Pennir y corff cymeradwyo a enwir yn y Cynllun hwn gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 12(7) o'r Ddeddf (erthygl 3). Mae ceisiadau am gymeradwyaeth yn cael eu penderfynu gan y corff cymeradwyo yn unol â meini prawf a nodir yn y Cynllun hwn (erthygl 7).
Mae'r Cynllun hwn yn darparu ymhellach:
bod y corff cymeradwyo yn gweithredu system ar gyfer penderfynu ceisiadau am gymeradwyaeth (erthygl 8);
bod y corff cymeradwyo'n darparu gwybodaeth i Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i'w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau ynglŷn â chredyd treth gwaith (erthygl 9);
ar gyfer y cyfnod y bydd cymeradwyaeth yn ddilys (erthygl 10);
ar gyfer yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod cymeradwyaeth neu i'w thynnu'n ôl (erthygl 11);
bod ffioedd yn cael eu codi gan y corff cymeradwyo (erthygl 12);
ar gyfer y dyddiad cynharaf y gellir rhoi cymeradwyaethau o dan y cynllun (erthygl 13).
Mae'r Cynllun hwn yn gymwys o ran Cymru'n unig.