System gymeradwyo8

1

Rhaid i'r corff cymeradwyo weithredu system ar gyfer penderfynu ceisiadau am gymeradwyaeth a gyflwynir iddo o dan y cynllun hwn a rhaid iddo wneud trefniadau digonol i roi cyhoeddusrwydd i fanylion y system honno.

2

Yn benodol, a heb leihau effaith paragraff (1) yn gyffredinol, rhaid i'r system gymeradwyo y cyfeiriwyd ati yn y paragraff hwnnw:

a

darparu ar gyfer gweithdrefn y caniateir i geisydd wneud cais drwyddi am gymeradwyaeth;

b

nodi gofynion sy'n ymwneud â cheisydd yn darparu tystiolaeth ddogfennol neu dystiolaeth arall sy'n angenrheidiol i ddangos bod y meini prawf cymeradwyo wedi'u bodloni;

c

darparu ar gyfer gweithdrefn y caniateir i gymeradwyaethau gael eu tynnu'n ôl drwyddi;

ch

darparu bod y ceisydd yn cael hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad i roi neu wrthod cymeradwyaeth neu ei thynnu'n ôl;

d

darparu ar gyfer gweithdrefn y gellir canfod drwyddi a yw unigolyn wedi'i gymeradwyo am y tro o dan y cynllun; ac

dd

darparu ar gyfer cadw cofnodion priodol sy'n ymwneud â cheisiadau am gymeradwyaethau ac yn ymwneud â rhoi neu wrthod cymeradwyaethau o'r fath neu eu tynnu'n ôl.

3

Rhaid i'r corff cymeradwyo gadw cofnod o'r personau hynny y mae cymeradwyaeth wedi'i rhoi iddynt am y tro o dan y Cynllun hwn.

4

Caniateir i'r cofnodion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraffau (2) a (3) gael eu cadw drwy gyfrwng cyfrifiadur.