- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2. Yn y Cynllun hwn—
mae i'r term “cartref plentyn” yr ystyr a briodolir i'r term “child’s home” yn Rheoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i'w Gael a'r Gyfradd Uchaf) 2002(1);
ystyr “corff cymeradwyo” (“approval body”) yw'r corff y cyfeirir ato yn erthygl 3;
mae i “cyfrifoldeb rhiant” a “maethu plentyn yn breifat” yr ystyron a briodolir i'r ymadroddion “parental responsibility” a “fosters a child privately” gan adrannau 3 a 66 o Ddeddf 1989;
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989(2);
mae i'r ymadrodd “gofal plant cymwys” (“qualifying child care”) yr ystyr a briodolir iddo yn erthygl 5;
mae i'r ymadrodd “meini prawf cymeradwyo” (“approval criteria”) yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 7;
ystyr “perthynas” (“relative”) o ran plentyn yw taid (tad-cu), nain (mam-gu), modryb, ewythr, brawd neu chwaer, (boed o waed coch cyfan, o hanner gwaed, drwy briodas, drwy bartneriaeth sifil neu drwy gyfathrach) neu lys-riant;
mae i'r term “plentyn” yr ystyr a briodolir i'r term “child” yn Rheoliadau Credyd Treth Plant 2002(3);
ystyr “y Rheoliadau Tribiwnlys” (“the Tribunal Regulations”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf a Safonau Gofal 2002(4);
mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys person—
sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn;
rhiant maeth awdurdod lleol mewn perthynas â phlentyn;
rhiant maeth y mae plentyn wedi'i leoli gydag ef gan gorff gwirfoddol; neu
person sy'n maethu plentyn yn breifat.
ystyr “y Tribiwnlys” (“the Tribunal”) yw'r tribiwnlys a sefydlwyd gan adran 9 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(5);
ystyr “tystysgrif cymorth cyntaf berthnasol” (“relevant first-aid certificate”) yw tystysgrif ar gyfer cwrs hyfforddiant cymorth cyntaf—
sy'n addas i ofal babanod a phlant;
sy'n cynnwys hyfforddiant yn y meysydd canlynol: ymdrin ag argyfyngau; dadebru; sioc; tagu; sioc anaffylactig; ac
y mae'r ceisydd wedi ymgymryd ag ef heb fod yn fwy na thair blynedd cyn y dyddiad y mae'r cais am gymeradwyaeth yn cael ei wneud.
Rheoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i'w Gael a'r Gyfradd Uchaf) 2002 (O.S. 2002/2005).
Deddf Plant 1989 (p.41).
Rheoliadau Credyd Treth Plant 2002 (O.S. 2002/2007)
Rheoliadau Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf a'r Tribiwnlys Safonau Gofal 2002 (OS 2002/816).
Deddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: