Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dod i rym ar 1 Awst 2007, ar ôl daw Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol 2005 (IHR) Sefydliad Iechyd y Byd yn dod yn effeithiol. (Mae testun llawn IHR 2005 ar gael ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), www.int/est/ihr/IHRWHA58_3-en.pdf).
Mae rheoliad 2 yn diwygio diffiniadau yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) ac yn ychwanegu diffiniadau newydd sy'n adlewyrchu'r IHR.
Mae rheoliad 3 yn hepgor darpariaethau yn rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (gorfodi a gweithredu rheoliadau) ynglŷn â dyletswyddau'r Ysgrifennydd Gwladol mewn meysydd awyr cenedlaethol. Mae rheoliad 5 yn darparu bod rheoliad 6 o'r prif Reoliadau (rhestr o ardaloedd heintiedig) yn cael ei hepgor.
Mae rheoliadau 4 a 16 yn dileu cyfeiriadau at “sanitary airport” yn rheoliad 5 a 22 o'r prif Reoliadau am nad yw'r cysyniad bellach yn ymddangos yn yr IHR.
Mae rheoliadau 6 i 14, 17 a 18 yn diwygio darpariaethau ynghylch awyrennau sy'n dod i mewn (RHAN III o'r prif Reoliadau) yng ngoleuni'r IHR ac fel arall. Yn ychwanegol, darperir ar gyfer twbercwlosis yn rheoliad 8, 9 a 15. Mae rheoliadau 19 a 20 yn gwneud diwygiadau sy'n cydweddu â'r IHR o ran awyrennau sy'n ymadael (Rhan IV o'r prif Reoliadau).
Mae rheoliadau 21 a 24 yn diwygio rheoliadau 30 (gwyliadwriaeth) a 37 (arbed ar gyfer deddfiadau sy'n bodoli) yn RHAN V o'r prif Reoliadau. Mae rheoliad 22 yn gwneud darpariaeth newydd o ran ffioedd gan awdurdod cyfrifol, gan adlewyrchu darpariaethau'r IHR. Caiff yr arbediad ar gyfer post yn rheoliad 35 o'r prif Reoliadau ei hepgor gan reoliad 23. Gwneir diwygiadau i Atodlenni 1 a 2 i'r prif Reoliadau gan reoliadau 25 a 26.
Mae o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes ar gael gan Stephanie Peaper ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ: Stephanie.Peaper@wales.gsi.gov.uk.