2007 Rhif 203 (Cy.17)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) (Diwygio) 2007

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â'r gofyniad i asesu'r effaith ar yr amgylchedd gan brosiectau sy'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd ac ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: