2007 Rhif 1080 (Cy.127)
Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Mewnforio Adar Caeth) 2007
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Erwropeaidd 19722 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno:
1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Mewnforio Adar Caeth) 2007.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.
2
Yn rheoliad 16(4) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 20063, yn lle “1 April 2007” rhodder “1 July 2007”.
3
Dirymir rheoliad 2(3) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Diwygio) 20064 .
4
Dirymir Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 20065.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)