(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod pob awdurdod gwasanaethau plant yng Nghymru yn paratoi cynllun plant a phobl ifanc, yn ymgynghori yn ei gylch, ac yn ei gyhoeddi a'i adolygu. Rhaid i gynllun o'r fath ddatgan strategaeth yr awdurdod ar gyfer cyflawni eu swyddogaethau o ran plant a phersonau ifanc. Nid yw cynnwys y cynllun yn cael ei ragnodi gan y Rheoliadau, ond bydd yn cael ei benderfynu gan yr awdurdod gan roi sylw i ganllawiau sydd wedi eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru.

Bydd y Cynllun Plant a Phobl Ifanc yn disodli'r Cynllun Addysg Sengl yr oedd yn ofynnol i awdurdodau lleol ei baratoi a'i gyhoeddi o dan Reoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006 (OS 2006/877). Nid yw'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006 am nad oes dyletswydd sy'n parhau i gyhoeddi Cynllun Addysg Sengl ar ôl cyhoeddi'r cyfryw gynllun ar 1 Medi 2006 ar gyfer y cyfnod sy'n dod i ben ar 31 Awst 2008.

Mae Rheoliadau 4 a 5 yn darparu ar gyfer paratoi a chyhoeddi cynlluniau bob tair blynedd. Bydd y cynllun cyntaf mewn grym o 1 Awst 2008 ymlaen ac yn cael ei gyhoeddi erbyn 30 Medi 2008.

Mae Rheoliad 6 yn darparu ar gyfer y modd y bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi; mae Rheoliad 7 yn darparu ar gyfer ymgynghori ynglyn â'r cynllun drafft; ac mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer adolygiad blynyddol o'r cynllun gan yr awdurdod, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer ymgynghori pellach.