Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “anifeiliaid” (“animals”) yw gwartheg (ond heb gynnwys buail a iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;

ystyr “arwerthiant defaid magu yn yr hydref” (“sheep autumn breeding sale”) yw crynhoad anifeiliaid a gynhelir rhwng 1 Awst a 31 Rhagfyr at y prif ddiben o werthu defaid bridio;

ystyr “crynhoad anifeiliaid” (“animal gathering”) yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi ynghyd at un neu fwy o'r dibenion canlynol —

(a)

gwerthiant, sioe neu arddangosfa;

(b)

traddodi llwyth o anifeiliaid ymlaen o fewn Prydain Fawr;

(c)

archwiliad i gadarnhau bod gan yr anifeiliaid nodweddion brid penodol;

mae “cyfarpar” (“equipment”) yn cynnwys llociau a chlwydi;

ystyr “diheintydd a gymeradwywyd” (“approved disinfectant”) yw diheintydd a gymeradwywyd o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978(1);

mae i “man i anifeiliaid” (“animal area”) yr ystyr a roddir yn erthygl 5(3)(c);

ystyr “mangre drwyddedig” (“licensed premises”) yw mangre a drwyddedwyd o dan erthygl 5;

ystyr “palmantog” (“paved”) yw arwyneb o sment, concrid, asffalt neu ddeunydd caled anhydrin arall y gellir ei lanhau a'i ddiheintio'n effeithiol.

(1)

O.S. 1978/32 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf o ran Cymru gan O.S. 2006/3166 (Cy.291).