xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002 fel y'i diwygiwyd (“y prif Reoliadau”).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/34/EC (OJ Rhif L83, 22.3.2006, t.14) sy'n diwygio'r Atodiad i Gyfarwyddeb 2001/15/EC o ran cynnwys sylweddau penodol.

3.  Mae'r prif Reoliadau yn gymwys i fwyd ar gyfer y rhan fwyaf o ffyrdd penodol o'i ddefnyddio'n faethol (ceir diffiniad o “bwyd DMN dynodedig” yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau hynny). Mae'r Rheoliadau hynny yn cyfyngu ar werthu bwydydd o'r fath pan fo sylwedd sy'n cwympo o fewn un o'r chwe categori canlynol wedi cael ei ychwanegu ato at ddiben maethol penodol: fitaminau; mwynau; asidau amino; carnitin a thawrin; niwcelotidau; colin ac inositol. Mewn achos o'r fath rhaid i'r sylwedd fod wedi'i restru o dan y categori perthnasol yn Atodlen 1 neu, yn achos bwydydd at ddibenion meddygol arbennig, yn Atodlen 1 neu 2. Mae yna randdirymiad ag iddo derfyn amser yn achos sylweddau a restrir yn Atodlen 3 (rheoliad 3(5) o'r Rheoliadau hynny).

4.  Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn ychwanegu sylweddau penodol at y rhestr yn y categorïau fitaminau a mwynau y ceir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol at fwydydd DMN dynodedig (heb unrhyw derfyn amser) (rheoliad 4);

(b)yn ychwanegu sylwedd yn y categori mwynau at y rhestr o sylweddau y ceir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol at fwydydd at ddibenion meddygol arbennig (heb unrhyw derfyn amser) (rheoliad 5);

(c)yn diweddaru'r diffiniad o “Cyfarwyddeb 2001/15” (rheoliad 3).

5.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd diwygio Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddibenion Maethol Penodol (Cymru a Lloegr) 2002 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru er mwyn dileu geiriau dianghenraid o reoliad 6 o'r Rheoliadau hynny (rheoliad 6).

6.  Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â chopi o'r nodyn trosi sy'n ymwneud â'r Rheoliadau hyn. Gellir hefyd gael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House Caerdydd CF10 1EW.