- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11.—(1) Pan fo'r corff cymeradwyo yn gwrthod cais am roi cymeradwyaeth neu'n tynnu'n ôl gymeradwyaeth a roddwyd o'r blaen, caniateir apêl i'r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
(2) Bydd darpariaethau'r Rheoliadau Tribiwnlys yn gymwys i apêl o dan baragraff (1) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i apêl o dan adran 79M o Ddeddf 1989 ac fel petai'r darpariaethau hynny wedi'u nodi yn y Cynllun hwn, ond gyda'r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3).
(3) Bydd Atodlen 2 i'r Rheoliadau Tribiwnlys yn gymwys fel petai—
(a)unrhyw gyfeiriad at apêl o dan Ddeddf 1989 yn gyfeiriad at apêl o dan erthygl 11(1) o'r Cynllun hwn;
(b)unrhyw gyfeiriad at unrhyw gofrestriad yn gyfeiriad at gymeradwyaeth a roddwyd o dan y Cynllun hwn;
(c)unrhyw gyfeiriad at ddileu cofrestriad yn gyfeiriad at dynnu cymeradwyaeth yn ôl o dan y Cynllun hwn;
(ch)unrhyw gyfeiriad at y corff cofrestru neu'r ymatebydd yn gyfeiriad at y corff cymeradwyo;
(d)paragraff 3(3)(c) o'r Atodlen honno wedi'i addasu yn y modd a bennir ym mharagraff (4) o'r erthygl hon ac fel petai unrhyw gyfeiriad at y paragraff 3 a enwyd yn gyfeiriad at y paragraff hwnnw fel y'i haddaswyd yn y modd hwnnw.
(4) Bydd y paragraff 3(3)(c) a enwyd yn gymwys—
(a)fel petai'r penderfyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (ii) o'r paragraff hwnnw yn gyfeiriad at y penderfyniad i wrthod rhoi cymeradwyaeth neu i dynnu cymeradwyaeth yn ôl o dan y Cynllun hwn; a
(b)fel pe na bai is-baragraff (iii) o'r paragraff hwnnw'n gymwys.
(5) Pan fo apêl, caiff y Tribiwnlys—
(a)cadarnhau'r penderfyniad i wrthod rhoi'r gymeradwyaeth neu'r penderfyniad i dynnu'r gymeradwyaeth yn ôl;
(b)cyfarwyddo na fydd y penderfyniad hwnnw i wrthod neu i dynnu'n ôl yn effeithiol, neu y bydd yn peidio â bod yn effeithiol; neu
(c)cyfarwyddo'r corff cymeradwyo i ailystyried unrhyw benderfyniad sy'n destun yr apêl.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: