xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2127) (“y prif Reoliadau”).

Maent yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb 2003/35/EC (OJ Rhif L156, 25.6.2003, t.17) sy'n darparu i'r cyhoedd gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau amgylcheddol penodol, sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC (OJ Rhif L175, 5.7.85, t.40, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC, OJ Rhif L73, 14.3.97, t.5) (“y Gyfarwyddeb EIA”) ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, i'r graddau y mae honno yn effeithio ar asesiadau effeithiau amgylcheddol ar dir heb ei drin ac ardaloedd lled-naturiol.

Maent hefyd yn cynnwys diwygiadau i adlewyrchu newid yn y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â datgelu gwybodaeth amgylcheddol.

Mae rheoliad 3 yn diweddaru dehongliadau yn y prif Reoliadau.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol, wrth arfer ei bŵer i roi cyfarwyddyd fod prosiect penodol wedi'i eithrio rhag rheoliadau 4 i 26 o'r prif Reoliadau, i ystyried a fyddai unrhyw asesiad o'r prosiect yn briodol, ac eithrio asesiad o'r math a fyddai yn digwydd o dan reoliadau 4 i 26 o'r prif Reoliadau, ac i roi gwybodaeth benodol yn ymwneud ag arfer y pŵer gerbron y cyhoedd.

Mae rheoliad 5 yn diweddaru'r cyfeiriad yn y prif Reoliadau at Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 1992 (O.S. 1992/3240 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1447), sydd bellach wedi'u dirymu. Mae'n darparu nad yw'n ofynnol i gorff ymgynghori ryddhau i ymgeisydd am ganiatâd unrhyw wybodaeth y caiff wrthod ei datgelu o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (O.S. 2004/3391) neu y'i rhwystrir rhag ei datgelu gan y Rheoliadau hynny.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi hysbysiad o gais am ganiatâd ar wefan briodol, ac yn ei gwneud yn ofynnol cynnwys gwybodaeth ychwanegol benodol yn yr hysbysiad.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi unrhyw hysbysiad o wybodaeth amgylcheddol ychwanegol ar wefan briodol.

Mae rheoliad 8 yn diwygio'r gofynion yn y prif Reoliadau sy'n ymwneud â phrosiectau yng Nghymru a ddichon effeithio ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaethau AEE eraill a vice versa.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu gwybodaeth ychwanegol benodol wrth roi hysbysiad o benderfyniad i roi neu i wrthod caniatâd.

Paratowyd Arfarniad Rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.