xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Hysbysiadau a thrwyddedau

3.—(1O ran hysbysiad neu drwydded o dan Gorchymyn hwn —

(a)rhaid iddynt fod yn ysgrifenedig;

(b)gellir eu diwygio, eu hatal dros dro, neu eu dirymu drwy hysbysiad a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol; ac

(c)cânt fod yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau y mae'r arolygydd milfeddygol yn barnu bod eu hangen i atal cyflwyno clefyd i'r fangre drwyddedig neu i atal lledaenu clefyd o fewn y fangre drwyddedig neu'r tu allan iddi.

(2Ond nid yw'r erthygl hon yn gymwys i hysbysiad neu drwydded a roddir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 8.