Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007
Enwi, dehongli a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “Ddeddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006;
(3)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Darpariaethau sy'n dod i rym at ddibenion penodol2.
(1)
Mae darpariaethau Deddf 2006 a osodir ym mharagraff (2) yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud i'r graddau y maent yn rhoi pwer, neu'n gosod dyletswydd, ar Weinidogion Cymru—
(a)
i wneud rheoliadau, neu i wneud darpariaeth drwyddynt;
(b)
i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau; neu
(c)
i wneud darpariaeth parthed arfer unrhyw bwer o'r fath neu parthed cyflawni dyletswydd o'r fath.
(2)
Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
adran 3(5);
adran 6(4);
adran 7(4);
adran 8(1) a (2);
adran 11(5) a (6);
adran 12(a);
adran 13(1)(a);
adran 14;
adran 17(3) a (10);
adran 19(6);
adran 20(2) a (3);
adran 21(2) a (3);
adrannau 22 i 25;
adran 29(1) a (6);
adran 31(6)(a);
adran 39(6);
adran 40;
adran 42(4);
adrannau 43 a 44;
adran 50(1) a (4) i (6);
paragraffau 2(2)(d) a (3), 3(2)(e) a (3), 4(6), 5(3), 6(3), 7(3), 8(3), 9(4) a 10 o Atodlen 2; a
paragraffau 2(1), (5) a (6), 4, 5 ac 8(2) a (3) o Atodlen 3.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 6 Medi 20073.
Mae'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2006 yn dod i rym ar 6 Medi 2007—
(a)
adran 4 (awdurdodau cofrestru tiroedd comin);
(b)
adran 5 (tir y mae Rhan 1 yn gymwys iddo);
(c)
adran 15 (cofrestru meysydd tref neu bentref);
(ch)
adran 23 (trosiannol), i'r graddau y mae yn rhoi ei effaith i baragraff (i) o'r erthygl hon;
(d)
adran 24 (ceisiadau etc.) i'r graddau nad yw'n cael ei dwyn i rym gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn;
(dd)
adran 44 (materion atodol), i'r graddau y mae yn rhoi ei effaith i baragraff (j) o'r erthygl hon;
(e)
adran 45 (pwerau awdurdodau lleol dros dir nas hawlwyd);
(f)
adran 47 (cau tir gan y perchennig);
(ff)
adran 49 (hysbysiad cau tir);
(g)
adran 51 (mynediad i gerbydau);
(ng)
adran 52 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), i'r graddau y mae yn rhoi ei effaith i baragraff (l) o'r erthygl hon;
(h)
adran 53 (diddymiadau), i'r graddau y mae yn rhoi eu heffaith i baragraffau (ll) i (o) o'r erthygl hon;
(i)
yn Atodlen 3 (cofrestru: darpariaeth drosiannol), paragraff 9;
(j)
yn Atodlen 4 (gwaith: materion atodol), paragraff 6;
(l)
yn Atodlen 5 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)
(i)
paragraff 4,
(ii)
is-baragraff (a) o baragraff 6, a
(iii)
is-baragraff (5) o baragraff 7 ac is-baragraff (1) o'r paragraff hwnnw i'r graddau y mae yn ymwneud ag ef;
(ll)
yn Rhan 1 o Atodlen 6 (diddymiadau yn ymwneud â chofrestru), y cofnodion sy'n ymwneud ag—
(i)
(ii)
(iii)
(iv)
(v)
(vi)
(vii)
(m)
yn Rhan 2 o Atodlen 6 (diddymiadau yn ymwneud â gwaith), y cofnodion yn ymwneud ag
(i)
(ii)
(iii)
(iv)
(n)
yn Rhan 3 o Atodlen 6 (diddymiadau yn ymwneud â chau tir gan y perchennog a chau tir), y cofnodion yn ymwneud â
(i)
(ii)
adran 31 o Ddeddf Tiroedd Comin 1876, a
(iii)
(o)
Rhan 5 o Atodlen 6 (diddymiadau yn ymwneud â mynediad i gerbydau).
Darpariaethau trosiannol ac arbedion4.
(1)
Pan fo awdurdod cofrestru tiroedd comin yn caniatáu cais o dan adran 15 o Ddeddf 2006 i gofrestru tir fel maes tref neu bentref cyn bod adran 1 o Ddeddf 2006 wedi dod i rym mewn perthynas â'r man lle lleolir y tir—
(a)
rhaid i'r awdurdod cofrestru gofrestru'r tir yn y gofrestr o feysydd trefi neu bentrefi sy'n cael ei chadw ar gyfer y man hwnnw dan Ddeddf 1965; a
(b)
hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas â'r man hwnnw, mae Deddf 1965 yn gymwys mewn perthynas â'r cofrestru megis petai wedi'i wneud yn unol ag adran 13(b) o Ddeddf 1965.
(2)
O ran unrhyw ardal o Gymru—
(a)
mae cyfeiriadau yn adran 24 o Ddeddf 2006, ac mewn rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno, at gofrestru tiroedd comin neu neu feysydd trefi neu bentrefi, i'w cymryd, hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym o ran yr ardal honno, fel cyfeiriadau at gofrestr o'r fath a gedwir o dan Ddeddf 1965; a
(b)
(i)
adran 6 o Ddeddf 2006 o ran yr ardal honno, i'r graddau y maent yn ymwneud â thir sy'n dod yn dir comin ac eithrio yn rhinwedd unrhyw offeryn a wnaed o dan ddeddfiad neu'n unol â deddfiad, a
(ii)
adran 14 o Ddeddf 2006 o ran yr ardal honno, i'r graddau y maent yn ymwneud â thir sy'n dod yn dir comin neu'n faes tref neu bentref yn rhinwedd unrhyw offeryn a wnaed o dan ddeddfiad neu'n unol â deddfiad.
(3)
Pan fo—
(a)
cais yn cael ei wneud cyn 6 Medi 2007 i awdurdod cofrestru, yn unol ag adran 13(b) o Ddeddf 1965, i ddiwygio'r gofrestr o feysydd trefi neu bentrefi o ganlyniad i fod tir wedi dod yn faes tref neu bentref, a
(b)
nad yw'r awdurdod cofrestru yn dyfarnu ar y cais cyn y dyddiad hwnnw,
rhaid i'r awdurdod cofrestru barhau i ymwneud â'r cais ar 6 Medi 2007 ac ar ôl hynny megis pe na bai adran 13(b) o Ddeddf 1965 wedi'i diddymu.
(4)
O ran unrhyw ardal o Gymru, mae'r cyfeiriad yn adran 45(1) o Ddeddf 2006 at dir sydd wedi'i gofrestru fel tir comin neu faes tref neu bentref i'w ddarllen, hyd nes daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym o ran yr ardal honno, fel petai yn gyfeiriad at fod tir wedi'i gofrestru felly o dan Ddeddf 1965.
(5)
Pan fo Comisiynydd Tiroedd Comin, cyn 6 Medi 2007, yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 8(2) neu (3) o Ddeddf 1965 i awdurdod cofrestru gofrestru person fel perchennog tir, ond nad yw'r awdurdod cofrestru yn cydymffurfio â'r cyfarwyddyd cyn y dyddiad hwnnw-
(a)
mae'r cyfarwyddyd yn parhau i fod yn effeithiol ar 6 Medi 2007 ac ar ôl hynny er gwaethaf diddymiad adran 8(2) a (3) o Ddeddf 1965; a
(b)
os mai'r cyfarwyddyd yw i awdurdod lleol gael ei gofrestru fel perchennog y tir, pan wneir y cofrestriad, bydd adran 8(4) o Ddeddf 1965 yn gymwys megis pe na bai wedi cael ei diddymu.
(6)
(7)
Os, o ran unrhyw dir ac eithrio tir y cyfeirir ato ym mharagraff (6),—
(a)
oes cais yn cael ei wneud cyn 6 Medi 2007 i awdurdod cofrestru, yn unol â rheoliadau o dan adran 13(a) o Ddeddf 1965, i dir gael ei dynnu oddi ar y gofrestr o ganlyniad i fod y tir hwnnw wedi peidio â bod yn dir comin neu'n faes tref neu bentref; a
(b)
nad yw'r awdurdod cofrestru yn dyfarnu ar y cais cyn y dyddiad hwnnw,
rhaid i'r awdurdod cofrestru barhau i ymwneud â'r cais ar 6 Medi 2007 ac ar ôl hynny megis pe na bai adran 13(a) o Ddeddf 1965 wedi'i diddymu.
Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau penodol o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“y Ddeddf”) o ran Cymru.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dod â nifer o ddarpariaethau i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud gyda'r bwriad cyfyngedig o alluogi Gweinidogion Cymru i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau ac i wneud rheoliadau, neu i wneud darpariaeth drwy reoliadau.
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau o Ddeddf 2006 a nodir yn yr erthygl honno i rym ar 6 Medi 2007.
Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbedion yn ymwneud â'r darpariaethau y daethpwyd â hwy i rym gan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.
Ymhlith pethau eraill, mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adran 15 o Ddeddf 2006 i rym, sy'n gwneud darpariaeth newydd ynghylch cofrestru tir yng Nghymru fel maes tref neu bentref, ac sy'n cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbedion—
sy'n ei gwneud yn ofynnol, nes bod adran 1 o Ddeddf 2006 yn dod i rym o ran y man perthnasol, i faes a gofrestrwyd o dan adran 15 o Ddeddf 2006 gael ei gofnodi yn y cofrestrau a gedwir o dan Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 (“Deddf 1965”);
sy'n sicrhau bod y darpariaethau presennol ar gyfer cofrestru meysydd a thiroedd comin newydd o dan adran 13(b) o Ddeddf 1965 yn aros mewn grym mewn achosion penodol (megis ar gyfnewid tir sy'n ganlyniad i orchymyn prynu gorfodol); ac
sy'n cadw unrhyw gais i gofrestru maes a wnaed o dan Ddeddf 1965 cyn 6 Medi 2007, fel bod rhaid pennu ceisiadau o'r fath o dan Ddeddf 1965.
Gellir cael gwybodaeth bellach ar y darpariaethau y daw'r Gorchymyn hwn â hwy i rym yn y Nodiadau Esboniadol i'r Ddeddf Tiroedd Comin 2006, yn www.opsi.gov.uk.