Apelau11

1

Pan fo'r corff cymeradwyo yn gwrthod cais am roi cymeradwyaeth neu'n tynnu'n ôl gymeradwyaeth a roddwyd o'r blaen, caniateir apêl i'r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

2

Bydd darpariaethau'r Rheoliadau Tribiwnlys yn gymwys i apêl o dan baragraff (1) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i apêl o dan adran 79M o Ddeddf 1989 ac fel petai'r darpariaethau hynny wedi'u nodi yn y Cynllun hwn, ond gyda'r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3).

3

Bydd Atodlen 2 i'r Rheoliadau Tribiwnlys yn gymwys fel petai—

a

unrhyw gyfeiriad at apêl o dan Ddeddf 1989 yn gyfeiriad at apêl o dan erthygl 11(1) o'r Cynllun hwn;

b

unrhyw gyfeiriad at unrhyw gofrestriad yn gyfeiriad at gymeradwyaeth a roddwyd o dan y Cynllun hwn;

c

unrhyw gyfeiriad at ddileu cofrestriad yn gyfeiriad at dynnu cymeradwyaeth yn ôl o dan y Cynllun hwn;

ch

unrhyw gyfeiriad at y corff cofrestru neu'r ymatebydd yn gyfeiriad at y corff cymeradwyo;

d

paragraff 3(3)(c) o'r Atodlen honno wedi'i addasu yn y modd a bennir ym mharagraff (4) o'r erthygl hon ac fel petai unrhyw gyfeiriad at y paragraff 3 a enwyd yn gyfeiriad at y paragraff hwnnw fel y'i haddaswyd yn y modd hwnnw.

4

Bydd y paragraff 3(3)(c) a enwyd yn gymwys—

a

fel petai'r penderfyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (ii) o'r paragraff hwnnw yn gyfeiriad at y penderfyniad i wrthod rhoi cymeradwyaeth neu i dynnu cymeradwyaeth yn ôl o dan y Cynllun hwn; a

b

fel pe na bai is-baragraff (iii) o'r paragraff hwnnw'n gymwys.

5

Pan fo apêl, caiff y Tribiwnlys—

a

cadarnhau'r penderfyniad i wrthod rhoi'r gymeradwyaeth neu'r penderfyniad i dynnu'r gymeradwyaeth yn ôl;

b

cyfarwyddo na fydd y penderfyniad hwnnw i wrthod neu i dynnu'n ôl yn effeithiol, neu y bydd yn peidio â bod yn effeithiol; neu

c

cyfarwyddo'r corff cymeradwyo i ailystyried unrhyw benderfyniad sy'n destun yr apêl.