labordy at ddiben rheoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;

(e)

gweinyddu prawf rheoli ansawdd o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd.

(2)

Mae ffioedd yn daladwy i Weinidogion Cymru gan —

(a)

y person sydd â gofal daliad pan fo samplau rheoli swyddogol yn cael eu cymryd o ran y gweithgareddau ym mharagraff 2(a) a (b); a

(b)

gweithredydd y labordy o ran y gweithgareddau ym mharagraff (2)(c) i (g).

Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu i Weinidogion Cymru godi ffioedd am weithgareddau sy'n ofynnol o dan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005, Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 a Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006. Rhestrir y gweithgareddau yn rheoliad 3(1).

Mae asesiad rheoliadol llawn o'r effaith a gaiff y Rheoliadau hyn wedi cael ei lunio ac mae wedi ei atodi i'r Memorandwm Esboniadol. Gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.