Diffiniadau2.
Yn y Cynllun hwn—
- mae i'r term “cartref plentyn” yr ystyr a briodolir i'r term “child’s home” yn Rheoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i'w Gael a'r Gyfradd Uchaf) 20023;
ystyr “corff cymeradwyo” (“approval body”) yw'r corff y cyfeirir ato yn erthygl 3;
mae i “cyfrifoldeb rhiant” a “maethu plentyn yn breifat” yr ystyron a briodolir i'r ymadroddion “parental responsibility” a “fosters a child privately” gan adrannau 3 a 66 o Ddeddf 1989;
- ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 19894;
mae i'r ymadrodd “gofal plant cymwys” (“qualifying child care”) yr ystyr a briodolir iddo yn erthygl 5;
mae i'r ymadrodd “meini prawf cymeradwyo” (“approval criteria”) yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 7;
ystyr “perthynas” (“relative”) o ran plentyn yw taid (tad-cu), nain (mam-gu), modryb, ewythr, brawd neu chwaer, (boed o waed coch cyfan, o hanner gwaed, drwy briodas, drwy bartneriaeth sifil neu drwy gyfathrach) neu lys-riant;
- mae i'r term “plentyn” yr ystyr a briodolir i'r term “child” yn Rheoliadau Credyd Treth Plant 20025;
- ystyr “y Rheoliadau Tribiwnlys” (“the Tribunal Regulations”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf a Safonau Gofal 20026;
mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys person—
- (a)
sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn;
- (b)
rhiant maeth awdurdod lleol mewn perthynas â phlentyn;
- (ch)
rhiant maeth y mae plentyn wedi'i leoli gydag ef gan gorff gwirfoddol; neu
- (c)
person sy'n maethu plentyn yn breifat.
- (a)
- ystyr “y Tribiwnlys” (“the Tribunal”) yw'r tribiwnlys a sefydlwyd gan adran 9 o Ddeddf Amddiffyn Plant 19997;
ystyr “tystysgrif cymorth cyntaf berthnasol” (“relevant first-aid certificate”) yw tystysgrif ar gyfer cwrs hyfforddiant cymorth cyntaf—
- (a)
sy'n addas i ofal babanod a phlant;
- (b)
sy'n cynnwys hyfforddiant yn y meysydd canlynol: ymdrin ag argyfyngau; dadebru; sioc; tagu; sioc anaffylactig; ac
- (c)
y mae'r ceisydd wedi ymgymryd ag ef heb fod yn fwy na thair blynedd cyn y dyddiad y mae'r cais am gymeradwyaeth yn cael ei wneud.
- (a)