Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) 2007
Enwi a chychwyn1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 3 Awst 2007.
Dehongli2.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn—
- mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr y mae “food authority” yn ei ddwyn yn rhinwedd adran 5 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19904 ac eithrio nad yw'n cynnwys y Trysorydd priodol y cyfeirir ato yn adran 5(1)(c) o'r Ddeddf honno (sy'n ymwneud â'r Deml Fewnol a Chanol);
ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 ar fesurau brys sy'n atal defnyddio E 128 Red 2G fel lliw bwyd;
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod bwyd, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig ganddo, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.
(2)
Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd yn cael eu haseinio—
(a)
(b)
(c)
mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u haseinio felly iddo.
(3)
Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn yn gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn fel y'i diwygiwyd o dro i dro.
Atal gweithgareddau sy'n ymwneud â'r lliw E128 Red 2G3.
(1)
(a)
Erthygl 1(1) (atal defnyddio lliw E 128 Red 2G mewn bwyd);
(b)
Erthygl 1(2) (atal rhoi ar y farchnad fwyd sy'n cynnwys y lliw E 128 Red 2G); neu
(c)
Erthygl 1(3) (atal mewnforio bwyd sy'n cynnwys y lliw E 128 Red 2G).
(2)
Mae person yn euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn atebol o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.
Gorfodi4.
Dyletswydd pob awdurdod iechyd bwyd yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 19905.
Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf honno neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a)
adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(b)
(c)
adran 32 (pwerau mynediad);
(ch)
adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(d)
adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
(dd)
(e)
(f)
adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(ff)
(g)
adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi o ran Cymru Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 ar fesurau brys i atal defnyddio E 128 Red 2G fel lliw bwyd (OJ Rhif L195, 27.7.2007, t.8).
Yn rhinwedd Cyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 94/36/EC (OJ Rhif L237, 10.9.1994, t.13, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor, OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1), mae'r lliw E 128 Red 2G wedi cael ei awdurdodi'n gyfreithiol ar gyfer ei ddefnyddio ym mhob Aelod-wladwriaeth. Rhoddwyd y Gyfarwyddeb honno ar waith gan Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3124, fel y'i diwygiwyd). Er hynny, mae Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 yn atal gydag effaith ar unwaith y defnydd o'r lliw E 128 Red 2G mewn bwyd a rhoi ar y farchnad a mewnforio bwyd sy'n cynnwys y lliw E 128 Red 2G.
Mae'r Rheoliadau hyn—
yn darparu bod person sydd yn mynd yn groes i neu'n methu â chydymffurfio â darpariaethau penodol Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2007 (ynghylch atal defnyddio'r lliw E128 Red 2G mewn bwyd; atal rhoi ar y farchnad fwyd sy'n cynnwys y lliw E128 Red 2G; ac atal mewnforio bwyd sy'n cynnwys y lliw E128 Red 2G) yn euog o dramgwydd (rheoliad 3(1));
yn darparu cosbau am dramgwyddau o dan reoliad 3(1) (rheoliad 3(2));
yn darparu ar gyfer eu gweithredu a'u gorfodi (rheoliad 4); ac
yn cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16) at ddibenion y Rheoliadau (rheoliad 5);
Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol wedi cael ei baratoi a gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.