xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1536 (Cy. 153)) (“y prif Reoliadau”).
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 16(4) o'r prif Reoliadau er mwyn rhoi effaith i'r estyniad tan 1 Gorffennaf 2007 ar waharddiad cyfredol yr Undeb Ewropeaidd ar fewnforio adar caeth o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Darperir ar gyfer y gwaharddiad gan ddeddfwriaeth y Gymuned o dan Benderfyniad y Comisiwn 2005/760/EC ynghylch mesurau diogelu penodol o ran ffliw adar pathogenig iawn mewn trydydd gwledydd penodol ar gyfer mewnforio adar caeth (OJ Rhif L285, 28.10.2005, t. 52), fel y'i diwygiwyd, yn benodol gan Benderfyniad y Comisiwn 2005/862/EC, a chan Benderfyniad y Comisiwn dyddiedig 23 Mawrth 2007 (OJ Rhif L84, 24.03.2007, t.44), sy'n rhoi effaith i estyniad pellach ar y gwaharddiad.
Mae rheoliadau 3 a 4 yn dirymu diwygiadau cynharach i'r prif Reoliadau a oedd yn rhoi effaith i estyniadau blaenorol ar y gwaharddiad i fewnforio.