Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) (Diwygio) 2007
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972:
Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 4 Medi 2007.
(2)
(3)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau 20012.
(1)
Diwygir Rheoliadau 2001 fel a ganlyn.
(2)
“ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000” (“Commission Regulation (EC) No. 1622/2000”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000 7 sy'n nodi rheolau manwl penodol ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin a sefydlu cod Cymunedol ar arferion a phrosesau gwinyddol, a rhaid dehongli'r cyfeiriadau yn Atodlenni 2 a 5 at “Reoliad 1622/2000” yn unol â hynny;”;
“ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000” (“Commission Regulation (EC) No. 1623/2000”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/20008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin o ran mecanweithiau'r farchnad, a rhaid dehongli'r cyfeiriad yn Rhan I o Atodlen 2 at “Reoliad 1623/2000” yn unol â hynny;”;
“ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001” (“Commission Regulation (EC) No. 883/2001”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/20019 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 o ran masnach gyda thrydydd gwledydd mewn cynhyrchion yn y sector gwin, a rhaid dehongli'r cyfeiriad yn Rhan V o Atodlen 2 at “Reoliad 883/2001” yn unol â hynny;”;
“ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001” (“Commission Regulation (EC) No. 884/2001”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/200110 sy'n gosod rheolau cymhwyso manwl ynghylch y dogfennau sydd i fynd gyda'r cynhyrchion gwin wrth iddynt gael eu cludo, a'r cofnodion sydd i'w cadw yn y sector gwin, a rhaid dehongli'r cyfeiriad yn Rhan I o Atodlen 2 at “Reoliad 884/2001” yn unol â hynny;”;
“ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002” (“Commission Regulation (EC) No. 753/2002”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/200211 sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 o ran disgrifio, dynodi, cyflwyno a diogelu cynhyrchion penodol y sector gwin;”;
“ystyr “Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999” (“Council Regulation (EC) No. 1493/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/199912 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, a rhaid dehongli'r cyfeiriadau yn Atodlenni 2 a 5 at “Reoliad 1493/1999” yn unol â hynny;”.
(3)
Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(4)
“Enw'r Amrywogaeth
Enwau cyfystyr
Lliw'r grawnwin
Acolon
Du
Cabernet Sauvignon
Du
Frühburgunder
Pinot Noir Précoce
Du
Merlot
Du”
(5)
Yn Atodlen 5 hepgorer—
(a)
paragraff 2; a
(b)
brawddeg gyntaf paragraff 7.
(6)
ATODLEN
“ATODLEN 1Y DARPARIAETHAU CYMUNEDOL
1.
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 357/7914 ar arolygon ystadegol o arwynebeddau sydd o dan winwydd.2.
Rheoliad y Comisiwn (EEC) 1907/8515 ar y rhestr o amrywogaethau o winwydd a'r rhanbarthau sy'n darparu gwin wedi'i fewnforio ar gyfer gwneud gwinoedd pefriol yn y Gymuned.3.
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2392/8616.4.
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 649/8717 yn gosod rheolau manwl ar gyfer sefydlu cofrestr o winllannoedd y Gymuned.5.
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2676/9018.6.
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1601/9119 yn gosod rheolau cyffredinol ar ddiffinio, disgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctels o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru.7.
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2009/9220 yn pennu dulliau dadansoddi Cymunedol ar gyfer ethyl alcohol o darddiad amaethyddol a ddefnyddir i baratoi diodydd gwirodydd, gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctels o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru.8.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 122/9421 yn gosod rheolau manwl penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EEC) 1601/91 ar ddiffinio, disgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru, a choctels o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru.9.
10.
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999.
11.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1227/200023 yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn gwin, o ran y potensial ar gyfer cynhyrchu.12.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1607/200024 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad win, yn benodol y Teitl sy'n ymwneud â gwin o safon a gynhyrchir mewn rhanbarthau penodedig.13.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000.
14.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000.
15.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2729/200025 yn gosod rheolau gweithredu manwl ar ddulliau rheoli yn y sector gwin.16.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001.
17.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001.
18.
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1037/200126 yn awdurdodi cynnig a danfon i bobl eu hyfed yn uniongyrchol winoedd penodol sydd wedi'u mewnforio ac sydd wedi mynd drwy brosesau gwinyddol na ddarparwyd ar eu cyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999.19.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1282/200127 yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 o ran crynhoi gwybodaeth i adnabod cynhyrchion gwin ac i fonitro'r farchnad win ac sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1623/2000.20.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2597/200128 yn agor cwotâu tariff Cymunedol ar gyfer gwinoedd penodol yn deillio o Weriniaeth Croatia, cyn Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia a Gweriniaeth Slofenia ac sy'n darparu ar gyfer gweinyddu'r cwotâu hynny, i'r graddau y mae'n cyfeirio at Weriniaeth Croatia.21.
Penderfyniad y Cyngor 2002/51/EC29 ar wneud Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth De Affrica ar fasnachu gwin.22.
Penderfyniad y Cyngor a'r Comisiwn Rhif 2002/309/EC30 o ran y Cytundeb ar Gydweithredu Gwyddonol a Thechnolegol ar wneud saith Cytundeb gyda Chydffederasiwn y Swistir, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodiad 7 ar fasnachu cynhyrchion y sector gwin a atodwyd i'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chydffederasiwn y Swistir ar Fasnachu Cynhyrchion Amaethyddol.23.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002.
24.
Penderfyniad y Cyngor 2002/979/EC31 ar lofnodi a chymhwyso dros dro ddarpariaethau penodol Cytundeb sy'n sefydlu Cyd-gysylltiad rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar y naill law, a Gweriniaeth Chile ar y llall, i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n cyfeirio at fasnachu gwin, gwin wedi'i bersawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctels wedi'u seilio ar gynhyrchion gwin wedi'i bersawru.25.
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 527/200332 yn awdurdodi cynnig a danfon i bobl eu hyfed yn uniongyrchol winoedd penodol sydd wedi'u mewnforio o'r Ariannin ac a allai fod wedi mynd drwy brosesau gwinyddol na ddarparwyd ar eu cyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999.26.
Penderfyniad y Cyngor 2004/91/EC33 ar wneud cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chanada ar fasnachu gwinoedd a diodydd gwirodydd.27.
Penderfyniad y Cyngor 2006/136/EC34 ar wneud Cytundeb ar ffurf Cyfnewid Llythyrau rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Chile ynghylch diwygiadau i'r Cytundeb ar Fasnachu Gwinoedd a atodwyd i'r Cytundeb sy'n sefydlu Cyd-gysylltiad rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar y naill law, a Gweriniaeth Chile ar y llall.28.
Penderfyniad y Cyngor 2006/232/EC35 ar wneud y Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd ac Unol Daleithiau America ar fasnachu gwin.29.
Penderfyniad y Cyngor 2006/567/EC36 ar wneud Cytundeb ar ffurf Cyfnewid Llythyrau rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Chile ynghylch diwygiadau i Atodiadau I, II, III a IV i'r Cytundeb ar Fasnachu Gwinoedd a atodwyd i'r Cytundeb Cyd-gysylltiad rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar y naill law, a Gweriniaeth Chile ar y llall.30.
Penderfyniad y Cyngor 2006/568/EC37 ar wneud Cytundeb ar ffurf Cyfnewid Llythyrau rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Chile ynghylch diwygiadau i Atodiad II i'r Cytundeb ar Fasnachu Diodydd Gwirodydd a Diodydd wedi'u Persawru a atodwyd i'r Cytundeb Cyd-gysylltiad rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar y naill law, a Gweriniaeth Chile ar y llall, i'r graddau y mae'n cyfeirio at ddiodydd wedi'u persawru.31.
Penderfyniad y Comisiwn 2006/569/EC38 ar wneud Cytundeb ar ffurf Cyfnewid Llythyrau rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Chile ynghylch diwygiadau i Atodiad VI i'r Cytundeb ar Fasnachu Gwinoedd a atodwyd i'r Cytundeb Cyd-gysylltiad rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar y naill law, a Gweriniaeth Chile ar y llall.32.
Penderfyniad y Cyngor 2006/580/EC39 ynghylch llofnodi a gwneud y Cytundeb Interim ar fasnach a materion sy'n gysylltiedig â masnach rhwng y Gymuned Ewropeaidd ar y naill law, a Gweriniaeth Albania ar y llall, i'r graddau y mae'n cyfeirio at win a diodydd wedi'u persawru.33.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1416/200640 sy'n nodi rheolau penodol ar weithredu Erthygl 7(2) o'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd ac Unol Daleithiau America ar fasnachu gwin ynghylch diogelu enwau tarddleoedd o'r Unol Daleithiau yn y Gymuned.”
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2193 (Cy.155)), sy'n darparu ar gyfer gorfodi yng Nghymru ddeddfwriaeth y Gymuned Ewropeaidd ynghylch cynhyrchu a marchnata gwin a chynhyrchion cysylltiedig.
Mae'r Rheoliadau hyn—
yn diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y Gymuned Ewropeaidd drwy wneud newidiadau i'r diffiniadau yn Rheoliadau 2001 (rheoliad 2(2)) a thrwy fewnosod Atodlen 1 newydd yn Rheoliadau 2001 (rheoliad 2(3) a'r Atodlen);
yn ychwanegu Acolon, Cabernet Sauvignon, Frühburgunder (sydd â'r enw cyfystyr Pinot Noir Précoce) a Merlot at y rhestr o amrywogaethau o winwydd y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu gwinoedd yng Nghymru (rheoliad 2(4));
yn gwneud mân newidiadau yn y profion dadansoddol ar gyfer gwin o safon psr drwy ddileu'r prawf a'r safon ar gyfer cyfanswm yr echdyniad sych disiwgr (rheoliad 2(5)(a)) a dileu'r safon ofynnol sy'n ymwneud â sylffwr deuocsid rhydd (rheoliad 2(5)(b)); ac
yn gwneud mân newid yn y profion dadansoddol ar gyfer gwinoedd i'r bwrdd sydd â mynegiad daearyddol drwy ddileu'r prawf a'r safon ar gyfer cyfanswm yr echdyniad sych (rheoliad 2(6)).
Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o effaith yr offeryn hwn ar gael oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.