2007 Rhif 2333 (Cy.191)
Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) (Diwygio) 2007
Wedi'u gwneud
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd2 ac o ran mesurau sy'n ymwneud â bwydydd (gan gynnwys diodydd) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol bwydydd3.
Cafwyd ymgynghori cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod gwaith paratoi'r Rheoliadau canlynol yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor4 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972: