Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007.

(2Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “Deddf 1965” (“the 1965 Act”) yw Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965;(1);

ystyr “Ddeddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006;

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.