Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2315 (Cy. 186 )

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) (Rhif 2) 2007

Wedi'u gwnaed

06 Awst 2007

Wedi eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

06 Awst 2007

Yn dod i rym

07 Awst 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) fel y'i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diodydd) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwydydd(2).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli unrhyw gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 ar fesurau brys sy'n atal defnyddio E 128 Red 2G fel lliw bwyd(3) fel cyfeiriad at y Rheoliad hwnnw fel y'i diwygir o dro i dro.

(1)

1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006 p.51).

(2)

O.S. 2005/1971.Yn rhinwedd adran 162 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy'r dynodiod hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(3)

OJ Rhif L195, 27.7.2007, t.8.