xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
27 Mawrth 2007
Yn dod i rym
6 Ebrill 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2), ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw wrth lunio'r Rheoliadau fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2007, deuant i rym ar 6 Ebrill 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Diwygir Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003(4) diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 5.
3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2002/46” mewnosoder ar y diwedd “, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/37/EC(5) sy'n diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran cynnwys sylweddau penodol”.
4. Yn Atodlen 1 (fitaminau a mwynau y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu ychwanegion bwyd), yn Adran 1 (fitaminau), yn lle “Asid ffolig” rhodder “Ffolad”.
5. Yn Atodlen 2 (ffurf ar sylweddau fitamin a mwyn y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu ychwanegion bwyd)—
(a)yn adran A (fitaminau), yn eitem 10 yn lle'r pennawd “ASID FFOLIG” rhodder “FFOLAD”, ac o dan y pennawd (diwygiedig) hwnnw rhodder ar y diwedd “(b) calsiwm L-methylffolad”;
(b)yn adran B (mwynau) o flaen “Carbonad cwprig” mewnosoder “Bisglycinad fferus”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003 sy'n gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ar atchwanegiadau bwyd (OJ Rhif L183, 12.7.2002, t.51). Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/37/EC (OJ Rhif L94, 1.4.2006, t.32) sy'n diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/46/EC o ran cynnwys sylweddau penodol.
2. Mae Rheoliadau 2003 yn gwahardd gwerthu atchwanegiad bwyd y defnyddiwyd fitamin neu fwyn wrth ei gynhyrchu oni bai i'r fitamin hwnnw neu i'r mwyn hwnnw gael ei restru yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hynny ac oni bai ei fod ar ffurf a restrir yn Atodlen 2 (y rhestri cadarnhaol), yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol (rheoliad 5 ac Atodlenni i'r Rheoliadau hynny).
3. Mae'r Rheoliadau hyn—
(a)yn ychwanegu ffurf arall ar y fitamin ffolad a ffurf arall ar y mwyn haearn at y rhestr gadarnhaol yn Atodlen 2 yn Rheoliadau 2003 (rheoliad 5) ac yn gwneud diwygiad canlyniadol (rheoliad 4);
(b)yn diweddaru'r diffiniad o “Cyfarwyddeb 2002/46/EC” yn Rheoliadau 2003 (rheoliad 3).
4. Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2006/37/EC yn cael eu trosi yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.
1990 p. 16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 ac 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S.2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990.
Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Secretary of State”, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t. 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf o ran y dyddiad y cafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L 100, 8.4.2006, t.3).
O.S. 2003/1719 (Cy. 186), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L94, 1.4.2006, t.32.