<akomaNtoso xmlns:uk="https://www.legislation.gov.uk/namespaces/UK-AKN" xmlns:ukl="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/legislation" xmlns:xsi="http://www.w3.org/2001/XMLSchema-instance" xmlns="http://docs.oasis-open.org/legaldocml/ns/akn/3.0" xsi:schemaLocation="http://docs.oasis-open.org/legaldocml/ns/akn/3.0 http://docs.oasis-open.org/legaldocml/akn-core/v1.0/cos01/part2-specs/schemas/akomantoso30.xsd"><act name="wsi"><meta><identification source="#"><FRBRWork><FRBRthis value="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2007/2425"/><FRBRuri value="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2007/2425"/><FRBRdate date="2007-08-14" name="made"/><FRBRauthor href="http://www.legislation.gov.uk/id/government/wales"/><FRBRcountry value="GB-WLS"/><FRBRsubtype value="order"/><FRBRnumber value="2425"/><FRBRname value="S.I. 2007/2425 (W. )"/><FRBRprescriptive value="true"/></FRBRWork><FRBRExpression><FRBRthis value="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/2425/made"/><FRBRuri value="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/2425/made"/><FRBRdate date="2007-08-14" name="made"/><FRBRauthor href="#"/><FRBRlanguage language="cym"/></FRBRExpression><FRBRManifestation><FRBRthis value="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/2425/made/data.akn"/><FRBRuri value="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/2425/made/data.akn"/><FRBRdate date="2026-08-11+01:00" name="transform"/><FRBRauthor href="http://www.legislation.gov.uk"/><FRBRformat value="application/akn+xml"/></FRBRManifestation></identification><lifecycle source="#"><eventRef refersTo="#made" date="2007-08-14" eId="date-made" source="#"/><eventRef refersTo="#coming-into-force" date="2007-08-14" eId="date-cif-1" source="#"/></lifecycle><analysis source="#"><otherAnalysis source=""/></analysis><references source="#"><TLCEvent eId="made" href="" showAs="Made"/><TLCEvent eId="cif" href="" showAs="ComingIntoForce"/><TLCRole eId="ref-d25e697" href="/ontology/role/uk.Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru" showAs="Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru"/><TLCPerson eId="ref-d25e695" href="/ontology/persons/uk.ElinJones" showAs="Elin Jones"/></references><proprietary xmlns:ukm="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/metadata" xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/" xmlns:dct="http://purl.org/dc/terms/" source="#"><dc:identifier>http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/2425/made/welsh</dc:identifier><dc:title>Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2007</dc:title><dc:language>cy</dc:language><dc:publisher>King's Printer of Acts of Parliament</dc:publisher><dc:modified>2011-07-05</dc:modified><dc:subject scheme="SIheading">ANIFEILIAID, CYMRU;IECHYD ANIFEILIAID</dc:subject><dc:description>Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn ailddeddfu, gyda diwygiadau, Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1803 (Cy.191)). Mae'r diwygiadau fel a ganlyn.</dc:description><ukm:SecondaryMetadata><ukm:DocumentClassification><ukm:DocumentCategory Value="secondary"/><ukm:DocumentMainType Value="WelshStatutoryInstrument"/><ukm:DocumentStatus Value="final"/><ukm:DocumentMinorType Value="order"/></ukm:DocumentClassification><ukm:Year Value="2007"/><ukm:Number Value="2425"/><ukm:Made Date="2007-08-14"/><ukm:ComingIntoForce><ukm:DateTime Date="2007-08-14"/></ukm:ComingIntoForce><ukm:ISBN Value="9780110916248"/></ukm:SecondaryMetadata><ukm:Alternatives><ukm:Alternative Date="2007-12-05" URI="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/2425/pdfs/wsi_20072425_mi.pdf" Title="Print Version Mixed Language" TitleWelsh="Fersiwn i'w hargraffu" Size="74641" Language="Mixed"/></ukm:Alternatives><ukm:CorrectionSlips><ukm:CorrectionSlip Date="2007-12-05" URI="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2007/2425/pdfs/wsics_20072425_mi.pdf" Title="Correction Slip" Size="23919" Language="Mixed"/></ukm:CorrectionSlips><ukm:Statistics><ukm:TotalParagraphs Value="19"/><ukm:BodyParagraphs Value="15"/><ukm:ScheduleParagraphs Value="4"/><ukm:AttachmentParagraphs Value="0"/><ukm:TotalImages Value="0"/></ukm:Statistics></proprietary></meta><preface eId="preface"><block name="banner">Welsh Statutory Instruments</block><block name="number"><docNumber>2007 Rhif 2425 Cy.201)</docNumber></block><container name="subjects"><container name="subject"><block name="subject"><concept refersTo="#">ANIFEILIAID, CYMRU</concept></block><block name="subsubject"><concept refersTo="#">IECHYD ANIFEILIAID</concept></block></container></container><block name="title"><docTitle>Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2007</docTitle></block><container name="dates"><block name="madeDate" refersTo="#date-made"><span>Wedi'i wneud</span><docDate date="2007-08-14">14 Awst 2007</docDate></block><block name="commenceDate" refersTo="#date-cif-1"><span>Yn dod i rym</span><docDate date="2007-08-14">14 Awst 2007</docDate></block></container></preface><preamble><formula name="enactingText"><p>Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 8 ac 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981<authorialNote class="footnote" eId="f00001" marker="1"><p><ref eId="c00003" href="http://www.legislation.gov.uk/id/ukpga/1981/22">1981 p.22</ref>. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy <ref eId="c00004" href="http://www.legislation.gov.uk/id/uksi/1999/672">O.S. 1999/672</ref> ac <ref eId="c00005" href="http://www.legislation.gov.uk/id/uksi/2004/3044">O.S. 2004/3044</ref>. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.</p></authorialNote>, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:</p></formula></preamble><body><article eId="article-1"><heading>Enwi, cychwyn a chymhwyso</heading><num>1.</num><paragraph eId="article-1-1"><num>(1)</num><content><p>Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2007.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-1-2"><num>(2)</num><content><p>Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 14 Awst 2007.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-1-3"><num>(3)</num><content><p>Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.</p></content></paragraph></article><article eId="article-2"><heading>Dehongli</heading><num>2.</num><intro><p>Yn y Gorchymyn hwn—</p></intro><hcontainer name="definition"><content><p>ystyr “anifeiliaid” (“<i>animals</i>”) yw gwartheg (ond heb gynnwys buail a iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;</p></content></hcontainer><hcontainer name="definition"><content><p>ystyr “arwerthiant defaid magu yn yr hydref” (“<i>sheep autumn breeding sale</i>”) yw crynhoad anifeiliaid a gynhelir rhwng 1 Awst a 31 Rhagfyr at y prif ddiben o werthu defaid bridio;</p></content></hcontainer><hcontainer name="definition"><intro><p>ystyr “crynhoad anifeiliaid” (“<i>animal gathering</i>”) yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi ynghyd at un neu fwy o'r dibenion canlynol —</p></intro><level class="para1"><num>(a)</num><content><p>gwerthiant, sioe neu arddangosfa;</p></content></level><level class="para1"><num>(b)</num><content><p>traddodi llwyth o anifeiliaid ymlaen o fewn Prydain Fawr;</p></content></level><level class="para1"><num>(c)</num><content><p>archwiliad i gadarnhau bod gan yr anifeiliaid nodweddion brid penodol;</p></content></level></hcontainer><hcontainer name="definition"><content><p>mae “cyfarpar” (“<i>equipment</i>”) yn cynnwys llociau a chlwydi;</p></content></hcontainer><hcontainer name="definition"><content><p>ystyr “diheintydd a gymeradwywyd” (“<i>approved disinfectant</i>”) yw diheintydd a gymeradwywyd o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978<authorialNote class="footnote" eId="f00002" marker="2"><p><ref eId="c00006" href="http://www.legislation.gov.uk/id/uksi/1978/32">O.S. 1978/32</ref> fel y'i diwygiwyd ddiwethaf o ran Cymru gan <ref eId="c00007" href="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2006/3166">O.S. 2006/3166 (Cy.291)</ref>.</p></authorialNote>;</p></content></hcontainer><hcontainer name="definition"><content><p>mae i “man i anifeiliaid” (“<i>animal area</i>”) yr ystyr a roddir yn erthygl 5(3)(c);</p></content></hcontainer><hcontainer name="definition"><content><p>ystyr “mangre drwyddedig” (“<i>licensed premises</i>”) yw mangre a drwyddedwyd o dan erthygl 5;</p></content></hcontainer><hcontainer name="definition"><content><p>ystyr “palmantog” (“<i>paved</i>”) yw arwyneb o sment, concrid, asffalt neu ddeunydd caled anhydrin arall y gellir ei lanhau a'i ddiheintio'n effeithiol.</p></content></hcontainer></article><article eId="article-3"><heading>Hysbysiadau a thrwyddedau</heading><num>3.</num><paragraph eId="article-3-1"><num>(1)</num><intro><p>O ran hysbysiad neu drwydded o dan Gorchymyn hwn —</p></intro><level class="para1" eId="article-3-1-a"><num>(a)</num><content><p>rhaid iddynt fod yn ysgrifenedig;</p></content></level><level class="para1" eId="article-3-1-b"><num>(b)</num><content><p>gellir eu diwygio, eu hatal dros dro, neu eu dirymu drwy hysbysiad a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol; ac</p></content></level><level class="para1" eId="article-3-1-c"><num>(c)</num><content><p>cânt fod yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau y mae'r arolygydd milfeddygol yn barnu bod eu hangen i atal cyflwyno clefyd i'r fangre drwyddedig neu i atal lledaenu clefyd o fewn y fangre drwyddedig neu'r tu allan iddi.</p></content></level></paragraph><paragraph eId="article-3-2"><num>(2)</num><content><p>Ond nid yw'r erthygl hon yn gymwys i hysbysiad neu drwydded a roddir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 8.</p></content></paragraph></article><article eId="article-4"><heading>Eithriadau</heading><num>4.</num><intro><p>Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys—</p></intro><level class="para1" eId="article-4-a"><num>(a)</num><content><p>os yr un person sy'n berchen ar bob anifail y daethpwyd ag ef i'r crynhoad;</p></content></level><level class="para1" eId="article-4-b"><num>(b)</num><content><p>os bydd yr anifeiliaid i gyd yn dod o un set o fangreoedd y mae Gweinidogion Cymru wedi ei awdurdodi fel grwp meddiannaeth unigol o dan Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003<authorialNote class="footnote" eId="f00003" marker="3"><p><ref eId="c00008" href="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2003/1966">O.S. 2003/1966 (Cy.211)</ref>, fel y'u diwygiwyd gan <ref eId="c00009" href="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2006/179">O.S. 2006/179 (Cy.30)</ref> ac <ref eId="c00010" href="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2006/1036">O.S. 2006/1036 (Cy. 106)</ref>.</p></authorialNote>; ac</p></content></level><level class="para1" eId="article-4-c"><num>(c)</num><content><p>os bydd y crynhoad anifeiliaid yn digwydd ar fangre y mae perchennog yr anifeiliaid yn berchen arni neu'n ei meddiannu.</p></content></level></article><article eId="article-5"><heading>Defnyddio mangreoedd ar gyfer crynoadau anifeiliaid</heading><num>5.</num><paragraph eId="article-5-1"><num>(1)</num><content><p>Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw fangre ar gyfer crynhoad anifeiliaid oni bai bod y fangre honno wedi ei thrwyddedu i'r perwyl hwnnw gan arolygydd milfeddygol.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-5-2"><num>(2)</num><content><p>Rhaid i gais am drwydded fod yn ysgrifenedig.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-5-3"><num>(3)</num><intro><p>Rhaid i drwydded bennu—</p></intro><level class="para1" eId="article-5-3-a"><num>(a)</num><content><p>enw'r trwyddedai;</p></content></level><level class="para1" eId="article-5-3-b"><num>(b)</num><content><p>y fangre lle y caniateir crynhoi'r anifeiliaid; ac</p></content></level><level class="para1" eId="article-5-3-c"><num>(c)</num><content><p>y man y caniateir i'r anifeiliaid fynd iddo (“y man i anifeiliaid”).</p></content></level></paragraph></article><article eId="article-6"><heading>Cyfyngiad o 27 o ddiwrnodau ar gynnal crynhoad anifeiliaid</heading><num>6.</num><intro><p>Yn ddarostyngedig i erthyglau 7 ac 8, ni chaiff neb ganiatáu crynhoad anifeiliaid ar fangre y mae anifeiliaid wedi cael eu cadw arni nes bydd 27 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers y diwrnod—</p></intro><level class="para1" eId="article-6-a"><num>(a)</num><content><p>y gadawodd yr anifail olaf y fangre honno; a</p></content></level><level class="para1" eId="article-6-b"><num>(b)</num><content><p>ar ôl i'r anifail olaf adael y fangre, pan fydd yr holl gyfarpar y daeth yr anifeiliaid i gysylltiad ag ef wedi ei lanhau fel nad oes unrhyw halogiad gweladwy.</p></content></level></article><article eId="article-7"><heading>Esemptiad ar gyfer mangre sydd â man palmantog i anifeiliaid</heading><num>7.</num><paragraph eId="article-7-1"><num>(1)</num><content><p>Nid yw'r cyfyngiadau yn erthygl 6 yn gymwys os yw'r man i anifeiliaid yn y fangre drwyddedig wedi cael ei balmantu, ac os yw wedi cael ei lanhau a'i ddiheintio a bod gwastraff wedi cael ei waredu oddi yno yn unol â'r erthygl hon cyn bod crynhoad pellach o anifeiliaid yn cael ei gynnal.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-7-2"><num>(2)</num><intro><p>O ran y gwaith glanhau a diheintio—</p></intro><level class="para1" eId="article-7-2-a"><num>(a)</num><content><p>rhaid iddo beidio â dechrau nes bydd pob anifail wedi ei symud o'r rhan honno o'r man i anifeiliaid sy'n cael ei glanhau a'i diheintio; a</p></content></level><level class="para1" eId="article-7-2-b"><num>(b)</num><content><p>rhaid iddo gael ei gwblhau ar ôl i'r anifail olaf adael y fangre drwyddedig a chyn i grynhoad anifeiliaid gael ei gynnal eto ar y fangre.</p></content></level></paragraph><paragraph eId="article-7-3"><num>(3)</num><content><p>Rhaid ysgubo neu grafu'n lân bob rhan o'r man i anifeiliaid (yn cynnwys unrhyw gyfarpar), a'i glanhau drwy ei golchi a'i diheintio â diheintydd a gymeradwywyd.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-7-4"><num>(4)</num><intro><p>Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod yr holl fwyd anifeiliaid y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, a'r holl sarn, y dom a'r deunydd arall sy'n dod o anifeiliaid ac halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid sydd yn y man i anifeiliaid—</p></intro><level class="para1" eId="article-7-4-a"><num>(a)</num><content><p>yn cael eu difa,</p></content></level><level class="para1" eId="article-7-4-b"><num>(b)</num><content><p>yn cael eu trin er mwyn sicrhau nad oes perygl y byddant yn trosglwyddo clefydau; neu</p></content></level><level class="para1" eId="article-7-4-c"><num>(c)</num><content><p>yn cael eu gwaredu fel nad yw anifeiliaid yn gallu mynd atynt,</p></content></level><wrapUp><p>cyn gynted ag y bo modd a chyn i anifeiliaid gael mynd i mewn i'r fangre drwyddedig eto.</p></wrapUp></paragraph><paragraph eId="article-7-5"><num>(5)</num><content><p>Os, ar ôl yr achlysur diwethaf pan gafodd y man i anifeiliaid ei lanhau a'i ddiheintio yn unol â'r erthygl hon, y'i halogir â thom anifeiliaid neu ddeunydd arall sy'n dod o anifeiliaid neu unrhyw halogyn sy'n dod o anifeiliaid, rhaid ysgubo neu grafu'n lân y man i anifeiliaid neu'r rhannau hynny ohono sydd wedi eu halogi felly, a'u glanhau drwy olchi a thrwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwywyd cyn i unrhyw anifail gael mynd i'r fangre drwyddedig eto.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-7-6"><num>(6)</num><content><p>Pan na fo cyfres o grynoadau anifeiliaid, sy'n cael eu cynnal ar fangre sydd â man palmantog i anifeiliaid, yn para'n hwy na chyfanswm o 48 awr, caiff y crynoadau hynny eu trin fel un crynhoad anifeiliaid.</p></content></paragraph></article><article eId="article-8"><heading>Esemptiad ar gyfer arwerthiannau defaid magu yn yr hydref</heading><num>8.</num><paragraph eId="article-8-1"><num>(1)</num><intro><p>Os bydd gan fangre drwyddedig fan palmantog i anifeiliaid, yn achos arwerthiant defaid magu yn yr hydref, caiff y trwyddedai wneud cais i Weinidogion Cymru am drwydded ychwanegol—</p></intro><level class="para1" eId="article-8-1-a"><num>(a)</num><content><p>i ganiatáu bod defaid yn yr arwerthiant defaid magu yn yr hydref yn gallu mynd y tu allan i'r man palmantog i anifeiliaid; a</p></content></level><level class="para1" eId="article-8-1-b"><num>(b)</num><content><p>i gynnal crynhoad anifeiliaid pellach o fewn 27 o ddiwrnodau o ddiwedd yr arwerthiant defaid magu yn yr hydref.</p></content></level></paragraph><paragraph eId="article-8-2"><num>(2)</num><content><p>Rhaid i'r drwydded bennu'r man y tu allan i'r man palmantog i anifeiliaid y caiff y defaid fynd iddo a'r dyddiad pan ganiateir y mynediad hwnnw.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-8-3"><num>(3)</num><content><p>Rhaid i'r drwydded beidio â chaniatáu mynediad i unrhyw ran o'r man y tu allan i'r man palmantog fwy nag unwaith bob 27 o ddiwrnodau.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-8-4"><num>(4)</num><content><p>Rhaid i'r drwydded bennu'r mesurau bioddiogelwch y mae'n rhaid eu rhoi ar waith.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-8-5"><num>(5)</num><content><p>Nid yw'r drwydded yn effeithio ar unrhyw grynhoad anifeiliaid a gynhelir yn y cyfnod o 27 o ddiwrnodau ar ôl diwedd yr arwerthiant defaid magu yn yr hydref sydd yn digwydd yn unig ar y man palmantog i anifeiliaid y mae erthygl 7 yn gymwys iddo.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-8-6"><num>(6)</num><intro><p>Rhaid i unrhyw gais a wneir i Weinidogion Cymru o dan baragraff (1)—</p></intro><level class="para1" eId="article-8-6-a"><num>(a)</num><content><p>bod yn ysgrifenedig;</p></content></level><level class="para1" eId="article-8-6-b"><num>(b)</num><content><p>datgan dyddiad arfaethedig yr arwerthiant defaid magu yn yr hydref;</p></content></level><level class="para1" eId="article-8-6-c"><num>(c)</num><content><p>datgan dyddiad arfaethedig unrhyw grynhoad anifeiliaid y mae'r trwyddedai am ei gynnal o fewn 27 o ddiwrnodau o ddiwedd yr arwerthiant defaid magu yn yr hydref a natur y crynhoad anifeiliaid hwnnw; ac</p></content></level><level class="para1" eId="article-8-6-ch"><num>(ch)</num><content><p>dod i law Gweinidogion Cymru o leiaf bedair wythnos cyn dechrau'r arwerthiant defaid magu yn yr hydref.</p></content></level></paragraph><paragraph eId="article-8-7"><num>(7)</num><intro><p>O ran unrhyw drwydded a ddyroddir o dan yr erthygl hon—</p></intro><level class="para1" eId="article-8-7-a"><num>(a)</num><content><p>rhaid iddi fod yn ysgrifenedig; a</p></content></level><level class="para1" eId="article-8-7-b"><num>(b)</num><content><p>caniateir ei diwygio, ei hatal dros dro, neu ei dirymu drwy hysbysiad a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.</p></content></level></paragraph></article><article eId="article-9"><heading>Terfynau amser</heading><num>9.</num><paragraph eId="article-9-1"><num>(1)</num><content><p>Rhaid i grynhoad anifeiliaid a gynhelir at ddibenion gwerthiant (boed y gwerthiant yn unig ddiben neu beidio) ar fangre sydd â man palmantog i anifeiliaid neu arwerthiant defaid magu yn yr hydref a drwyddedwyd o dan erthygl 8 beidio â phara am fwy na 48 awr, gan ddechrau ganol dydd.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-9-2"><num>(2)</num><intro><p>Caiff arolygydd milfeddygol drwy hysbysiad estyn cyfnod crynhoad anifeiliaid o dan baragraff (1) os yw'r arolygydd milfeddygol wedi'i fodloni—</p></intro><level class="para1" eId="article-9-2-a"><num>(a)</num><content><p>bod angen yr estyniad er lles yr anifeiliaid; neu</p></content></level><level class="para1" eId="article-9-2-b"><num>(b)</num><content><p>mai bach yw'r perygl o gyflwyno clefydau yn y gwerthiant ac o ledaenu clefydau wedi hynny.</p></content></level></paragraph><paragraph eId="article-9-3"><num>(3)</num><content><p>Yn achos crynhoad anifeiliaid nad yw paragraff (1) yn gymwys iddo, os un o ddibenion y crynhoad yw crynhoi anifeiliaid ynghyd i'w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr, rhaid i'r crynhoad beidio â phara am fwy na 48 awr, gan ddechrau ganol dydd.</p></content></paragraph></article><article eId="article-10"><heading>Newid ar amser dechrau crynoadau anifeiliaid at ddibenion gwerthu</heading><num>10.</num><paragraph eId="article-10-1"><num>(1)</num><intro><p>Yn achos crynhoad anifeiliaid a gynhelir at ddibenion gwerthiant (boed y gwerthiant yn unig ddiben neu beidio) ar fangre sydd â man palmantog i anifeiliaid neu arwerthiant defaid magu yn yr hydref a drwyddedwyd o dan erthygl 8, caiff y trwyddedai newid yr amser dechrau am ganol dydd, drwy o leiaf bythefnos ymlaen llaw—</p></intro><level class="para1" eId="article-10-1-a"><num>(a)</num><content><p>hysbysu Gweinidogion Cymru yn ogystal â'r awdurdod lleol o ddyddiad ac amser dechrau a diweddu'r crynhoad anifeiliaid neu'r arwerthiant defaid magu yn yr hydref; a</p></content></level><level class="para1" eId="article-10-1-b"><num>(b)</num><content><p>rhoi cyhoeddusrwydd i'r crynhoad anifeiliaid neu'r arwerthiant defaid magu yn yr hydref fel y bydd y sawl sy'n dod ag anifeiliaid yno yn cael gwybod am yr amser dechrau a diweddu newydd.</p></content></level></paragraph><paragraph eId="article-10-2"><num>(2)</num><content><p>Os yw'r crynoadau anifeiliaid yn un o gyfres o grynoadau o'r fath, caniateir i'r hysbysiad a'r cyhoeddusrwydd fod ar gyfer y gyfres honno.</p></content></paragraph></article><article eId="article-11"><heading>Gwerthiant cigydda dynodedig a chasgliadau cigydda dynodedig</heading><num>11.</num><paragraph eId="article-11-1"><num>(1)</num><content><p>Ni chaiff neb gynnal gwerthiant cigydda dynodedig neu gasgliad cigydda dynodedig onid yw ar fangre sydd â man palmantog i anifeiliaid.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-11-2"><num>(2)</num><content><p>Ni chaiff neb gynnal gwerthiant cigydda dynodedig neu gasgliad cigydda dynodedig fel rhan o grynhoad anifeiliaid sy'n cael ei gynnal at unrhyw ddiben arall.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-11-3"><num>(3)</num><content><p>Rhaid i'r trwyddedai hysbysu Gweinidogion Cymru a'r awdurdod lleol fod y trwyddedai yn bwriadu cynnal gwerthiant cigydda dynodedig neu gasgliad cigydda dynodedig o leiaf 3 diwrnod cyn y gwerthiant neu'r casgliad.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-11-4"><num>(4)</num><content><p>Rhaid i'r trwyddedai roi cyhoeddusrwydd i'r crynhoad anifeiliaid fel bod y sawl sy'n dod ag anifeiliaid iddo yn cael gwybod ei fod yn werthiant cigydda dynodedig neu'n gasgliad cigydda dynodedig.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-11-5"><num>(5)</num><intro><p>Yn yr erthygl hon—</p></intro><level class="para1" eId="article-11-5-a"><num>(a)</num><content><p>ystyr “gwerthiant cigydda dynodedig” yw achlysur pan grynhoir anifeiliaid ynghyd at ddibenion gwerthiant cyn eu traddodi ymlaen yn uniongyrchol i'w cigydda ym Mhrydain Fawr;</p></content></level><level class="para1" eId="article-11-5-b"><num>(b)</num><content><p>ystyr “casgliad cigydda dynodedig” yw achlysur pan grynhoir anifeiliaid ynghyd at ddibenion eu traddodi ymlaen yn uniongyrchol i'w cigydda ym Mhrydain Fawr.</p></content></level></paragraph></article><article eId="article-12"><heading>Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid</heading><num>12.</num><content><p>Pan gynhelir crynhoad anifeiliaid (heblaw mewn sioe neu arddangosfa) mae darpariaethau'r Atodlen (gofynion ynghylch crynhoad anifeiliaid) yn effeithiol.</p></content></article><article eId="article-13"><heading>Cyfyngiadau yn dilyn crynhoad anifeiliaid</heading><num>13.</num><paragraph eId="article-13-1"><num>(1)</num><content><p>Mae darpariaethau'r erthygl hon yn gymwys unwaith y bydd yr anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid wedi gadael y fangre drwyddedig.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-13-2"><num>(2)</num><content><p>Ni chaiff neb ganiatáu i anifeiliaid fynd ar y fangre drwyddedig hyd nes bydd pob cyfarpar y daeth yr anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef yn y crynhoad wedi'i lanhau fel nad oes arno halogiad gweladwy.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-13-3"><num>(3)</num><intro><p>Ni chaiff neb symud o'r fangre drwyddedig unrhyw gyfarpar y daeth anifeiliaid mewn crynhoad anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef—</p></intro><level class="para1" eId="article-13-3-a"><num>(a)</num><content><p>onid yw'r halogion gweladwy wedi eu glanhau oddi ar y cyfarpar ac onibai bod cyfnod o 27 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers i'r anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid adael y fangre drwyddedig; neu</p></content></level><level class="para1" eId="article-13-3-b"><num>(b)</num><content><p>oni chafodd y cyfarpar ei ysgubo a'i grafu'n lân, ac yna ei lanhau drwy ei olchi a'i ddiheintio â diheintydd a gymeradwywyd.</p></content></level></paragraph></article><article eId="article-14"><heading>Gorfodi</heading><num>14.</num><paragraph eId="article-14-1"><num>(1)</num><content><p>Rhaid i'r Gorchymyn hwn gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.</p></content></paragraph><paragraph eId="article-14-2"><num>(2)</num><content><p>Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, o ran achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, mai Gweinidogion Cymru, ac nid yr awdurdod lleol, sydd i weithredu'r swyddogaeth orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan yr erthygl hon.</p></content></paragraph></article><article eId="article-15"><heading>Dirymu</heading><num>15.</num><content><p>Dirymir Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2004<authorialNote class="footnote" eId="f00004" marker="4"><p><ref eId="c00011" href="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2004/1803">O.S. 2004/1803 (Cy.191)</ref>.</p></authorialNote>.</p></content></article><hcontainer name="signatures"><hcontainer name="signatureBlock"><content><block name="signature"><signature refersTo="#">Elin Jones</signature></block><block name="role"><role refersTo="#">Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru</role></block><block name="date"><date date="2007-08-14">14 Awst 2007</date></block></content></hcontainer></hcontainer><hcontainer name="schedules"><hcontainer name="schedule" eId="schedule"><num>YR ATODLEN<authorialNote class="referenceNote"><p>Erthygl 12</p></authorialNote></num><heading>Gofynion mewn crynhoad anifeiliaid</heading><hcontainer name="crossheading" class="schGroup7"><heading>Dyletswyddau trwyddedai</heading><paragraph eId="schedule-paragraph-1" class="schProv1"><num>1.</num><subparagraph eId="schedule-paragraph-1-1"><num>(1)</num><content><p>Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson sy'n mynd ar y fangre drwyddedig yn cael gwybod bod y fangre'n drwyddedig o dan y Gorchymyn hwn, pa un ai trwy gyfrwng system o hysbysiadau y gwneir hynny neu mewn rhyw ffordd arall.</p></content></subparagraph><subparagraph eId="schedule-paragraph-1-2"><num>(2)</num><intro><p>Rhaid i'r trwyddedai ddarparu'r canlynol wrth yr allanfeydd o'r man i anifeiliaid ac wrth unrhyw fan llwytho a dadlwytho—</p></intro><level class="para1" eId="schedule-paragraph-1-2-a"><num>(a)</num><content><p>baddonau traed sy'n cynnwys diheintydd a gymeradwywyd; a</p></content></level><level class="para1" eId="schedule-paragraph-1-2-b"><num>(b)</num><content><p>cyfleusterau ar gyfer tynnu oddi ar esgidiau laid, tom anifeiliaid ac unrhyw halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid cyn defnyddio'r baddonau traed.</p></content></level></subparagraph><subparagraph eId="schedule-paragraph-1-3"><num>(3)</num><content><p>Rhaid i'r trwyddedai ddarparu cyfleusterau ar y fangre drwyddedig ar gyfer newid, glanhau a diheintio dillad a gwaredu dillad y gellir eu taflu.</p></content></subparagraph><subparagraph eId="schedule-paragraph-1-4"><num>(4)</num><intro><p>Rhaid i'r trwyddedai —</p></intro><level class="para1" eId="schedule-paragraph-1-4-a"><num>(a)</num><content><p>sicrhau mai yn y man i anifeiliaid yn unig y caiff yr anifeiliaid eu dadlwytho a'u llwytho; a</p></content></level><level class="para1" eId="schedule-paragraph-1-4-b"><num>(b)</num><content><p>sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, nad yw anifeiliaid yn gadael y man i anifeiliaid ac eithrio ar gerbyd.</p></content></level></subparagraph><subparagraph eId="schedule-paragraph-1-5"><num>(5)</num><intro><p>Pan gynhelir crynhoad anifeiliaid y mae'r terfynau amser yn erthyglau 9 a 10 yn gymwys iddo, rhaid i'r trwyddedai sicrhau—</p></intro><level class="para1" eId="schedule-paragraph-1-5-a"><num>(a)</num><content><p>na ddeuir â'r un anifail i'r fangre cyn dechrau'r crynhoad anifeiliaid; a</p></content></level><level class="para1" eId="schedule-paragraph-1-5-b"><num>(b)</num><content><p>bod pob anifail yn cael ei symud o'r fangre erbyn diwedd y crynhoad anifeiliaid.</p></content></level></subparagraph></paragraph></hcontainer><hcontainer name="crossheading" class="schGroup7"><heading>Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid</heading><paragraph eId="schedule-paragraph-2" class="schProv1"><num>2.</num><subparagraph eId="schedule-paragraph-2-1"><num>(1)</num><content><p>Ni chaiff neb fynd ar fangre drwyddedig yn gwisgo dillad allanol neu esgidiau y gellir gweld eu bod wedi'u halogi â llaid, tom anifeiliaid neu halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid.</p></content></subparagraph><subparagraph eId="schedule-paragraph-2-2"><num>(2)</num><intro><p>Os bydd person yn y man i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol neu esgidiau y gellir gweld eu bod wedi eu halogi â llaid, tom anifeiliaid neu halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid, rhaid iddo ar ei union wrth adael y man i anifeiliaid, lanhau halogi garw oddi ar ei ddillad allanol neu ei esgidiau (onid ydynt i gael eu gwaredu) a naill ai—</p></intro><level class="para1" eId="schedule-paragraph-2-2-a"><num>(a)</num><content><p>eu diheintio;</p></content></level><level class="para1" eId="schedule-paragraph-2-2-b"><num>(b)</num><content><p>newid i ddillad neu esgidiau glân;</p></content></level><level class="para1" eId="schedule-paragraph-2-2-c"><num>(c)</num><content><p>eu gwaredu; neu</p></content></level><level class="para1" eId="schedule-paragraph-2-2-ch"><num>(ch)</num><content><p>ymadael â'r fangre drwyddedig.</p></content></level></subparagraph><subparagraph eId="schedule-paragraph-2-3"><num>(3)</num><intro><p>Os bydd person y tu allan i'r man i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol neu esgidiau y gellir gweld eu bod wedi eu halogi â llaid, tom anifeiliaid neu halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid, caiff arolygydd gyflwyno iddo hysbysiad yn rhoi iddo'r dewis a hynny ar ei union—</p></intro><level class="para1" eId="schedule-paragraph-2-3-a"><num>(a)</num><content><p>glanhau ei ddillad allanol neu ei esgidiau;</p></content></level><level class="para1" eId="schedule-paragraph-2-3-b"><num>(b)</num><content><p>newid i ddillad neu esgidiau glân;</p></content></level><level class="para1" eId="schedule-paragraph-2-3-c"><num>(c)</num><content><p>gwaredu dillad neu esgidiau y gellir eu taflu; neu</p></content></level><level class="para1" eId="schedule-paragraph-2-3-ch"><num>(ch)</num><content><p>ymadael â'r fangre drwyddedig.</p></content></level></subparagraph></paragraph></hcontainer><hcontainer name="crossheading" class="schGroup7"><heading>Esgidiau i'w gwisgo yn y man i anifeiliaid</heading><paragraph eId="schedule-paragraph-3" class="schProv1"><num>3.</num><content><p>Rhaid i unrhyw berson sy'n ymadael â'r man i anifeiliaid, gan ddefnyddio'r cyfleusterau a ddarperir, dynnu'r llaid, tom anifeiliaid ac unrhyw halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid oddi ar ei esgidiau ac yna diheintio'r esgidiau hynny yn y baddon traed a ddarperir sy'n cynnwys diheintydd a gymeradwywyd.</p></content></paragraph></hcontainer><hcontainer name="crossheading" class="schGroup7"><heading>Cerbydau</heading><paragraph eId="schedule-paragraph-4" class="schProv1"><num>4.</num><subparagraph eId="schedule-paragraph-4-1"><num>(1)</num><content><p>Ni chaiff neb ddod ag unrhyw gerbyd na chyfarpar a gludir ar y cerbyd hwnnw ar y fangre drwyddedig na mynd â hwy oddi yno os gellir gweld eu bod wedi'u halogi â thom anifeiliaid neu unrhyw halogiad arall sy'n dod o anifeiliaid.</p></content></subparagraph><subparagraph eId="schedule-paragraph-4-2"><num>(2)</num><intro><p>Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gerbyd neu gyfarpar a gludir ar y cerbyd hwnnw sy'n dod ar fangre drwyddedig —</p></intro><level class="para1" eId="schedule-paragraph-4-2-a"><num>(a)</num><content><p>os yw'r dom anifeiliaid neu halogiad arall yn dod yn unig o'r anifeiliaid a gludir ar y cerbyd pan ddaethpwyd â'r cerbyd ar y fangre drwyddedig; neu</p></content></level><level class="para1" eId="schedule-paragraph-4-2-b"><num>(b)</num><content><p>yn unswydd er mwyn eu glanhau a'u diheintio, os eir â hwy yn unionsyth i'r cyfleusterau glanhau a diheintio yn ddi-oed ar ôl cyrraedd y fangre.</p></content></level></subparagraph><subparagraph eId="schedule-paragraph-4-3"><num>(3)</num><intro><p>Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gerbyd neu gyfarpar a gludir ar y cerbyd hwnnw sy'n ymadael â'r fangre drwyddedig—</p></intro><level class="para1" eId="schedule-paragraph-4-3-a"><num>(a)</num><content><p>os yw'r dom anifeiliaid neu halogiad arall yn dod yn unig o'r anifeiliaid a ddadlwythwyd o'r cerbyd ar y fangre drwyddedig; neu</p></content></level><level class="para1" eId="schedule-paragraph-4-3-b"><num>(b)</num><content><p>os yw'r dom anifeiliaid neu halogiad arall yn dod yn unig o'r anifeiliaid a lwythwyd ar y cerbyd ar y fangre drwyddedig.</p></content></level></subparagraph></paragraph></hcontainer></hcontainer></hcontainer></body><conclusions><blockContainer class="explanatoryNote"><subheading>(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)</subheading><blockContainer ukl:Name="P"><p>Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn ailddeddfu, gyda diwygiadau, Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2004 (<ref eId="c00001" href="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2004/1803">O.S. 2004/1803 (Cy.191)</ref>). Mae'r diwygiadau fel a ganlyn.</p></blockContainer><blockContainer ukl:Name="P"><p>Yn gyntaf, pan na fo cyfres o grynoadau anifeiliaid, sy'n cael eu cynnal ar fangre â man palmantog i anifeiliaid, yn para'n hwy na chyfanswm o 48 awr, caiff y crynoadau hynny eu trin fel un crynhoad anifeiliaid (erthygl 7(6)). Yn ail, mae erthygl 8 yn darparu y caiff trwyddedai wneud cais i Weinidogion Cymru ganiatáu i ddefaid mewn arwerthiant defaid magu yn yr hydref gael mynd i fannau y tu allan i'r man palmantog i anifeiliaid ac i gael caniatâd i gynnal crynoadau pellach o anifeiliaid o fewn 27 niwrnod i'r arwerthiant hwnnw o ddefaid magu yn yr hydref. Yn drydydd, mae paragraff 1(2) o'r Atodlen yn ei gwneud yn ofynnol i'r trwyddedai ddarparu cyfleusterau ar gyfer gwaredu llaid, tom a halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid oddi ar esgidiau, yn ogystal â darparu baddonau traed. Mae paragraff 3 o'r Atodlen yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n ymadael â'r man i anifeiliaid ddefnyddio'r cyfleusterau hynny cyn defnyddio'r baddon traed sy'n cynnwys diheintydd a gymeradwywyd. Yn bedwerydd, mae paragraff 2(1) o'r Atodlen yn darparu na chaiff unrhyw berson fynd i mewn i fangre drwyddedig gyda dillad allanol neu esgidiau y gellir gweld eu bod wedi'u halogi â llaid, yn ychwanegol at ddom anifeiliaid neu unrhyw halogydd anifeiliaid arall a bennwyd yng Ngorchymyn 2004.</p></blockContainer><blockContainer ukl:Name="P"><p>Mae erthygl 4 yn darparu na fydd y Gorchymyn hwn yn gymwys os yw'r holl anifeiliaid y deuir â hwy i grynhoad anifeiliaid ym mherchenogaeth yr un person ac yn dod o fangre a awdurdodir fel grwp meddiannaeth unigol o dan Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 (<ref eId="c00002" href="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2003/1966">O.S. 2003/1966 (Cy.211)</ref>) ac os crynhoir yr anifeiliaid ar fangre y mae perchennog yr anifeiliaid yn berchen arni neu'n ei meddiannu.</p></blockContainer><blockContainer ukl:Name="P"><p>Mae erthygl 5 yn ei gwneud yn ofynnol i gael trwydded ar gyfer crynoadau anifeiliaid. Mae erthygl 6 yn pennu y gellir cynnal crynhoad anifeiliaid dim ond 27 o ddiwrnodau neu fwy ar ôl i'r anifail olaf adael y fangre honno a bod y fangre honno wedi'i glanhau a'r cyfarpar hwnnw ar y fangre wedi'i lanhau o halogiad gweladwy. Os ar fangre balmantog y cynhelir y crynhoad, mae erthygl 7 yn gwneud darpariaeth ar gyfer glanhau a diheintio'r fangre honno ac yn caniatáu cynnal crynhoad o fewn y terfynau amser arferol. Mae erthygl 9 yn gosod terfyn amser o 48 awr ar grynoadau anifeiliaid at ddibenion gwerthiant ar fangre balmantog ac arwerthiannau defaid magu yn yr hydref a llwythi sy'n cael eu traddodi ymlaen ar unrhyw fangre. Mae erthygl 12 a'r Atodlen yn gosod dyletswyddau ar bersonau sy'n mynd i grynhoad anifeiliaid. Mae erthygl 13 yn gosod cyfyngiadau yn dilyn crynhoad anifeiliaid. Mae erthygl 14 yn ymdrin â gorfodi.</p></blockContainer><blockContainer ukl:Name="P"><p>Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac yn dwyn cosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.</p></blockContainer><blockContainer ukl:Name="P"><p>Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi a gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.</p></blockContainer></blockContainer></conclusions></act></akomaNtoso>