Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn ail-wneud Gorchymyn Heidiau Bridio Dofednod a Deorfeydd 1993 (O.S. 1993/1898).

Mae Erthygl 4 yn ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd deorfa ddofednod â chyfanswm capasiti deor o 1000 neu fwy o wyau hysbysu Gweinidogion Cymru. Mae Erthygl 5 yn ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd daliad lle y cedwir heidiau bridio o 250 neu fwy o ddofednod hysbysu Gweinidogion Cymru.

Mae'r Gorchymyn yn rhoi ar waith y rhaglen reoli genedlaethol ar gyfer ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus

(a)sy'n ofynnol gan Erthygl 5 o Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reoli salmonela ac asiantau milddynol penodedig eraill sy'n ymledu drwy fwyd (OJ Rhif L325, 12.12.2003, t.1); a

(b)a gymeradwywyd gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 6 o'r Rheoliad hwnnw.

Mae'r rhaglen reoli genedlaethol ar gael gan yr Is-dran Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Mae'r Gorchymyn yn gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 sy'n rhoi ar waith Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau bridio o Gallus gallus ac sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 (OJ Rhif L 170, 1.7. 2005, t.12).

Mae erthyglau 6 i 12 yn gymwys i feddiannydd daliad lle y cedwir heidiau bridio o ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus. Mae erthygl 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru bod heidiau bridio wedi cyrraedd y daliad ac mae erthygl 8 yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi gwybod pan fydd yr heidiau hynny'n symud i'r cam dodwy neu i'r uned ddodwy a phan fyddant yn cyrraedd diwedd y gylchred gynhyrchu. Mae erthygl 9 yn ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd samplau o'r heidiau hynny ac mae erthygl 10 yn ei gwneud yn ofynnol iddo anfon y samplau hynny i labordy a gymeradwywyd er mwyn eu profi am salmonela. Mae erthyglau 11 a 12 yn gosod gofynion cadw cofnodion ar y meddiannydd.

Mae erthygl 3 yn nodi dyletswyddau labordy a gymeradwywyd i baratoi a phrofi'r samplau ac i roi adroddiad ar y canlyniadau i'r meddiannydd.

Mae erthygl 14 yn gwahardd rhoi unrhyw asiant gwrthficrobaidd i ffowls domestig o'r rhywogaeth Gallus gallus, ac eithrio yn unol ag Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1177/2006 sy'n rhoi ar waith Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gofynion ar gyfer defnyddio mesurau rheoli penodol yn fframwaith y rhaglenni cenedlaethol ar gyfer rheoli salmonela mewn dofednod (OJ Rhif L212, 2.8.2006, t.3). Mae Erthygl 15 yn gwahardd rhoi unrhyw frechlyn salmonela byw i rywogaethau o'r fath, ac eithrio'n unol ag Erthygl 3(1) o'r Rheoliad hwnnw.

Mae Erthygl 16 yn gosod gofynion cadw cofnodion ar feddiannydd deorfa ddofednod.

Yr awdurdod lleol sydd i orfodi'r Gorchymyn. Mae peidio ag ufuddhau i'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p.22), ac mae'r gosb am hynny yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.

Mae asesiad effaith reoliadol a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes ac ar y sector gwirfoddol ar gael o'r cyfeiriad uchod ac fe'i hatodir i'r Memorandwm Esboniadol sydd ar gael ochr yn ochr â'r offeryn ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus.