xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Cyhoeddus (Awyrennau) 1979(1) (“y prif Reoliadau”) sy'n darparu ar gyfer rheoli iechyd cyhoeddus awyrennau sy'n cyrraedd meysydd awyr yng Nghymru a Lloegr neu'n ymadael â hwy.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dod i rym ar 1 Awst 2007, ar ôl daw Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol 2005 (IHR) Sefydliad Iechyd y Byd yn dod yn effeithiol. (Mae testun llawn IHR 2005 ar gael ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), www.int/est/ihr/IHRWHA58_3-en.pdf).
Mae rheoliad 2 yn diwygio diffiniadau yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) ac yn ychwanegu diffiniadau newydd sy'n adlewyrchu'r IHR.
Mae rheoliad 3 yn hepgor darpariaethau yn rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (gorfodi a gweithredu rheoliadau) ynglŷn â dyletswyddau'r Ysgrifennydd Gwladol mewn meysydd awyr cenedlaethol. Mae rheoliad 5 yn darparu bod rheoliad 6 o'r prif Reoliadau (rhestr o ardaloedd heintiedig) yn cael ei hepgor.
Mae rheoliadau 4 a 16 yn dileu cyfeiriadau at “sanitary airport” yn rheoliad 5 a 22 o'r prif Reoliadau am nad yw'r cysyniad bellach yn ymddangos yn yr IHR.
Mae rheoliadau 6 i 14, 17 a 18 yn diwygio darpariaethau ynghylch awyrennau sy'n dod i mewn (RHAN III o'r prif Reoliadau) yng ngoleuni'r IHR ac fel arall. Yn ychwanegol, darperir ar gyfer twbercwlosis yn rheoliad 8, 9 a 15. Mae rheoliadau 19 a 20 yn gwneud diwygiadau sy'n cydweddu â'r IHR o ran awyrennau sy'n ymadael (Rhan IV o'r prif Reoliadau).
Mae rheoliadau 21 a 24 yn diwygio rheoliadau 30 (gwyliadwriaeth) a 37 (arbed ar gyfer deddfiadau sy'n bodoli) yn RHAN V o'r prif Reoliadau. Mae rheoliad 22 yn gwneud darpariaeth newydd o ran ffioedd gan awdurdod cyfrifol, gan adlewyrchu darpariaethau'r IHR. Caiff yr arbediad ar gyfer post yn rheoliad 35 o'r prif Reoliadau ei hepgor gan reoliad 23. Gwneir diwygiadau i Atodlenni 1 a 2 i'r prif Reoliadau gan reoliadau 25 a 26.
Mae o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes ar gael gan Stephanie Peaper ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ: Stephanie.Peaper@wales.gsi.gov.uk.