2007 Rhif 2372 (Cy.195)
Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2007
Wedi'u gwneud
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 1 Medi 2007.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Symiau diwygiedig y taliad colli cartref2
Pan fo'r dyddiad dadleoli ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ei ôl—
a
£44,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o'r Ddeddf;
b
£4,400 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o'r Ddeddf; ac
c
£4,400 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o'r Ddeddf.
Dirymu ac arbed3
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 20063.
2
Bydd y Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn parhau i fod yn effeithiol o ran dadleoli sy'n digwydd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)