(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn ailddeddfu, gyda diwygiadau, Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1803 (Cy.191)). Mae'r diwygiadau fel a ganlyn.

Yn gyntaf, pan na fo cyfres o grynoadau anifeiliaid, sy'n cael eu cynnal ar fangre â man palmantog i anifeiliaid, yn para'n hwy na chyfanswm o 48 awr, caiff y crynoadau hynny eu trin fel un crynhoad anifeiliaid (erthygl 7(6)). Yn ail, mae erthygl 8 yn darparu y caiff trwyddedai wneud cais i Weinidogion Cymru ganiatáu i ddefaid mewn arwerthiant defaid magu yn yr hydref gael mynd i fannau y tu allan i'r man palmantog i anifeiliaid ac i gael caniatâd i gynnal crynoadau pellach o anifeiliaid o fewn 27 niwrnod i'r arwerthiant hwnnw o ddefaid magu yn yr hydref. Yn drydydd, mae paragraff 1(2) o'r Atodlen yn ei gwneud yn ofynnol i'r trwyddedai ddarparu cyfleusterau ar gyfer gwaredu llaid, tom a halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid oddi ar esgidiau, yn ogystal â darparu baddonau traed. Mae paragraff 3 o'r Atodlen yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n ymadael â'r man i anifeiliaid ddefnyddio'r cyfleusterau hynny cyn defnyddio'r baddon traed sy'n cynnwys diheintydd a gymeradwywyd. Yn bedwerydd, mae paragraff 2(1) o'r Atodlen yn darparu na chaiff unrhyw berson fynd i mewn i fangre drwyddedig gyda dillad allanol neu esgidiau y gellir gweld eu bod wedi'u halogi â llaid, yn ychwanegol at ddom anifeiliaid neu unrhyw halogydd anifeiliaid arall a bennwyd yng Ngorchymyn 2004.

Mae erthygl 4 yn darparu na fydd y Gorchymyn hwn yn gymwys os yw'r holl anifeiliaid y deuir â hwy i grynhoad anifeiliaid ym mherchenogaeth yr un person ac yn dod o fangre a awdurdodir fel grwp meddiannaeth unigol o dan Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1966 (Cy.211)) ac os crynhoir yr anifeiliaid ar fangre y mae perchennog yr anifeiliaid yn berchen arni neu'n ei meddiannu.

Mae erthygl 5 yn ei gwneud yn ofynnol i gael trwydded ar gyfer crynoadau anifeiliaid. Mae erthygl 6 yn pennu y gellir cynnal crynhoad anifeiliaid dim ond 27 o ddiwrnodau neu fwy ar ôl i'r anifail olaf adael y fangre honno a bod y fangre honno wedi'i glanhau a'r cyfarpar hwnnw ar y fangre wedi'i lanhau o halogiad gweladwy. Os ar fangre balmantog y cynhelir y crynhoad, mae erthygl 7 yn gwneud darpariaeth ar gyfer glanhau a diheintio'r fangre honno ac yn caniatáu cynnal crynhoad o fewn y terfynau amser arferol. Mae erthygl 9 yn gosod terfyn amser o 48 awr ar grynoadau anifeiliaid at ddibenion gwerthiant ar fangre balmantog ac arwerthiannau defaid magu yn yr hydref a llwythi sy'n cael eu traddodi ymlaen ar unrhyw fangre. Mae erthygl 12 a'r Atodlen yn gosod dyletswyddau ar bersonau sy'n mynd i grynhoad anifeiliaid. Mae erthygl 13 yn gosod cyfyngiadau yn dilyn crynhoad anifeiliaid. Mae erthygl 14 yn ymdrin â gorfodi.

Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac yn dwyn cosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi a gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.