Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

1.  At ddibenion yr Atodlen hon—

ystyr “aelod o'r teulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) —

(a)

mewn perthynas â gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol AEE, person hunan-gyflogedig ffin yr AEE neu berson hunan-gyflogedig yr AEE yw—

(i)

ei briod neu ei bartner sifil;

(ii)

ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil; neu

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol ef neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

(b)

o ran person Swisaidd cyflogedig, person Swisaidd cyflogedig y ffin, person Swisaidd hunangyflogedig y ffin neu berson Swisaidd hunangyflogedig—

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil;

(c)

o ran gwladolyn o'r GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 —

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil —

(aa)

sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

(bb)

sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu i'w bartner sifil;

(ch)

o ran gwladolyn o'r GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 —

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—

(aa)

sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

(bb)

sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu ei bartner sifil;

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

(d)

o ran gwladolyn o'r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9 —

(i)

ei briod neu ei bartner sifil; neu

(ii)

ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—

(aa)

sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

(bb)

sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu i'w bartner sifil;

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004(1) ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud ac i breswylio'n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;

ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill barti, a'r Conffederasiwn Swisaidd, o'r llal, ar Rydd Symudiad Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(2) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabuwyd gan lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(3) fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(4);

ystyr “gweithiwr” (“worker”) o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu o Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;

ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o'r AEE—

(a)

sy'n weithiwr yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig, ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “gweithiwr mudol AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n weithiwr, ac eithrio gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gweithiwr o Dwrci” (“Turkish worker”) yw gwladolyn o Dwrcai—

(a)

sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sydd, neu sydd wedi bod mewn cyflogaeth gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gwladolyn o'r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig;

ystyr “gwladolyn o'r GE” (“EC national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd;

ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State) yw Aelod-wladwriaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;

ystyr “hawl i breswylio'n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy'n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw —

(a)

o ran gwladolyn AEE, person sy'n hunan-gyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu o Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu

(b)

o ran gwladolyn Swisaidd, person sy'n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person hunangyflogedig AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunan-gyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE—

(a)

sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig, ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person Swisaidd cyflogedig” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd yn berson cyflogedig, ac eithrio person Swisaidd cyflogedig y ffin, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person Swisaidd cyflogedig y ffin” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—

(a)

sy'n berson cyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person Swisaidd hunangyflogedig” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson hunangyflogedig, heblaw person Swisaidd hunangyflogedig y ffin, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person Swisaidd hunangyflogedig y ffin” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd —

(a)

sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

(b)

sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bo dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person—

(a)

a gafodd ei hysbysu gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn neu aros yn y Deyrnas Unedig er yr ystyrir nad yw'n gymwys i gael ei adnabod fel ffoadur;

(b)

a gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros yn unol â hynny; ac

(c)

nad yw ei gyfnod o ganiatâd i ddod i mewn neu aros wedi dod i ben, neu ei fod wedi ei adnewyddu ac nad yw cyfnod yr adnewyddiad wedi dod i ben, neu fod apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002)(5) mewn perthynas â'i ganiatâd i ddod i mewn neu aros; ac

(ch)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers pan gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros;

ystyr “wedi setlo” (“settled”) yw'r ystyr a roddir iddo gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(6).

(1)

OJ L158, 30.4.2004, t77-123.

(2)

Cm. 4904.

(3)

Cmnd. 9171

(4)

Cmnd. 3906 (allan o brint; mae llungopïau ar gael, am ddim, oddi wrth yr Adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Addysg a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).

(5)

2002 p.41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Hawlwyr etc.) 2004 (p.19), adran 26 ac Atodlenni 2 a 4, a Deddf Mewnfudo Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p.13), adran 9.

(6)

1971 p.77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61)