Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2007
Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2007 a daw i rym ar [dyddiad]
(2)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Yn y Gorchymyn hwn:
mae i'r ymadrodd “hectar cymwys” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “eligible hectare” yn Erthygl 44(2) o Reoliad y Cyngor 1782/2003;
ystyr “mapiau dynodedig (“designated maps”) yw'r ddwy gyfrol o fapiau wedi'u Rhif o 1 a 2 gyda phob cyfrol wedi'i marcio “Cyfrol o Fapiau ardaloedd ffermio llai ffafriol yng Nghymru” a chyda Rhif y gyfrol dyddiedig 20 Mai 1999 wedi'i llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac wedi'u hadneuo yn Swyddfeydd Adran Amaethyddiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
- “ystyr “Rheoliad y Cyngor 1782/2003” (“Council Regulation 1782/2003”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n sefydlu cynlluniau uniongyrchol penodol i ffermwyr ac sy'n diwygio rheoliadau penodol3 fel y'u diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1156/20064;
- ystyr “Taliad Tir Mynydd” (“Tir Mynydd payment”) yw cymorth ariannol a delir yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 20065;
ystyr “tir cymwys” (“eligible land”) yw'r rhan honno o'r tir cymhwysol sydd o fewn ardal lai ffafriol;
ystyr “tir llai ffafriol” (“less favoured area”) yw tir tan anfantais neu dir tan anfantais ddifrifol;
ystyr “tir tan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir tan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir a ddangosir â lliw glas ar y mapiau dynodedig;
ystyr “tir tan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw'r ardal o dir a ddangosir â lliw pinc ar y mapiau dynodedig.
Asesiadau o gapasiti cynhyrchiol tir2.
(1)
Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu cymhwysedd capasiti uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr paragraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2)
Os gellir defnyddio'r tir dan sylw, pan gaiff ei ffermio dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwrol yn yr awyr agored neu ffrwythau fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yna—
(a)
yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir yw'r uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o Atodlen 1 gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a
(b)
y swm a bennir ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2006 fel yr incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir gydag unrhyw nodyn perthnasol i'r Atodlen honno.
(3)
Os yw tir, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, sy'n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net yn derbyn taliad Tir Mynydd neu wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu yn 2005 neu wedi bod yn hectar cymwys yn 2005 fel a grybwyllir yng nghofnodion 4, 5 a 6 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna—
(a)
yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir yw'r uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a
(b)
y swm a bennir ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2006 fel yr incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw'r swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw.
Dirymu3.
YR ATODLENUNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 | |
|---|---|---|---|
Defnydd Ffermio | Uned gynhyrchu | Incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu (£) | |
1. Da byw | |||
Buchod godro (ac eithrio bridiau Ynysoedd y Sianel) | buwch | 302 | |
Buchod bridio cig eidion: | |||
Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynydd | buwch | −138 | |
Ar dir arall | buwch | −59 | |
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) | pen | −57 (1) | |
Buchod llaeth i lenwi bylchau | pen | 80 (2) | |
Mamogiaid: | |||
Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynydd | mamog | 8 | |
Ar dir arall | mamog | 19 | |
Wyn stôr (gan gynnwys wyn benyw a werthir fel hesbinod) | pen | 2 | |
Moch: | |||
Hychod a banwesi torrog | hwch neu fanwes dorrog | 160 | |
Moch porc | pen | 3 | |
Moch torri | pen | 5.50 | |
Moch bacwn | pen | 8.20 | |
Dofednod: | |||
Ieir dodwy | aderyn | 2 | |
Brwyliaid/ieir bwyta | aderyn | 0.24 | |
Cywennod ar ddodwy | aderyn | 0.45 | |
Tyrcwn Nadolig | aderyn | 4.50 | |
2. Cnydau âr fferm | |||
Haidd | hectar | 24 | |
Ffa | hectar | 54.18 (3) | |
Had porfa | hectar | 230 | |
Rêp had olew | hectar | 22 | |
Pys: | |||
Sych | hectar | 14.18 (3) | |
Dringo | hectar | 350 | |
Tatws: | |||
Cynnar cyntaf | hectar | 1800 | |
Prif gnwd (gan gynnwys hadyd) | hectar | 1500 | |
Betys siwgr | hectar | 250 | |
Gwenith | hectar | 35 | |
3. Cnydau garddwriaethol awyr aagored a ffrwythau | |||
Gwreiddlysiau a nionod/winwns | hectar | 2500 | |
Cnwd bresych | hectar | 1750 | |
Pys a ffa ffres | hectar | 1100 | |
Ffrwythau'r Berllan | hectar | 1300 | |
Ffrwythau meddal | hectar | 3600 | |
4. Tir Porthiant | |||
Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynydd | hectar | Swm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan Reoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig Rhaglenni (Cymru) 2006 | |
5. Neilltir | |||
Tir a oedd yn 2005 wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu o dan Erthygl 54(3) o reoliad y Cyngor 1782/2003 | |||
Tir tan anfantais ddifrifol | hectar | −19.91 | |
Tir tan anfantais | hectar | −16.77 | |
Pob tir arall | hectar | −120.77 | |
6. Hectarau cymwys | |||
Tir a oedd yn 2005 yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 1782/2003 ac eithrio tir a oedd wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu o dan Erthygl 54(3) o'r Rheoliad hwnnw: | |||
Tir tan anfantais ddifrifol | hectar | 104.20 | |
Tir tan anfantais | hectar | 121.22 | |
Pob tir arall | hectar | 69.96 | |
NODIADAU I'R ATODLEN | |||
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu capasiti cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn gosod y swm sydd i gael ei ystyried fel yr incwm blynyddol net o bob uned o'r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2006 i 11 Medi 2007 gan gynnwys y dyddiadau hynny.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2006.
Mae asesiad o gapasiti cynhyrchiol tir amaethyddol yn ofynnol wrth benderfynu a yw'r tir o dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2).
Mae “uned fasnachol o dir amaethyddol” yn dir sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, â'r gallu i gynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai nag agregiad enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd amser-llawn 20 oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986).
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, pryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn berthnasol i'r asesiad o gapasiti cynhyrchiol y tir dan sylw, yr unedau cynhyrchu a'r incwm net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn fydd sail yr asesiad hwnnw.
Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 o'r Atodlen yn rhagnodi'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gapasiti cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn.
Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd yn 2005 yn hectar cymwys at ddibenion o Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.1), sy'n sefydlu'r Cynllun Taliad Sengl. Mae yna ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir tan anfantais ddifrifol, tir tan anfantais a thir arall. Mae yna hefyd ffigurau ar wahân ar gyfer tir a oedd wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu yn 2005.