ATODLEN

1

At ddibenion yr Atodlen hon—

  • ystyr “aelod o'r teulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) —

    1. a

      mewn perthynas â gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol AEE, person hunan-gyflogedig ffin yr AEE neu berson hunan-gyflogedig yr AEE yw—

      1. i

        ei briod neu ei bartner sifil;

      2. ii

        ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil; neu

      3. iii

        perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol ef neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

    2. b

      o ran person Swisaidd cyflogedig, person Swisaidd cyflogedig y ffin, person Swisaidd hunangyflogedig y ffin neu berson Swisaidd hunangyflogedig—

      1. i

        ei briod neu ei bartner sifil; neu

      2. ii

        ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil;

    3. c

      o ran gwladolyn o'r GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 —

      1. i

        ei briod neu ei bartner sifil; neu

      2. ii

        ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil —

        1. aa

          sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

        2. bb

          sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu i'w bartner sifil;

    4. ch

      o ran gwladolyn o'r GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 —

      1. i

        ei briod neu ei bartner sifil; neu

      2. ii

        ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—

        1. aa

          sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

        2. bb

          sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu ei bartner sifil;

      3. iii

        perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

    5. d

      o ran gwladolyn o'r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9 —

      1. i

        ei briod neu ei bartner sifil; neu

      2. ii

        ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—

        1. aa

          sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

        2. bb

          sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu i'w bartner sifil;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 200414 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud ac i breswylio'n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;

  • ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill barti, a'r Conffederasiwn Swisaidd, o'r llal, ar Rydd Symudiad Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 199915 ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

  • ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabuwyd gan lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 195116 fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 196717;

  • ystyr “gweithiwr” (“worker”) o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu o Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;

  • ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o'r AEE—

    1. a

      sy'n weithiwr yn y Deyrnas Unedig; a

    2. b

      sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig, ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “gweithiwr mudol AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n weithiwr, ac eithrio gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “gweithiwr o Dwrci” (“Turkish worker”) yw gwladolyn o Dwrcai—

    1. a

      sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig; a

    2. b

      sydd, neu sydd wedi bod mewn cyflogaeth gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “gwladolyn o'r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig;

  • ystyr “gwladolyn o'r GE” (“EC national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd;

  • ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State) yw Aelod-wladwriaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;

  • ystyr “hawl i breswylio'n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy'n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

  • ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

  • ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw —

    1. a

      o ran gwladolyn AEE, person sy'n hunan-gyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu o Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu

    2. b

      o ran gwladolyn Swisaidd, person sy'n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

  • ystyr “person hunangyflogedig AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunan-gyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE—

    1. a

      sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

    2. b

      sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig, ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “person Swisaidd cyflogedig” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd yn berson cyflogedig, ac eithrio person Swisaidd cyflogedig y ffin, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person Swisaidd cyflogedig y ffin” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—

    1. a

      sy'n berson cyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

    2. b

      sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “person Swisaidd hunangyflogedig” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson hunangyflogedig, heblaw person Swisaidd hunangyflogedig y ffin, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person Swisaidd hunangyflogedig y ffin” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd —

    1. a

      sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

    2. b

      sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bo dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person—

    1. a

      a gafodd ei hysbysu gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn neu aros yn y Deyrnas Unedig er yr ystyrir nad yw'n gymwys i gael ei adnabod fel ffoadur;

    2. b

      a gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros yn unol â hynny; ac

    3. c

      nad yw ei gyfnod o ganiatâd i ddod i mewn neu aros wedi dod i ben, neu ei fod wedi ei adnewyddu ac nad yw cyfnod yr adnewyddiad wedi dod i ben, neu fod apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002)18 mewn perthynas â'i ganiatâd i ddod i mewn neu aros; ac

    4. ch

      sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers pan gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros;

  • ystyr “wedi setlo” (“settled”) yw'r ystyr a roddir iddo gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 197119.