2007 Rhif 226 (Cy.20)
Y Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol o dan adran 12(6) o Ddeddf Credydau Treth 20021 a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 12(5), (7) ac (8) a 65(3) a (9) o'r Ddeddf honno, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor y Tribiwnlysoedd yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 19922, yn gwneud y Cynllun canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Cynllun hwn yw'r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 1 Chwefror 2007.
2
Mae'r Cynllun hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diffiniadau2
Yn y Cynllun hwn—
mae i'r term “cartref plentyn” yr ystyr a briodolir i'r term “child’s home” yn Rheoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i'w Gael a'r Gyfradd Uchaf) 20023;
ystyr “corff cymeradwyo” (“approval body”) yw'r corff y cyfeirir ato yn erthygl 3;
mae i “cyfrifoldeb rhiant” a “maethu plentyn yn breifat” yr ystyron a briodolir i'r ymadroddion “parental responsibility” a “fosters a child privately” gan adrannau 3 a 66 o Ddeddf 1989;
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 19894;
mae i'r ymadrodd “gofal plant cymwys” (“qualifying child care”) yr ystyr a briodolir iddo yn erthygl 5;
mae i'r ymadrodd “meini prawf cymeradwyo” (“approval criteria”) yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 7;
ystyr “perthynas” (“relative”) o ran plentyn yw taid (tad-cu), nain (mam-gu), modryb, ewythr, brawd neu chwaer, (boed o waed coch cyfan, o hanner gwaed, drwy briodas, drwy bartneriaeth sifil neu drwy gyfathrach) neu lys-riant;
mae i'r term “plentyn” yr ystyr a briodolir i'r term “child” yn Rheoliadau Credyd Treth Plant 20025;
ystyr “y Rheoliadau Tribiwnlys” (“the Tribunal Regulations”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf a Safonau Gofal 20026;
mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys person—
- a
sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn;
- b
rhiant maeth awdurdod lleol mewn perthynas â phlentyn;
- ch
rhiant maeth y mae plentyn wedi'i leoli gydag ef gan gorff gwirfoddol; neu
- c
person sy'n maethu plentyn yn breifat.
- a
ystyr “y Tribiwnlys” (“the Tribunal”) yw'r tribiwnlys a sefydlwyd gan adran 9 o Ddeddf Amddiffyn Plant 19997;
ystyr “tystysgrif cymorth cyntaf berthnasol” (“relevant first-aid certificate”) yw tystysgrif ar gyfer cwrs hyfforddiant cymorth cyntaf—
- a
sy'n addas i ofal babanod a phlant;
- b
sy'n cynnwys hyfforddiant yn y meysydd canlynol: ymdrin ag argyfyngau; dadebru; sioc; tagu; sioc anaffylactig; ac
- c
y mae'r ceisydd wedi ymgymryd ag ef heb fod yn fwy na thair blynedd cyn y dyddiad y mae'r cais am gymeradwyaeth yn cael ei wneud.
- a
Corff penodedig3
Nestor Primecare Services Limited sy'n masnachu fel Nestor Criminal Records Agency8 yw'r corff a bennwyd at ddibenion rhoi cymeradwyaethau o dan y Cynllun hwn.
Gofynion y Cynllun4
At ddibenion rheoliadau sy'n cael eu gwneud o dan adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002, dim ond—
a
os yw wedi'i gymeradwyo am y tro gan y corff cymeradwyo; a
b
ar gyfer gofal plant cymwys a ddarperir ganddo
y mae person yn ddarparydd gofal plant a gymeradwyir yn unol â'r Cynllun hwn.
Gofal Plant Cymwys5
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ystyr gofal plant cymwys yw gofal a ddarperir ar gyfer plentyn gan unigolyn am wobr yn llwyr neu'n bennaf yng nghartref y plentyn.
2
Pan fo'r gofal y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn cael ei ddarparu ar gyfer nifer o blant o wahanol gartrefi ar yr un pryd, mae hwnnw'n ofal plant cymwys os caiff ei ddarparu yn llwyr neu'n bennaf yng nghartref un neu ragor o'r plant y darperir y gofal iddynt.
3
Nid yw gofal plant cymwys yn cynnwys—
a
gwarchod plant sy'n ddarostyngedig i gofrestru yn unol â Rhan 10A o Ddeddf 1989;
b
gofal a ddarperir am wobr gan unrhyw berson ar gyfer plentyn wyth mlwydd oed neu'n hyn heblaw ei fod yn unol â pharagraff (1) neu (2).
c
gofal plant sy'n cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng nghartref y plentyn ar gyfer plentyn y mae'r darparydd yn rhiant iddo neu'n berthynas iddo; neu
ch
gofal plant sy'n cael ei ddarparu'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng nghartref perthynas i'r plentyn lle mae'r gofal hwnnw fel arfer yn cael ei ddarparu'n unig ar gyfer un neu fwy o blant y mae'r darparydd yn rhiant neu'n berthynas iddo neu iddynt.
Person a gymeradwywyd6
1
Yn ddarostyngedig i erthygl 13, rhaid rhoi cymeradwyaeth i berson fel darparydd gofal plant o dan y Cynllun hwn os yw'r corff cymeradwyo wedi'i fodloni bod y meini prawf cymeradwyo wedi'u bodloni mewn perthynas â'r person hwnnw.
2
Mae person y mae cymeradwyaeth wedi'i rhoi iddo o dan baragraff (1) yn peidio â bod yn berson sydd wedi'i gymeradwyo felly os yw'r gymeradwyaeth honno wedi'i thynnu'n ôl gan y corff cymeradwyo.
3
Caiff y corff cymeradwyo dynnu cymeradwyaeth yn ôl os yw wedi'i fodloni nad yw'r meini prawf cymeradwyo yn cael eu bodloni mwyach o ran y person hwnnw.
Meini prawf cymeradwyo7
O ran cais am gymeradwyaeth fel darparydd gofal plant, y meini prawf cymeradwyo yw—
a
bod y ceisydd yn 18 mlwydd oed neu drosodd;
b
bod y ceisydd wedi cael un o'r cymwysterau a bennir o dro i dro mewn rhestr a gedwir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion yr erthygl hon;
c
bod y ceisydd wedi sicrhau tystysgrif cymorth cyntaf berthnasol; ac
ch
nad yw'r ceisydd yn cael ei ystyried yn anaddas i weithio gyda phlant neu nad yw'n cael ei ystyried yn anaddas i gael mynd atynt heb oruchwyliaeth.
System gymeradwyo8
1
Rhaid i'r corff cymeradwyo weithredu system ar gyfer penderfynu ceisiadau am gymeradwyaeth a gyflwynir iddo o dan y cynllun hwn a rhaid iddo wneud trefniadau digonol i roi cyhoeddusrwydd i fanylion y system honno.
2
Yn benodol, a heb leihau effaith paragraff (1) yn gyffredinol, rhaid i'r system gymeradwyo y cyfeiriwyd ati yn y paragraff hwnnw:
a
darparu ar gyfer gweithdrefn y caniateir i geisydd wneud cais drwyddi am gymeradwyaeth;
b
nodi gofynion sy'n ymwneud â cheisydd yn darparu tystiolaeth ddogfennol neu dystiolaeth arall sy'n angenrheidiol i ddangos bod y meini prawf cymeradwyo wedi'u bodloni;
c
darparu ar gyfer gweithdrefn y caniateir i gymeradwyaethau gael eu tynnu'n ôl drwyddi;
ch
darparu bod y ceisydd yn cael hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad i roi neu wrthod cymeradwyaeth neu ei thynnu'n ôl;
d
darparu ar gyfer gweithdrefn y gellir canfod drwyddi a yw unigolyn wedi'i gymeradwyo am y tro o dan y cynllun; ac
dd
darparu ar gyfer cadw cofnodion priodol sy'n ymwneud â cheisiadau am gymeradwyaethau ac yn ymwneud â rhoi neu wrthod cymeradwyaethau o'r fath neu eu tynnu'n ôl.
3
Rhaid i'r corff cymeradwyo gadw cofnod o'r personau hynny y mae cymeradwyaeth wedi'i rhoi iddynt am y tro o dan y Cynllun hwn.
4
Caniateir i'r cofnodion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraffau (2) a (3) gael eu cadw drwy gyfrwng cyfrifiadur.
Yr wybodaeth sydd i'w darparu gan y corff cymeradwyo9
Rhaid i'r corff cymeradwyo ddarparu i Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi unrhyw wybodaeth y mae arnynt ei hangen i gyflawni unrhyw un o'u swyddogaethau ynglŷn â chredyd treth gwaith a honno'n wybodaeth ynglŷn â chymeradwyo neu wrthod cymeradwyo personau o dan y Cynllun hwn neu dynnu cymeradwyaeth y personau hynny yn ôl.
Y cyfnod cymeradwyo10
1
Rhaid i gymeradwyaeth a roddir o dan y Cynllun hwn ddatgan cyfnod ei dilysrwydd a rhaid i'r cyfnod hwnnw beidio â bod yn hwy na 12 mis.
2
Nid oes dim yn yr erthygl hon yn rhagfarnu cymhwysiad erthygl 6(2).
Apelau11
1
Pan fo'r corff cymeradwyo yn gwrthod cais am roi cymeradwyaeth neu'n tynnu'n ôl gymeradwyaeth a roddwyd o'r blaen, caniateir apêl i'r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
2
Bydd darpariaethau'r Rheoliadau Tribiwnlys yn gymwys i apêl o dan baragraff (1) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i apêl o dan adran 79M o Ddeddf 1989 ac fel petai'r darpariaethau hynny wedi'u nodi yn y Cynllun hwn, ond gyda'r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3).
3
Bydd Atodlen 2 i'r Rheoliadau Tribiwnlys yn gymwys fel petai—
a
unrhyw gyfeiriad at apêl o dan Ddeddf 1989 yn gyfeiriad at apêl o dan erthygl 11(1) o'r Cynllun hwn;
b
unrhyw gyfeiriad at unrhyw gofrestriad yn gyfeiriad at gymeradwyaeth a roddwyd o dan y Cynllun hwn;
c
unrhyw gyfeiriad at ddileu cofrestriad yn gyfeiriad at dynnu cymeradwyaeth yn ôl o dan y Cynllun hwn;
ch
unrhyw gyfeiriad at y corff cofrestru neu'r ymatebydd yn gyfeiriad at y corff cymeradwyo;
d
paragraff 3(3)(c) o'r Atodlen honno wedi'i addasu yn y modd a bennir ym mharagraff (4) o'r erthygl hon ac fel petai unrhyw gyfeiriad at y paragraff 3 a enwyd yn gyfeiriad at y paragraff hwnnw fel y'i haddaswyd yn y modd hwnnw.
4
Bydd y paragraff 3(3)(c) a enwyd yn gymwys—
a
fel petai'r penderfyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (ii) o'r paragraff hwnnw yn gyfeiriad at y penderfyniad i wrthod rhoi cymeradwyaeth neu i dynnu cymeradwyaeth yn ôl o dan y Cynllun hwn; a
b
fel pe na bai is-baragraff (iii) o'r paragraff hwnnw'n gymwys.
5
Pan fo apêl, caiff y Tribiwnlys—
a
cadarnhau'r penderfyniad i wrthod rhoi'r gymeradwyaeth neu'r penderfyniad i dynnu'r gymeradwyaeth yn ôl;
b
cyfarwyddo na fydd y penderfyniad hwnnw i wrthod neu i dynnu'n ôl yn effeithiol, neu y bydd yn peidio â bod yn effeithiol; neu
c
cyfarwyddo'r corff cymeradwyo i ailystyried unrhyw benderfyniad sy'n destun yr apêl.
Ffioedd12
Caiff y corff cymeradwyo godi ar unrhyw berson sy'n ceisio cael cymeradwyaeth o dan y Cynllun hwn unrhyw ffi resymol y bydd y corff cymeradwyo'n penderfynu arni, a hynny'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Darpariaethau trosiannol13
Pan fo cais am gymeradwyaeth o dan y Cynllun hwn yn cael ei wneud cyn 6 Ebrill 2007, ni chaniateir rhoi cymeradwyaeth yn gynt na 6 Ebrill 2007.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19989.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)