Search Legislation

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2398 (Cy.199)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2007

Wedi'i wneud

14 Awst 2007

Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Awst 2007

Yn dod i rym

7 Medi 2007

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:—

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2007 a daw i rym ar [dyddiad]

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn:

  • mae i'r ymadrodd “hectar cymwys” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “eligible hectare” yn Erthygl 44(2) o Reoliad y Cyngor 1782/2003;

  • ystyr “mapiau dynodedig (“designated maps”) yw'r ddwy gyfrol o fapiau wedi'u Rhif o 1 a 2 gyda phob cyfrol wedi'i marcio “Cyfrol o Fapiau ardaloedd ffermio llai ffafriol yng Nghymru” a chyda Rhif y gyfrol dyddiedig 20 Mai 1999 wedi'i llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac wedi'u hadneuo yn Swyddfeydd Adran Amaethyddiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

  • “ystyr “Rheoliad y Cyngor 1782/2003” (“Council Regulation 1782/2003”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n sefydlu cynlluniau uniongyrchol penodol i ffermwyr ac sy'n diwygio rheoliadau penodol(3) fel y'u diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1156/2006(4);

  • ystyr “Taliad Tir Mynydd” (“Tir Mynydd payment”) yw cymorth ariannol a delir yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006(5);

  • ystyr “tir cymwys” (“eligible land”) yw'r rhan honno o'r tir cymhwysol sydd o fewn ardal lai ffafriol;

  • ystyr “tir llai ffafriol” (“less favoured area”) yw tir tan anfantais neu dir tan anfantais ddifrifol;

  • ystyr “tir tan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir tan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir a ddangosir â lliw glas ar y mapiau dynodedig;

  • ystyr “tir tan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw'r ardal o dir a ddangosir â lliw pinc ar y mapiau dynodedig.

Asesiadau o gapasiti cynhyrchiol tir

2.—(1Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu cymhwysedd capasiti uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr paragraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

(2Os gellir defnyddio'r tir dan sylw, pan gaiff ei ffermio dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwrol yn yr awyr agored neu ffrwythau fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yna—

(a)yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir yw'r uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o Atodlen 1 gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a

(b)y swm a bennir ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2006 fel yr incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir gydag unrhyw nodyn perthnasol i'r Atodlen honno.

(3Os yw tir, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, sy'n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net yn derbyn taliad Tir Mynydd neu wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu yn 2005 neu wedi bod yn hectar cymwys yn 2005 fel a grybwyllir yng nghofnodion 4, 5 a 6 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna—

(a)yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir yw'r uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a

(b)y swm a bennir ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2006 fel yr incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw'r swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw.

Dirymu

3.  Dirymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2006(6).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

14 Awst 2007

Erthygl 2

YR ATODLENUNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Defnydd FfermioUned gynhyrchuIncwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu (£)
NODIADAU I'R ATODLEN
(1)

Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata ohono.

(2)

Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid (waeth beth fo'u hoed) a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata ohono.

(3)

Mae'r ffigur hwn yn cynnwys y premiwm cnwd protein y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 76 o Reoliad y Cyngor 1782/2003.

1. Da byw
Buchod godro (ac eithrio bridiau Ynysoedd y Sianel)buwch302
Buchod bridio cig eidion:
Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynyddbuwch−138
Ar dir arallbuwch−59
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys)pen−57 (1)
Buchod llaeth i lenwi bylchaupen80 (2)
Mamogiaid:
Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynyddmamog8
Ar dir arallmamog19
Wyn stôr (gan gynnwys wyn benyw a werthir fel hesbinod)pen2
Moch:
Hychod a banwesi torroghwch neu fanwes dorrog160
Moch porcpen3
Moch torripen5.50
Moch bacwnpen8.20
Dofednod:
Ieir dodwyaderyn2
Brwyliaid/ieir bwytaaderyn0.24
Cywennod ar ddodwyaderyn0.45
Tyrcwn Nadoligaderyn4.50
2. Cnydau âr fferm
Haiddhectar24
Ffahectar54.18 (3)
Had porfahectar230
Rêp had olewhectar22
Pys:
Sychhectar14.18 (3)
Dringohectar350
Tatws:
Cynnar cyntafhectar1800
Prif gnwd (gan gynnwys hadyd)hectar1500
Betys siwgrhectar250
Gwenithhectar35
3. Cnydau garddwriaethol awyr aagored a ffrwythau
Gwreiddlysiau a nionod/winwnshectar2500
Cnwd bresychhectar1750
Pys a ffa ffreshectar1100
Ffrwythau'r Berllanhectar1300
Ffrwythau meddalhectar3600
4. Tir Porthiant
Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir MynyddhectarSwm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan Reoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig Rhaglenni (Cymru) 2006
5. Neilltir
Tir a oedd yn 2005 wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu o dan Erthygl 54(3) o reoliad y Cyngor 1782/2003
Tir tan anfantais ddifrifolhectar−19.91
Tir tan anfantaishectar−16.77
Pob tir arallhectar−120.77
6. Hectarau cymwys
Tir a oedd yn 2005 yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 1782/2003 ac eithrio tir a oedd wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu o dan Erthygl 54(3) o'r Rheoliad hwnnw:
Tir tan anfantais ddifrifolhectar104.20
Tir tan anfantaishectar121.22
Pob tir arallhectar69.96

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu capasiti cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn gosod y swm sydd i gael ei ystyried fel yr incwm blynyddol net o bob uned o'r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2006 i 11 Medi 2007 gan gynnwys y dyddiadau hynny.

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2006.

Mae asesiad o gapasiti cynhyrchiol tir amaethyddol yn ofynnol wrth benderfynu a yw'r tir o dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2).

Mae “uned fasnachol o dir amaethyddol” yn dir sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, â'r gallu i gynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai nag agregiad enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd amser-llawn 20 oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986).

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, pryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn berthnasol i'r asesiad o gapasiti cynhyrchiol y tir dan sylw, yr unedau cynhyrchu a'r incwm net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn fydd sail yr asesiad hwnnw.

Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 o'r Atodlen yn rhagnodi'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gapasiti cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd yn 2005 yn hectar cymwys at ddibenion o Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.1), sy'n sefydlu'r Cynllun Taliad Sengl. Mae yna ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir tan anfantais ddifrifol, tir tan anfantais a thir arall. Mae yna hefyd ffigurau ar wahân ar gyfer tir a oedd wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu yn 2005.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044 ac maent yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd a. 162 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Deddf Llywodraeth Cymru 2006 p.32.

(3)

O.J. Rhif 270, 21.10.2003, t.1.

(4)

O.J. Rhif L 208, 29.7.2006, t.3.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources