xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2333 (Cy.191)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) (Diwygio) 2007

Wedi'u gwneud

8 Awst 2007

Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Awst 2007

Yn dod i rym

4 Medi 2007

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd(2) ac o ran mesurau sy'n ymwneud â bwydydd (gan gynnwys diodydd) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol bwydydd(3).

Cafwyd ymgynghori cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod gwaith paratoi'r Rheoliadau canlynol yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(4) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 4 Medi 2007.

(2Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001(5).

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau 2001

2.—(1Diwygir Rheoliadau 2001 fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn lle diffiniadau “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000”, “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000”, “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001”, “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001”, “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002” a “Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999(6) rhodder y diffiniadau canlynol—

ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000” (“Commission Regulation (EC) No. 1622/2000”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000 (7) sy'n nodi rheolau manwl penodol ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin a sefydlu cod Cymunedol ar arferion a phrosesau gwinyddol, a rhaid dehongli'r cyfeiriadau yn Atodlenni 2 a 5 at “Reoliad 1622/2000” yn unol â hynny;;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000” (“Commission Regulation (EC) No. 1623/2000”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000(8) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin o ran mecanweithiau'r farchnad, a rhaid dehongli'r cyfeiriad yn Rhan I o Atodlen 2 at “Reoliad 1623/2000” yn unol â hynny;;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001” (“Commission Regulation (EC) No. 883/2001”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001(9) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 o ran masnach gyda thrydydd gwledydd mewn cynhyrchion yn y sector gwin, a rhaid dehongli'r cyfeiriad yn Rhan V o Atodlen 2 at “Reoliad 883/2001” yn unol â hynny;;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001” (“Commission Regulation (EC) No. 884/2001”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001(10) sy'n gosod rheolau cymhwyso manwl ynghylch y dogfennau sydd i fynd gyda'r cynhyrchion gwin wrth iddynt gael eu cludo, a'r cofnodion sydd i'w cadw yn y sector gwin, a rhaid dehongli'r cyfeiriad yn Rhan I o Atodlen 2 at “Reoliad 884/2001” yn unol â hynny;;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002” (“Commission Regulation (EC) No. 753/2002”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002(11) sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 o ran disgrifio, dynodi, cyflwyno a diogelu cynhyrchion penodol y sector gwin;;

ystyr “Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999” (“Council Regulation (EC) No. 1493/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999(12) ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, a rhaid dehongli'r cyfeiriadau yn Atodlenni 2 a 5 at “Reoliad 1493/1999” yn unol â hynny;.

(3Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

(4Yn Atodlen 3, mewnosoder y cofnodion canlynol yn y mannau priodol—

Enw'r AmrywogaethEnwau cyfystyrLliw'r grawnwin
AcolonDu
Cabernet SauvignonDu
FrühburgunderPinot Noir PrécoceDu
MerlotDu

(5Yn Atodlen 5 hepgorer—

(a)paragraff 2; a

(b)brawddeg gyntaf paragraff 7.

(6Yn Atodlen 6(13), hepgorer y cofnod yng ngholofnau 1 a 2 o'r tabl sy'n ymwneud â chyfanswm echdyniad sych (a geir drwy ddwysfesureg).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

8 Awst 2007

Rheoliad 2(3)

ATODLEN

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1Y DARPARIAETHAU CYMUNEDOL

1.  Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 357/79(14) ar arolygon ystadegol o arwynebeddau sydd o dan winwydd.

2.  Rheoliad y Comisiwn (EEC) 1907/85(15) ar y rhestr o amrywogaethau o winwydd a'r rhanbarthau sy'n darparu gwin wedi'i fewnforio ar gyfer gwneud gwinoedd pefriol yn y Gymuned.

3.  Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2392/86(16).

4.  Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 649/87(17) yn gosod rheolau manwl ar gyfer sefydlu cofrestr o winllannoedd y Gymuned.

5.  Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2676/90(18).

6.  Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1601/91(19) yn gosod rheolau cyffredinol ar ddiffinio, disgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctels o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru.

7.  Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2009/92(20) yn pennu dulliau dadansoddi Cymunedol ar gyfer ethyl alcohol o darddiad amaethyddol a ddefnyddir i baratoi diodydd gwirodydd, gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctels o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru.

8.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 122/94(21) yn gosod rheolau manwl penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EEC) 1601/91 ar ddiffinio, disgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru, a choctels o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru.

9.  Penderfyniad y Cyngor 94/184/EC(22) ynghylch gwneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd ac Awstralia ar fasnachu gwin.

10.  Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999.

11.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1227/2000(23) yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, o ran y potensial ar gyfer cynhyrchu.

12.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1607/2000(24) yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad win, yn benodol y Teitl sy'n ymwneud â gwin o safon a gynhyrchir mewn rhanbarthau penodedig.

13.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000.

14.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000.

15.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2729/2000(25) yn gosod rheolau gweithredu manwl ar ddulliau rheoli yn y sector gwin.

16.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001.

17.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001.

18.  Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1037/2001(26) yn awdurdodi cynnig a danfon i bobl eu hyfed yn uniongyrchol winoedd penodol sydd wedi'u mewnforio ac sydd wedi mynd drwy brosesau gwinyddol na ddarparwyd ar eu cyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999.

19.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1282/2001(27) yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 o ran crynhoi gwybodaeth i adnabod cynhyrchion gwin ac i fonitro'r farchnad win ac sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1623/2000.

20.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2597/2001(28) yn agor cwotâu tariff Cymunedol ar gyfer gwinoedd penodol yn deillio o Weriniaeth Croatia, cyn Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia a Gweriniaeth Slofenia ac sy'n darparu ar gyfer gweinyddu'r cwotâu hynny, i'r graddau y mae'n cyfeirio at Weriniaeth Croatia.

21.  Penderfyniad y Cyngor 2002/51/EC(29) ar wneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth De Affrica ar fasnachu gwin.

22.  Penderfyniad y Cyngor a'r Comisiwn Rhif 2002/309/EC(30) o ran y Cytundeb ar Gydweithredu Gwyddonol a Thechnolegol ar wneud saith Cytundeb gyda Chydffederasiwn y Swistir, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodiad 7 ar fasnachu cynhyrchion y sector gwin a atodwyd i'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chydffederasiwn y Swistir ar Fasnachu Cynhyrchion Amaethyddol.

23.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002.

24.  Penderfyniad y Cyngor 2002/979/EC(31) ar lofnodi a chymhwyso dros dro ddarpariaethau penodol Cytundeb sy'n sefydlu Cyd-gysylltiad rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar y naill law, a Gweriniaeth Chile ar y llall, i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n cyfeirio at fasnachu gwin, gwin wedi'i bersawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctels wedi'u seilio ar gynhyrchion gwin wedi'i bersawru.

25.  Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 527/2003(32) yn awdurdodi cynnig a danfon i bobl eu hyfed yn uniongyrchol winoedd penodol sydd wedi'u mewnforio o'r Ariannin ac a allai fod wedi mynd drwy brosesau gwinyddol na ddarparwyd ar eu cyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999.

26.  Penderfyniad y Cyngor 2004/91/EC(33) ar wneud cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chanada ar fasnachu gwinoedd a diodydd gwirodydd.

27.  Penderfyniad y Cyngor 2006/136/EC(34) ar wneud Cytundeb ar ffurf Cyfnewid Llythyrau rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Chile ynghylch diwygiadau i'r Cytundeb ar Fasnachu Gwinoedd a atodwyd i'r Cytundeb sy'n sefydlu Cyd-gysylltiad rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar y naill law, a Gweriniaeth Chile ar y llall.

28.  Penderfyniad y Cyngor 2006/232/EC(35) ar wneud y Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd ac Unol Daleithiau America ar fasnachu gwin.

29.  Penderfyniad y Cyngor 2006/567/EC(36) ar wneud Cytundeb ar ffurf Cyfnewid Llythyrau rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Chile ynghylch diwygiadau i Atodiadau I, II, III a IV i'r Cytundeb ar Fasnachu Gwinoedd a atodwyd i'r Cytundeb Cyd-gysylltiad rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar y naill law, a Gweriniaeth Chile ar y llall.

30.  Penderfyniad y Cyngor 2006/568/EC(37) ar wneud Cytundeb ar ffurf Cyfnewid Llythyrau rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Chile ynghylch diwygiadau i Atodiad II i'r Cytundeb ar Fasnachu Diodydd Gwirodydd a Diodydd wedi'u Persawru a atodwyd i'r Cytundeb Cyd-gysylltiad rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar y naill law, a Gweriniaeth Chile ar y llall, i'r graddau y mae'n cyfeirio at ddiodydd wedi'u persawru.

31.  Penderfyniad y Comisiwn 2006/569/EC(38) ar wneud Cytundeb ar ffurf Cyfnewid Llythyrau rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Chile ynghylch diwygiadau i Atodiad VI i'r Cytundeb ar Fasnachu Gwinoedd a atodwyd i'r Cytundeb Cyd-gysylltiad rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar y naill law, a Gweriniaeth Chile ar y llall.

32.  Penderfyniad y Cyngor 2006/580/EC(39) ynghylch llofnodi a gwneud y Cytundeb Interim ar fasnach a materion sy'n gysylltiedig â masnach rhwng y Gymuned Ewropeaidd ar y naill law, a Gweriniaeth Albania ar y llall, i'r graddau y mae'n cyfeirio at win a diodydd wedi'u persawru.

33.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1416/2006(40) sy'n nodi rheolau penodol ar weithredu Erthygl 7(2) o'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd ac Unol Daleithiau America ar fasnachu gwin ynghylch diogelu enwau tarddleoedd o'r Unol Daleithiau yn y Gymuned.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2193 (Cy.155)), sy'n darparu ar gyfer gorfodi yng Nghymru ddeddfwriaeth y Gymuned Ewropeaidd ynghylch cynhyrchu a marchnata gwin a chynhyrchion cysylltiedig.

Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y Gymuned Ewropeaidd drwy wneud newidiadau i'r diffiniadau yn Rheoliadau 2001 (rheoliad 2(2)) a thrwy fewnosod Atodlen 1 newydd yn Rheoliadau 2001 (rheoliad 2(3) a'r Atodlen);

(b)yn ychwanegu Acolon, Cabernet Sauvignon, Frühburgunder (sydd â'r enw cyfystyr Pinot Noir Précoce) a Merlot at y rhestr o amrywogaethau o winwydd y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu gwinoedd yng Nghymru (rheoliad 2(4));

(c)yn gwneud mân newidiadau yn y profion dadansoddol ar gyfer gwin o safon psr drwy ddileu'r prawf a'r safon ar gyfer cyfanswm yr echdyniad sych disiwgr (rheoliad 2(5)(a)) a dileu'r safon ofynnol sy'n ymwneud â sylffwr deuocsid rhydd (rheoliad 2(5)(b)); ac

(ch)yn gwneud mân newid yn y profion dadansoddol ar gyfer gwinoedd i'r bwrdd sydd â mynegiad daearyddol drwy ddileu'r prawf a'r safon ar gyfer cyfanswm yr echdyniad sych (rheoliad 2(6)).

Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o effaith yr offeryn hwn ar gael oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(2)

O.S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(3)

O.S. 2003/2901. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(4)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).

(6)

Mewnosodwyd y diffiniad o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/99 yn Rheoliadau 2001 gan O.S. 2004/2599 (Cy.232) a'i ddisodli wedyn gan O.S. 2006/1716 (Cy.178). Mewnosodwyd y diffiniadau o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002 yn Rheoliadau 2001 gan O.S. 2006/1716 (Cy.178).

(7)

OJ Rhif L 194, 31.7.2000, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 389/2007 (OJ Rhif L 97, 12.4.2007, t.5).

(8)

OJ Rhif L 194, 31.7.2000, t.45, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2016/2006 (OJ Rhif L 384, 29.12.2006, t.38).

(9)

OJ Rhif L 128, 10.5.2001, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2016/2006.

(10)

OJ Rhif L 128, 10.5.2001, t.32, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2016/2006.

(11)

OJ Rhif L 118, 4.5.2002, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 382/2007 (OJ Rhif L 95, 5.4.2007, t.12).

(12)

OJ Rhif L 179, 14.7.1999, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 (OJ Rhif L 363, 20.12.2006, t.1).

(13)

Mewnosodwyd Atodlen 6 gan O.S. 2004/2599 (Cy.232).

(14)

OJ Rhif L 54, 5.3.1979, t.124, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 (OJ Rhif L363, 20.12.2006, p.1).

(15)

OJ Rhif L 179, 11.7.1985, t.21, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2016/2006 (OJ Rhif L 384, 29.12.2006, t.38).

(16)

OJ Rhif L 208, 31.7.1986, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1631/98 (OJ Rhif L 210, 28.7.98, t.14).

(17)

OJ Rhif L 62, 5.3.1987, t.10, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1097/89 (OJ Rhif L 116, 28.4.89, t.20).

(18)

OJ Rhif L 272, 3.10.1990, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1293/2005 (OJ Rhif L 205, 5.8.2005, t.12).

(19)

OJ Rhif L 149, 14.6.1991, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 2061/96 Senedd Ewrop a'r Cyngor, (OJ Rhif L 277, 30.10.1996, t.1).

(20)

OJ Rhif L 203, 21.7.1992, t.10.

(21)

OJ Rhif L 21, 26.1.1994, t.7.

(22)

OJ Rhif L 86, 31.3.1994, t.1.

(23)

OJ Rhif L 143, 16.6.2000, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1216/2005 (OJ Rhif L 199, 29.7.2005, t.32).

(24)

OJ Rhif L 185, 25.7.2000, p.17, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2030/2006 (OJ Rhif L 414, 30.12.2006, t.40).

(25)

OJ Rhif L 316, 15.12.2000, t.16, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2030/2006.

(26)

OJ Rhif L 145, 31.5.2001, t.12, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2079/2005 (OJ Rhif L 333, 20.12.2005, p .6).

(27)

OJ Rhif L 176, 29.6.2001, t.14.

(28)

OJ Rhif L 345, 29.12.2001, t.35, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2088/2004 (OJ Rhif L 361, 8.12.2004, t.3).

(29)

OJ Rhif L 28, 30.1.2002, t.3.

(30)

OJ Rhif L 114, 30.4.2002, t.1.

(31)

OJ Rhif L 352, 30.12.2002, t.1.

(32)

OJ Rhif L 78, 25.3.2003, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1912/2005 (OJ Rhif L 307, 25.11.2005, t.1).

(33)

OJ Rhif L 35, 6.2.2004, t.1.

(34)

OJ Rhif L 54, 24.2.2006, t.23.

(35)

OJ Rhif L 87, 24.3.2006, t.1.

(36)

OJ Rhif L 231, 24.8.2006, t.1.

(37)

OJ Rhif L 231, 24.8.2006, t.135.

(38)

OJ Rhif L 231, 24.8.2006, t.139.

(39)

OJ Rhif L 239, 1.9.2006, t.1.

(40)

OJ Rhif L 267, 27.9.2006, t.22.