(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Dysgu y Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”).

Mae Rheoliadau 2006 yn darparu ar gyfer cymorth i fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig yng Nghanolfan Bologna, Coleg Ewrop neu'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006. Mae Rheoliadau 2006 yn gwneud darpariaeth hefyd ar gyfer cymorth i fyfyrwyr penodol sy'n dilyn cyrsiau yn y sefydliadau hyn mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.

Mae Rheoliadau 2006 yn gymwys o ran Cymru.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 21 o Reoliadau 2006 er mwyn cynyddu uchafswm y grant ar gyfer ffioedd sy'n daladwy i fyfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau dynodedig yng Nghanolfan Bologna o 22,700 ewro i 24,100 ewro. Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 25(4)(b) o Reoliadau 2006 er mwyn cynyddu swm y grant ar gyfer costau byw sy'n daladwy i fyfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau dynodedig yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd o 12,840 ewro i 13,000 ewro.

Mae rheoliadau 3, 4 a 7 yn cywiro gwallau teipograffyddol a gwallau drafftio yn Rheoliadau 2006.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer cymorth i fyfyrwyr cymwys sy'n dilyn cyrsiau dynodedig ym maes addysg uwch yng Nghanolfan Bologna, Coleg Ewrop neu'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007.

Mae grant at ffioedd ar gael ar gyfer un myfyriwr cymwys yng Nghanolfan Bologna.

Mae grant at ffioedd, grantiau at gostau byw a chostau eraill, lwfans myfyrwyr anabl a grant ar gyfer dibynyddion ar gael ar gyfer hyd at ddau fyfyriwr cymwys yng Ngholeg Ewrop.

Mae grantiau at gostau byw a chostau eraill, lwfans myfyrwyr anabl a grant ar gyfer dibynyddion ar gael ar gyfer un myfyriwr cymwys yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.

Mae'r Rheoliadau'n disgrifio'r meini prawf cymhwystra ar gyfer y grantiau, y weithdrefn ar gyfer gwneud cais a'r dull o gyfrifo swm y grant sy'n daladwy. Mae'r Rheoliadau yn disgrifio hefyd y trefniadau ar gyfer talu'r grantiau ac adennill unrhyw ordaliadau.

Gwneir darpariaeth hefyd yn y Rheoliadau hyn i gydymffurfio ag erthygl 9 o Benderfyniad Rhif 1/80 Cyngor y Gymdeithas dyddiedig 19 Medi 1980 ar ddatblygiad y Gymdeithas rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Thwrci.

Crewyd Cyngor y Gymdeithas drwy gytundeb a sefydlodd gymdeithas rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Thwrci ac a lofnodwyd yn Ankara ar 12 Medi 1963 gan Weriniaeth Twrci ar y naill law ac Aelod-wladwriaethau'r CEE a'r Gymuned ar y llall. Cafodd y cytundeb ei gwblhau, ei gymeradwyo a'i gadarnhau ar ran y Gymuned gan Benderfyniad y Cyngor 64/732/CEE dyddiedig 23 Rhagfyr 1963 (OJ 1973 p. 113 t. 1).

Mae Erthygl 9 o Benderfyniad Rhif 1/80 Cyngor y Gymdeithas dyddiedig 19 Medi 1980 ar ddatblygu'r gymdeithas yn darparu bod rhaid derbyn plant Twrcaidd sy'n preswylio'n gyfreithlon mewn Aelod-wladwriaeth gyda'u rhieni sydd, neu sydd wedi bod, yn cael eu cyflogi'n gyfreithlon yn yr Aelod-wladwriaeth honno, i gyrsiau addysg gyffredinol, prentisiaeth a hyfforddiant galwedigaethol o dan yr un cymwysterau mynediad addysg â phlant gwladolion yr Aelod-wladwriaeth honno. Gallant fod yn gymwys yn yr Aelod-wladwriaeth honno i elwa ar y manteision y darperir ar eu cyfer o dan y ddeddfwriaeth wladol yn y maes hwn.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 2006 i'r graddau a nodir yn rheoliadau 4 i 6.